Cymru yn colli cyllid o £155.5 miliwn. Beth arall a ddangoswyd o ganlyniad i waith craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21?

Cyhoeddwyd 19/04/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Denodd cyhoeddi Adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd ('PAPAC'), sef 'Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21' yn ddiweddar, lawer o sylw yn y cyfryngau.

Roedd llawer o’r sylw hwn yn ymwneud â'r ffaith bod Cymru wedi colli £155.5 miliwn a allai fod wedi cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad Trysorlys EF i wrthod cais Llywodraeth Cymru i ystwytho'r rheolau y cytunodd arnynt yn 2016 gyda Llywodraeth y DU. Nid dyma'r unig fater a nodwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae'r erthygl hon yn edrych ar rai o ganfyddiadau eraill ei Adroddiad.

Cwblhaodd Llywodraeth Cymru ei Chyfrifon naw mis yn ddiweddarach na’r disgwyl

Ar ôl cytuno ar amserlen a fyddai’n sicrhau y câi’r Cyfrifon eu gosod gerbron y Senedd erbyn diwedd mis Hydref 2021, ni chymeradwyodd Llywodraeth Cymru ei Chyfrifon ar gyfer 2020-21 tan ddechrau mis Awst 2022.

Gweler y llinell amser i weld beth ddigwyddodd.

31 Mawrth 2021

Diwedd y flwyddyn ariannol 2020-21

23 Awst 2021

Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyfrifon Cyfunol Drafft 2020-21 i Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC).

25 Hydref 2021 i 29 Hydref 2021

Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru i gymeradwyo a llofnodi’r Cyfrifon Cyfunol ar gyfer 2020-21.

29 Hydref 2021

ACC i osod Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2020-21 gerbron y Senedd.

Haf 2021

Llywodraeth Cymru ac ACC yn dweud wrth PAPAC yn anffurfiol y gallai Cyfrifon 2020-21 gael eu gohirio am tua mis gan fod Archwilio Cymru yn gwneud gwaith ychwanegol ar gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer grantiau busnes.

Diwedd Tachwedd

Rhoddodd PAPAC wybod am ragor o oedi, gan fod Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ACC am daliad i’r cyn Ysgrifennydd Parhaol ar adeg terfynu ei chyflogaeth.

Diwedd Tachwedd

Dyddiad cau diwygiedig ar gyfer cwblhau Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21.

30 Tachwedd 2021

Llywodraeth Cymru yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i PAPAC yn gyfrinachol am yr oedi wrth gwblhau’r Cyfrifon.

16 Rhagfyr 2021

ACC yn ysgrifennu’n breifat at PAPAC am yr oedi ac yn adrodd ei fod wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth erbyn dechrau mis Ionawr 2022.

23 Rhagfyr 2021

Y dyddiad cau statudol i ACC osod Cyfrifon Llywodraeth Cymru gerbron y Senedd pe baent yn cael eu cyflwyno iddo i’w harchwilio ar 23 Awst 2021 (4 mis).

18 Ionawr 2022

Oedi o ran Cyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21 yn cael ei godi yn y Cyfarfod Llawn

26 Ionawr 2022

Pwyllgor PAPAC yn gofyn i’r Ysgrifennydd Parhaol am yr oedi, gan nad oedd y Cyfrifon wedi cael eu cadarnhau a’u llofnodi eto.

04 Chwefror 2022

PAPAC yn ysgrifennu’n breifat at y Llywydd i fynegi pryder am yr oedi.

Chwefror - Awst 2022

PAPAC yn cael diweddariadau preifat rheolaidd gan swyddogion Llywodraeth Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

31 Mawrth 2022

Diwedd y flwyddyn ariannol 2021-22

29 Mehefin 2022

Cadeirydd PAPAC yn gwneud Datganiad yn y Cyfarfod Llawn am yr oedi.

04 Awst 2022

Yr Ysgrifennydd Parhaol yn cymeradwyo a llofnodi Cyfrifon Llywodraeth Cymru.

04 Awst 2022

Yr Archwilydd Cyffredinol yn llofnodi ei Dystysgrif a'i Adroddiad.

