Cynigion i fynd i'r afael â gwastraff plastig a deunydd pacio

Cyhoeddwyd 27/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Llun 18 Chwefror, rhyddhaodd Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, ddatganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi tri ymgynghoriad sy'n ceisio mynd i'r afael â gwastraff plastig a deunydd pacio.

Mae wedi annog y cyhoedd yng Nghymru i fynegi eu barn ar y cynigion ar y cyd, a lansiwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae'r cynigion yn cynnwys Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer deunydd pacio (a fydd yn berthnasol i'r DU gyfan), a Chynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd sy'n gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (cynhaliodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar gynigion DRS y llynedd).

Mae trydydd ymgynghoriad ar gyfer y DU gyfan, a gyhoeddwyd gan Drysorlys EM, yn ceisio barn ar dreth arfaethedig ar gynhyrchu a mewnforio deunydd pacio plastig sy'n cynnwys llai na 30 y cant o gynnwys wedi'i ailgylchu.

Mae'r dulliau hyn ar gyfer lleihau gwastraff plastig yn cefnogi cynlluniau gweinidogol Cymru i symud tuag at economi gylchol, lle na fydd cynhyrchion/deunydd pacio fyth yn wastraff, ond yn cyfrannu'n gadarnhaol at yr economi.

Mae'r blog hwn yn edrych ar gynigion DEFRA mewn mwy o fanylder.

Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR)

Cyflwynwyd yr EPR gan Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE, ac mae'n ffordd o annog cynhyrchwyr i ystyried cyfnod cylch oes cynnyrch ar ôl ei ddefnyddio drwy roi cyfrifoldeb iddynt am reoli beth sy'n digwydd iddo wedyn, gan gynnwys y costau rheoli gwastraff. Mae hyn yn unol â'r egwyddor 'llygrwr sy'n talu'.

Roedd adroddiad 2018 Eunomia, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ar yr opsiynau ar gyfer cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr yng Nghymru yn nodi'r opsiynau, yn unol ag egwyddorion yr EPR, i fynd i'r afael â nifer o faterion sy'n gysylltiedig â deunydd pacio bwyd a diod allweddol a sbwriel cysylltiedig yng Nghymru.

Roedd yr adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru geisio adennill y costau llawn, gan ostwng i 80 y cant mewn rhai achosion, gan y cynhyrchwyr. Awgrymodd y byddai hyn yn ail-gydbwyso costau i ffwrdd oddi wrth ddinasyddion/trethdalwyr tuag at ddefnyddwyr/cynhyrchwyr yn unol â nodau llesiant economi ffyniannus a mwy cyfartal Llywodraeth Cymru.

Mewn Datganiad Cyfarfod Llawn ar 8 Mai 2018 ar ddatblygiadau EPR yng Nghymru, dywedodd Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd:

Ers comisiynu'r adroddiad hwn, bu datblygiadau ar lefel y DU, ac mewn rhai meysydd mae'n gwneud synnwyr i ni gydweithio â DEFRA a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.

O dan y system EPR arfaethedig yr ymgynghorir arni, bydd busnesau a gweithgynhyrchwyr yn talu'r gost lawn o ailgylchu neu waredu â'u gwastraff pecynnu. Nod y cynigion yw gweld gostyngiad yn y defnydd o ddeunydd pacio diangen ac anodd ei ailgylchu:

we want more packaging to be designed for optimal recyclability, we want more packaging waste to be recycled and we want more packaging to be made from recycled material.

cwsmer yn dewis potel ddŵr blastig mewn siop

Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS)

Diben system DRS yw annog pobl i ddychwelyd deunyddiau i broses drefnus o'u hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu trin/gwaredu. Egwyddor sylfaenol systemau ernes ar ddeunyddiau pacio diodydd yw bod defnyddwyr, ar ôl prynu cynhyrchion diodydd, yn talu ffi ychwanegol am y deunydd pacio ar ffurf ernes. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn diffinio DRS fel a ganlyn:

… the surcharge on the price of potentially polluting products. When pollution is avoided by returning the products or their residuals, a refund of the surcharge is granted.

Mae'r cynigion ar y cyd yn nodi dau fodel posibl - y model 'i gyd', na fyddai'n gosod unrhyw gyfyngiadau ar faint cynwysyddion diod o fewn cwmpas DRS, gan dargedu llawer iawn o gynwysyddion diodydd sydd ar y farchnad, ni waeth beth fo'u maint. Byddai'r model amgen 'ar-fynd' yn cyfyngu'r cynwysyddion diod yng nghwmpas y DRS i'r rhai llai na 750ml o faint ac sy'n cael eu gwerthu mewn cynwysyddion fformat sengl. Byddai hyn yn targedu cynwysyddion a werthir gan amlaf i'w defnyddio y tu allan i'r cartref, a'r rhai sy'n fwy tebygol o beidio â chael eu cynnwys yn y ffrydiau ailgylchu gwastraff.

Mae'r ymgynghoriad yn cyflwyno cysyniad o sefydliad neu gorff canolog i reoli gweithrediad DRS, ac mae'n cynnig corff di-elw newydd, y Sefydliad Rheoli Ernesau (DMO), a fyddai'n cael ei sefydlu at ddibenion rhedeg y DRS:

Due to the proposed management of financial flows, a monitoring and enforcement body would be needed to monitor and audit DMO operations to ensure the system is operating fairly and transparently

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai'r cynigion:

… drive up the recycling of an estimated three billion plastic bottles which are currently incinerated, sent to landfill or left to pollute streets, countryside and the marine environment.

Treth ar Ddeunydd Pacio Plastig

Cyflwynwyd treth ar blastig untro gan Lywodraeth Cymru fel un o bedair treth newydd a ystyriwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Yna cyhoeddodd Llywodraeth y DU alwad am dystiolaeth ar drethi o amgylch plastigau untro. Mae Llywodraeth Cymru wedi “dewis gweithio gyda Thrysorlys y DU i geisio cael treth ar blastig untro ledled y DU”.

Dywedodd Hannah Blythyn AC:

Mae gwastraff plastig a gwastraff deunydd pacio yn faterion pwysig. Bob blwyddyn yn y DU rydyn ni’n cynhyrchu cyfanswm o tuag 11 miliwn o dunelli o wastraff deunydd pacio, ac mae 2.3 miliwn o dunelli o'r gwastraff hwn yn wastraff deunydd pacio.

Byddai treth arfaethedig y Trysorlys ar blastig yn dod i rym ym mis Ebrill 2022, a'i nod yw creu cymhelliad ariannol i ddefnyddio plastigau wedi'u hailgylchu yn lle deunyddiau newydd.

Bwriad y dreth arfaethedig yw annog cynnydd yn y cynnwys plastig wedi'i ailgylchu mewn deunydd pacio plastig a gaiff ei gynhyrchu a'i werthu yn y DU, ac felly bydd yn cynnwys deunyddiau a weithgynhyrchwyd neu a fewnforiwyd i'r DU. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau nad yw gweithgynhyrchwyr y DU dan anfantais gystadleuol, ni fydd allforion o ddeunydd pacio plastig y codir tâl amdanynt yn ddarostyngedig i'r dreth.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru