Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru
Cyhoeddwyd 17/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
17 Rhagfyr 2013
Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn Natganiad yr Hydref 2013 yr wythnos diwethaf, gwelwyd newid yng nghyfeiriad cefnogaeth ariannol Llywodraeth y DU ar gyfer ynni adnewyddadwy o ffermydd gwynt ar y tir i ffermydd gwynt ar y môr. Mae’r blog hwn yn edrych ar yr ystadegau diweddaraf ar gyfer ynni adnewyddadwy sydd wedi’u cyhoeddi gan Adran yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd am y cyfnod rhwng 2003 a 2012. Mae ystadegau manwl pellach ar gael yn y papur ymchwil Ynni Adnewyddadwy yng Nghymru: mewn ffigurau.
Mae’r ystadegau’n amlinellu faint o ynni a gynhyrchwyd gan ffynonellau adnewyddadwy yn ogystal a chyfanswm y gosodiadau ynni adnewyddadwy. Caiff y rhain eu dosbarthu yn ôl gweinyddiaethau gwahanol y DU, gan alluogi cymariaethau i gael eu gwneud ynghylch y cynnydd gan bob gwlad o ran cynyddu faint o ynni adnewyddadwy a gynhyrchir.
Bu cynnydd o 93 GigaWatt awr (4%) yn unig yn yr ynni a gynhyrchwyd o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru rhwng 2011 a 2012. Mae hyn yn cymharu â chynnydd o 18%, 7% a 30% yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn eu tro.
Trydan a gynhyrchwyd o ffynonellau adnewyddadwy 2003-2012
Mae nifer y gosodiadau (ac eithrio solar) wedi cynyddu llawer yn gyflymach, gyda chynnydd o 40% (o 352 i 493 o osodiadau) yng Nghymru a chynnydd o 25%, 70% a 50% yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr yn eu tro. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd mewn cynlluniau bach nad ydynt, er yn niferus, yn cynhyrchu llawer o ynni.
Mae gosodiadau solar wedi cynyddu hyd yn oed yn fwy, o 16,000 i 27,000, ac maent bellach yn cynrychioli 98% o’r gosodiadau yng Nghymru ond dim ond 3% o’r trydan a gynhyrchir. Eto, mae hyn yn adlewyrchu natur y gosodiadau solar, sydd, yn aml, yn ddomestig a dim ond yn cynhyrchu ychydig o ynni. Mae’r cynnydd cyflym hwn yn nifer y gosodiadau wedi’i yrru gan y Tariffau Cyflenwi Trydan.
Mae cyfran y trydan a gynhyrchir gan bob ffynhonnell o ynni adnewyddadwy ym mhob gwlad yn dangos rhai gwahaniaethau mawr. Mae’r gyfran uchel o ynni a gynhyrchir gan y gwynt yn y tair gweinyddiaeth ddatganoledig, ac o ffynonellau hydro yn yr Alban, yn adlewyrchu gallu naturiol mawr y gwledydd hyn o ran gwyntoedd cyflym a ffynonellau addas ar gyfer ynni hydro. Mae’r cyfanswm uchel o fio-ynni a gynhyrchir yn Lloegr yn dod yn bennaf o Tilbury B, sef gorsaf bŵer glo a addaswyd i losgi biomas.
Cynhyrchu trydan yn ôl ffynhonnell ynni adnewyddadwy yn 2012
Sylwer: Mae’r ffigurau gwynt a thon yn bennaf yn ymdrin â gwynt (ar y tir ac ar y môr). Nid oes ffigurau ar wahân ar gael.
Y brif ffynhonnell a oedd yn gyfrifol am y cynnydd yn y trydan a gynhyrchwyd gan ynni adnewyddadwy yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon rhwng 2011 a 2012 oedd y gwynt. Mae cyfanswm y gosodiadau gwynt (a thon) yng Nghymru wedi cynyddu, o 204 i 341; fodd bynnag, dim ond cynnydd o 5% a fu yn y capasiti o ran cynhyrchu. Roedd y cynnydd gwirioneddol yn y trydan a gynhyrchwyd o’r gwynt a’r tonnau hyd yn oed yn llai (0.7%).
Y newid yn y trydan a gynhyrchwyd o ffynonellau ynni adnewyddadwy rhwng 2011 a 2012