05 Awst 2022

ACC yn gosod Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gerbron y Senedd.

30 Medi 2022

ACC yn cyhoeddi ei Adroddiad er Budd y Cyhoedd, “Taliad i gyn-Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru pan Derfynwyd ei Chyflogaeth”.

“Trefniadau diffygiol ar gyfer cadw cofnodion ynghylch sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud wedi arwain at ddiffyg eglurder.”

Pan adawodd y cyn Ysgrifennydd Parhaol ei swydd ym mis Hydref 2021, sef dri mis cyn diwedd ei chontract, rhoddodd Llywodraeth Cymru daliad o £80,519 iddi (heb gynnwys ei chyflog am y mis olaf). Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £30,289 o’r taliad hwn wedi’i gynnwys yn ei Chyfrifon ar gyfer 2020-21.

Daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru (ACC) i’r casgliad, fodd bynnag, nad oedd wedi gallu “cael tystiolaeth archwilio ddigonol, briodol am drefniadau gwaith yr Ysgrifennydd Parhaol o Ebrill 2018, ac o ganlyniad, a oedd gan yr Ysgrifennydd Parhaol hawl i dderbyn y taliad”. Ychwanegodd:

“Ni chadwodd Llywodraeth Cymru gofnodion cydoesol o’i rhesymau dros wneud y taliad, y rhesymeg dros y swm a dalwyd na thystiolaeth o bwy a awdurdododd y taliad.

Dywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus:

Rydym yn pryderu bod trefniadau diffygiol ar gyfer cadw cofnodion ynghylch sut y cafodd penderfyniadau eu gwneud wedi arwain at ddiffyg eglurder a chyfleoedd annigonol am waith craffu gan y Pwyllgor hwn, yn enwedig ynghylch y taliad i’r cyn-Ysgrifennydd Parhaol.

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Pwyllgor godi materion yn ymwneud â dogfennu gan Lywodraeth Cymru. Adroddodd y Pwyllgor, “mae’r trefniadau diffygiol ar gyfer cadw cofnodion wedi bod yn wendid cyson yng ngweithdrefnau a phrosesau Llywodraeth Cymru” a gofynnodd pam nad oedd y diffygion hyn wedi cael sylw.

Y Cyfrifon yn amodol eto?

Fel y nodasom yn ein herthygl ym mis Mai 2021, anaml iawn y bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn nodi ei farn 'wir a theg' ar amod. Am yr ail flwyddyn yn olynol, fodd bynnag, rhoddodd yr Archwilydd ei farn 'wir a theg' ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru yn amodol.

Bydd barn wir a theg ar gyfrifon yn cael ei rhoi os nad yw’r archwilydd yn nodi unrhyw ddiffygion sy’n ddigon arwyddocaol i’r wybodaeth yn y cyfrifon gamarwain y darllenydd. Gelwir diffygion o'r fath yn 'gamddatganiadau arwyddocaol'.

Barn yr Archwilydd Cyffredinol oedd bod Cyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn rhoi darlun ‘cywir a theg’ ‘ac eithrio’ effeithiau neu effeithiau posibl y materion a ganlyn:

  • Nid oedd wedi gallu “cael tystiolaeth archwilio ddigonol, briodol am drefniadau gwaith yr Ysgrifennydd Parhaol o Ebrill 2018, ac o ganlyniad, a oedd gan yr Ysgrifennydd Parhaol hawl i dderbyn y taliad ar ddiwedd ei chyflogaeth”.
  • Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cynnwys gwariant yn ymwneud â rhwymedigaethau treth pensiwn clinigwyr yn ei Chyfrifon ar gyfer 2020-21.
  • Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnwys gwariant ar rai grantiau busnes COVID-19 yn ei Chyfrifon 2020-21 ond dylai fod wedi cynnwys hwn yn ei Chyfrifon ar gyfer 2019-20.

Hefyd, gwnaeth yr Archwilydd Cyffredinol amodi ei farn ar reoleidd-dra o ran y taliad a wnaed i'r cyn-Ysgrifennydd Parhaol.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod twyll a gwallau cysylltiedig â rhai o’i chynlluniau cymorth busnes COVID-19 yn amrywio o £0.7 miliwn i £37.2 miliwn ond mae archwilwyr yn nodi problemau gyda’r ffigurau

Yn ystod 2020-21, darparodd Llywodraeth Cymru fwy na £2 biliwn o gymorth ariannol COVID-19 i fusnesau “gyda’r nod o’u helpu i oroesi ac amddiffyn swyddi pobl”.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • grant a rhyddhad ardrethi, a weinyddwyd gan awdurdodau lleol ac a oedd yn gyfanswm o £1.1 biliwn. Meini prawf cymhwysedd cyfyngedig a ddefnyddiwyd ar gyfer y cynlluniau hyn, yn seiliedig ar y math o fusnes, gwerth ardrethol a meini prawf eraill, y gellid eu gwirio cyn dyfarnu'r grantiau.
  • gwariant ar Gamau 1-4 o Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru ('ERF') a chynlluniau eraill a weinyddwyd gan awdurdodau lleol, gyda gwerth cyfanredol o £893 miliwn. Gosodwyd meini prawf cymhwysedd ehangach o ran y rhain.

Asesodd Llywodraeth Cymru fod yr ystod o ran twyll a gwallau rhwng 0.08 y cant a 4.17 y cant. Roedd cymhwyso’r ystod i’r £893 miliwn o wariant ar gynlluniau gyda meini prawf cymhwysedd uwch yn rhoi amcangyfrif rhwng £0.7 miliwn a £37.2 miliwn o ran risg o dwyll a gwallau.

Tynnodd yr Archwilydd sylw at ansicrwydd ynghylch yr amcangyfrif, a darparodd yr archwilwyr ragor o wybodaeth am y rhain mewn adroddiad ar wahân, sef Cymorth i fusnesau yn sgil COVID-19 yn 2020-21’ (Hydref 2022). Roeddent yn nodi materion  gyda’r data roedd Llywodraeth Cymru wedi’u defnyddio a sut roedd yr amrediad wedi’i gyfrifo.

Cadarnhaodd swyddogion Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl adrodd ar yr amcangyfrif o dwyll a gwallau yng Nghyfrifon 2021-22 ond ni ddywedasant yn benodol y byddent yn newid eu methodoleg yng ngoleuni canfyddiadau'r archwilwyr. Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn bryderus am hyn ac roedd yn “siomedig” i nodi nad oedd Cyfrifon 2021-22, a osodwyd ar ôl ei waith craffu ond cyn iddo gyhoeddi ei Adroddiad ar y Cyfrifon ar gyfer 2020-21, yn cynnwys amcangyfrif o dwyll a gwallau.

Gall gwaith monitro o ran y cymorth COVID-19 i fusnesau gymryd 18 mis neu ddwy flynedd arall i’w gwblhau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni gwaith Monitro ar Ôl Cwblhau ('PCM') i sicrhau bod busnesau a gafodd gymorth COVID-19 a weinyddwyd ganddo yn cadw at delerau ac amodau’r grant, ac i fynd i'r afael â dyraniadau anghywir. 

Nododd y Pwyllgor nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau gwaith Monitro ar ôl Cwblhau o fewn ei hamserlenni ei hun. Eglurodd Llywodraeth Cymru nad oedd wedi disgwyl y byddai'n parhau i ddarparu cymorth ddwy flynedd ar ôl i'r pandemig ddechrau. Dywedodd y byddai gwaith Monitro ar ôl Cwblhau yn cymryd 18 mis i ddwy flynedd arall i'w gwblhau.

Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi diweddariad bob chwe mis ar y cynnydd a wneir.

Beth sydd nesaf?

Yn ei Adroddiad, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn gwneud 17 o argymhellion, y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb iddynt maes o law. Caiff yr ymateb ei gyhoeddi ar wefan y Pwyllgor.

Bydd Dadl ar yr Adroddiad yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2023, a fydd ar gael i’w gwylio’n fyw ar Senedd TV.

Erthygl gan Joanne McCarthy a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru