Cymru yn cyhoeddi argyfwng hinsawdd

Cyhoeddwyd 09/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

Ddydd Llun 29 Ebrill, cyhoeddodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Nod y cyhoeddiad yw tynnu sylw at arwyddocâd y protestiadau diweddar ar newid hinsawdd a thystiolaeth Adroddiad Arbennig y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) o ran effeithiau cynhesu byd-eang o 1.5°C.

Canfu Adroddiad Cynnydd diweddaraf Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC) i Senedd y DU ynghylch lleihau allyriadau'r DU fod allyriadau Cymru yn 2016 wedi gostwng 14 y cant o'i gymharu â 1990. Fodd bynnag, mae allyriadau wedi bod yn codi'n raddol ar gyfradd gyfartalog o 1.4 y cant y flwyddyn, gyda chynnydd o 5 y cant yn 2016. Mae hyn yn bennaf oherwydd cynnydd bach mewn nifer o sectorau, fel amaethyddiaeth, adeiladau preswyl ac amhreswyl, a thrafnidiaeth. Y targed presennol ar gyfer 2050 yw gostyngiad o 80 y cant yn yr holl nwyon tŷ gwydr (o'i gymharu â 1990), gyda thargedau interim o ostyngiad o 27 y cant erbyn 2020, 45 y cant erbyn 2030, a 67 y cant erbyn 2040.

Nid oes diffiniad swyddogol ar gyfer argyfwng hinsawdd, ond mae llawer o ardaloedd sy'n cyhoeddi hyn yn anelu at fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Mae'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddiad ei bod yn argyfwng hinsawdd gan Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, yn ystod cynhadledd Plaid Genedlaethol yr Alban ddydd Sul 28 Ebrill. Ddydd Mercher 1 Mai, cymeradwyodd Senedd y DU hefyd gynnig a oedd yn cyhoeddi argyfwng hinsawdd. Mae'r cyhoeddiad yn dilyn pwysau cynyddol ar lywodraethau gan yr ymgyrchydd newid hinsawdd Greta Thunberg, y streic ysgolion dros yr hinsawdd a mudiadau Extinction Rebellion.

Mewn datganiad ysgrifenedig, eglurodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

'… Na chaiff y broses o adael yr UE dynnu ein sylw oddi wrth her y newid yn yr hinsawdd, sy'n bygwth ein hiechyd, ein heconomi, ein seilwaith a'n hamgylchedd naturiol.'

Fel y disgrifiwyd yn y datganiad, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am gyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ynghylch ei hopsiynau ar gyfer gosod targedau sero net ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud ers hynny y dylai Cymru anelu yn awr at ostyngiad o 95 y cant mewn allyriadau erbyn 2050 o'i gymharu â 1990. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen polisïau ar gyfer y DU gyfan a pholisïau wedi'u datganoli.

Mae'r datganiad ysgrifenedig yn cynnwys camau gweithredu i'w cymryd yn awr ac yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru i geisio mynd i'r afael â newid hinsawdd:

Ddydd Mercher 1 Mai, cynhaliodd y Cynulliad Cenedlaethol ddadl ynglŷn â chynnig ar newid hinsawdd yn ystod y Cyfarfod Llawn. Yn dilyn y datganiad gan Lywodraeth Cymru ddeuddydd cyn hynny, dywedodd llawer o Aelodau eu bod yn cytuno â'r angen i gyhoeddi argyfwng, ond roedd rhai o'r farn nad oedd cynlluniau'r Llywodraeth yn mynd yn ddigon pell, gan ei hannog i sicrhau nad oedd y datganiad yn 'rhyw fath o ymgais orchestol' yn unig. Roedd rhai Aelodau am gael eglurhad o'r hyn a wneir i gyflawni'r addewidion a wnaed, gan annog camau gweithredu sylweddol i'w hategu, targedau uchelgeisiol, ac osgoi dull 'busnes fel arfer'.

Datgan Argyfwng Hinsawdd ledled Cymru

Cyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, roedd cynghorau lleol ledled Cymru yn datgan eu hargyfyngau hinsawdd eu hunain. Daeth y cyhoeddiad cyntaf yng Nghymru o Gyngor Tref Machynlleth ar 17 Rhagfyr 2018, yn dilyn llythyr wedi'i lofnodi gan drigolion, yn annog y cyngor, ymhlith pethau eraill, i gyhoeddi argyfwng hinsawdd, a galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU i ddarparu cymorth wrth weithredu hyn.

Ers hynny, cafwyd sawl cyhoeddiad arall, o Gyngor Gwynedd, i Sir Gaerfyrddin, i Gaerdydd, sef cyfanswm o 10 cyngor hyd yma ledled Cymru. Mae'r datganiadau wedi amrywio, gyda Chyngor Tref Casnewydd yn nodi:

‘…this council will take steps to raise awareness in Newport, and will endeavour to mitigate its own environmental impact.’

Ymhlith addewidion eraill y cyngor yw cefnogi i weithredu cynllun cyflawni carbon isel Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel.

Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni carbon isel cyntaf, Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel, ym mis Mawrth 2019. Mae'r cynllun cyflawni (gofyniad o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) yn nodi sut y mae Cymru yn anelu at fodloni ei chyllideb carbon gyntaf (2016-2020) a'i tharged interim ar gyfer 2020 o leihau allyriadau o ganlyniad i hynny. Bydd yn cyflawni hyn drwy 76 o bolisïau sydd eisoes yn bodoli ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r UE - a 24 o gynigion newydd.

Mae'r cynllun yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru carbon isel; ei dull traws-lywodraethol; llwybrau allyriadau sector a'r uchelgais o ran pŵer, adeiladau, trafnidiaeth, diwydiant, defnydd tir, amaethyddiaeth, gwastraff a nwyon wedi’u fflworeiddio.

Greta Thunberg a'r Mudiad Streic Ysgolion dros yr Hinsawdd

Ym mis Awst 2018, protestiodd Greta Thunberg, a oedd yn 15 oed ar y pryd, y tu allan i Senedd Sweden, y Riksdag, gydag arwydd yn dweud: 'Skolstrejk fôr klimatet' ('Streic ysgol dros yr hinsawdd'). Roedd Greta yn mynnu bod Llywodraeth Sweden yn lleihau ei hallyriadau carbon i gydymffurfio â Chytundeb Paris. Sbardunwyd mudiad Streic Ysgolion dros yr Hinsawdd o ganlyniad i brotestio Greta, a denodd sylw ledled y byd yn dilyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP24) ym mis Rhagfyr 2018.

Ddydd Gwener 15 Mawrth 2019, oherwydd y mudiad hwn aeth oddeutu 1.4 miliwn o fyfyrwyr ledled y byd ar streic i brotestio yn erbyn y ffordd y mae llywodraethau yn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Yn ddiweddar, ymwelodd Greta â'r DU a chyflwynodd araith i Aelodau Seneddol yn herio llywodraeth y DU o ran ei chyfrifiadau allyriadau carbon, gan ei hannog i ddechrau trin yr argyfwng fel argyfwng - a gweithredu hyd yn oed os nad oes gennym yr holl atebion.

Mudiad Extinction Rebellion

Ar yr un pryd â'r streiciau hyn, roedd mudiad Extinction Rebellion yn symud yn ei flaen. Ddydd Mercher 31 Hydref 2018 cyfarfu'r grŵp yn Sgwâr y Senedd yn Llundain, gan gyhoeddi Datganiad o Wrthryfel yn erbyn Llywodraeth y DU. Ers hynny, mae'r mudiad wedi denu aelodau o bob cwr o'r DU ac yn rhyngwladol, a ddydd Llun 15 Ebrill, dechreuodd brotestio mewn nifer o leoliadau ar draws Llundain. Yn y DU, roedd galwadau'r mudiad yn cynnwys cyhoeddi argyfwng hinsawdd a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2025, yn ogystal â phynciau eraill.

Ddydd Sul 21 Ebrill, ymunodd Greta Thunberg â phrotestwyr o Extinction Rebellion yn Llundain i'w hannog i barhau i weithredu.

Erthygl gan Holly Tipper, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.