- Defnyddio’r lleiafswm gofynnol o ddulliau ymyrryd priodol. Mae hyn, yn rhannol, yn adlewyrchu’r gydnabyddiaeth gynyddol bod rhai triniaethau cyfredol yn ddiangen, yn aneffeithiol a hyd yn oed yn niweidiol;
- Cynnwys y claf bob amser. Dull o weithredu mewn partneriaeth rhwng ymarferwyr a chleifion, a all gynnig manteision sylweddol i gleifion ac sy’n fwy effeithiol wrth i gleifion gymryd mwy o berchnogaeth o’u hiechyd a’u lles;
- Tegwch, lle y bydd yr adnoddau mwyaf yn cael eu crynhoi i ddiwallu’r anghenion mwyaf.
Cynhadledd Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru 2014. A fydd gofal iechyd synhwyrol yn ennill y dydd?
Cyhoeddwyd 22/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
22 Ionawr 2014
Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cendelaethol Cymru
Ddydd Iau diwethaf, clywodd cynrychiolwyr a oedd yn bresennol yng Nghynhadledd Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru negeseuon pendant ynghylch cyfeiriad y GIG yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf.
Nododd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd, yn ei anerchiad yn y gynhadledd nad oedd unrhyw amheuaeth ynglŷn â’r heriau ariannol y mae’r gwasanaeth iechyd yn eu hwynebu yn awr bod y cyfnod o gynnydd yn yr arian a oedd ar gael i’w gynnal wedi dod i ben.
Mae aelodau’r Conffederasiwn, sy’n cynrychioli byrddau iechyd, ymddiriedolaethau iechyd a chyrff eraill y GIG, yn gyfarwydd â’r pwysau sydd ar y GIG ac â’r angen am ad-drefnu gwasanaethau. Mae newidiadau ar y gweill, a bydd rhagor i ddod eto. Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd wybodaeth am fenter newydd, y mae ef o’r farn a fydd yn gwella effeithiolrwydd y gwasanaethau iechyd yng Nghymru, sef meddygaeth synhwyrol.
Datblygwyd y fenter meddygaeth synhwyrol gan Gomisiwn Bevan yng Nghymru, ac mae’n bleidiol i ddefnyddio triniaethau yn synhwyrol er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith orau posibl, ac ymgysylltu â chleifion. Eglurodd y Gweinidog fod meddygaeth synhwyrol wedi’i seilio ar dair egwyddor: