Cyflwyniad
Swyddfa'r Cabinet yn Whitehall sy’n gyfrifol am reoli’r cysylltiadau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gyffredinol. Ynghyd â'r tair adran diriogaethol, mae'n cynghori adrannau Whitehall ar y setliadau datganoli. Un o'r ffyrdd y mae wedi gwneud hyn yw trwy ddatblygu Canllawiau ar Ddatganoli (DGNs) sydd wedi’u paratoi i gynorthwyo gweision sifil Whitehall wrth ymdrin ag agweddau ar ddatganoli.
Ar ôl i’r model "cadw pwerau" o ddatganoli ddod i rym ar 1 Ebrill , mae rhai o’r Canllawiau wedi'u disodli.
Beth yw Canllawiau ar Ddatganoli?
Yn dilyn Etholiad Cyffredinol mis Mai 2015, cytunodd y Prif Weinidog y dylai'r meysydd hynny o ddiwygio cyfansoddiadol yr oedd y Dirprwy Brif Weinidog yn gyfrifol amdanynt yn flaenorol, drosglwyddo i Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn a pharhau o fewn Swyddfa'r Cabinet. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am faterion cyfansoddiadol, datganoli a diwygio etholiadol. Mae cyfrifoldeb am y Comisiwn Etholiadol, yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol (IPSA) a'r Comisiynau Ffiniau hefyd yn aros yn Swyddfa'r Cabinet.
Dyma’r Canllawiau ar Ddatganoli sy'n berthnasol i Gymru:
- Trefniadau gweithio cyffredin (DGN1): Mae’n rhoi cyngor ar drefniadau gweithio cyffredin rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r gweinyddiaethau datganoledig ac mae hefyd yn rhoi cyflwyniad i'r prif egwyddorion sy'n ymwneud â rheoli'r setliadau datganoli. Mae'n edrych yn fanylach ar gysylltiadau dwyochrog, gohebiaeth, busnes seneddol, deddfwriaeth a choncordatau.
- Ymdrin â gohebiaeth o dan ddatganoli (DGN2): Mae’n nodi'r egwyddorion cyffredinol i adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ymdrin â gohebiaeth gan aelodau o'r deddfwrfeydd datganoledig.
- Rôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru (DGN4): Mae’n nodi’r swyddogaethau a'r rôl a chwaraeir gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn datganoli.
- Dosbarthu gohebiaeth rhyng-Weinidogol a rhyngadrannol (DGN6): Mae’n nodi’r confensiynau i'w dilyn gan adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig pan fyddant yn cynnwys gweinyddiaethau datganoledig mewn materion sy'n destun gohebiaeth rhwng Gweinidogion y Deyrnas Unedig, neu fel arall yn ysgrifennu at weinidogion gweinyddiaethau datganoledig.
- Atebolrwydd Gweinidogol ar ôl datganoli (DGN11): Mae’n rhoi cyngor cyffredinol ar faterion sy'n parhau i fod yn gyfrifoldeb gweinidogion y Deyrnas Unedig, ac y maent yn atebol amdanynt i Senedd y Deyrnas Unedig.
- Presenoldeb gweinidogion a swyddogion y Deyrnas Unedig ym mhwyllgorau'r deddfwrfeydd datganoledig (DGN12): Mae’n rhoi cyngor i weinidogion y Deyrnas Unedig a gweision sifil ar sut i ymdrin â gwahoddiadau i fynd i bwyllgorau deddfwrfeydd datganoledig.
Canllawiau newydd
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi Canllaw ar Ddatganoli newydd sydd wedi disodli'r hen DGN 9 a 16: ’’Deddfwriaeth Sylfaenol y Senedd a'r Cynulliad sy’n effeithio ar Gymru . Mae'n egluro:
In order for departments to reflect the Welsh devolution settlement in UK Parliamentary legislation, it is necessary to understand the parameters of the Assembly’s legislative competence to make primary legislation in the form of Assembly Bills.
Mae'r Canllaw’n egluro prif nodweddion setliad datganoli Cymru. Mae'r setliad wedi'i nodi yn Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ("Y Ddeddf") fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017 . Mae'r Canllaw’n esbonio barn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru, yn ogystal ag effeithiau setliad datganoli Cymru ar ddatblygu polisi llywodraeth y Deyrnas Unedig a deddfwriaeth yn Senedd y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn nodi sut y gellir addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad a chymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru yn y dyfodol.
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad (@SeneddMCD) adroddiad: Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd Gwnaeth nifer o argymhellion ynghylch sut y dylai trefniadau rhynglywodraethol ar draws y Deyrnas Unedig newid yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Argymhellodd y dylai Canllawiau ar Ddatganoli:
- fod yn destun trawsnewidiad llwyr yn cynnwys cydweithio rhwng holl lywodraethau'r Deyrnas Unedig gyda'r nod o sefydlu arfer o lywodraethu ar y cyd mewn perthynas â'r mecanwaith sy'n cefnogi darpariaeth o gysylltiadau rhynglywodraethol teg ac effeithiol;
- fel rhan o'r trawsnewidiad hwnnw, fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn, gan alluogi pwyllgorau seneddol ar draws y Deyrnas Unedig i gynnal gwaith craffu arnynt, er mwyn sicrhau tryloywder, cywirdeb a llywodraethu da, yn ogystal â gwella'r ddealltwriaeth o gysylltiadau rhynglywodraethol ar draws y gymdeithas ddinesig; a
- chael eu hadolygu yn rheolaidd wedi hynny.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru