Cymru'n cynnal cynhadledd flynyddol ymchwilwyr seneddol

Cyhoeddwyd 27/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

27 Tachwedd 2015

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Roedd y Gwasanaeth Ymchwil yn falch i gynnal cynhadledd flynyddol y Rhwydwaith Ymchwil Rhyngseneddol yn y Senedd eleni. Daeth llyfrgellwyr ac ymchwilwyr seneddol o bob rhan o Ynysoedd Prydain at ei gilydd ym Mae Caerdydd am ddau ddiwrnod heulog fis Medi i glywed am y datblygiadau diweddaraf, cymharu nodiadau a thrafod ffyrdd newydd a gwell o wneud pethau. Roedd yn bleser croesawu cyfeillion a chydweithwyr o Lyfrgelloedd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi yn Llundain, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, a seneddau Gweriniaeth Iwerddon (Oireachtas) ac Ynys Manaw (y Tynwald). Delwedd o'r cynrychiolwyr yn y gynhadledd i lyfrgellwyr ac ymchwilwyr rhyngseneddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru   Thema'r gynhadledd oedd 'ymgysylltu'. Dewiswyd y thema hon gan fod maes ymchwil seneddol yn newid. Mae'r farchnad wybodaeth yn llawn ffeithiau, ystadegau a dadansoddiadau sy'n cystadlu am sylw gwleidyddion. Ein gwaith ni yw cyflwyno i'n Haelodau yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt, mewn ffordd mor eglur, hygyrch ac amserol ag y bo modd. Cawsom gwpl o ddyddiau hynod ddiddorol o drafodaethau, gweithdai, sesiynau briffio carlam ac arddangosfeydd. Ein pwyslais oedd sut i gadw ein gwaith yn ddiddorol ac amlwg, gan rannu ffyrdd o ddatblygu ac arloesi, a gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau. Roedd y pynciau'n amrywio o allgymorth a chasglu tystiolaeth, gwerthuso profiad Aelodau a gwneud y defnydd gorau o gyfnodau diddymiad, i ymgysylltu â phobl ifanc, ffeithluniau a blogio. https://twitter.com/seneddymchwil/status/641966383727800321 Llun o ddyn a menyw yn trafod mapiau a diagramau sydd wedi eu rhoi ar wal Cafwyd dau brif siaradwr diddorol dros ben hefyd, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am roi o'u hamser i siarad â ni. Mae Simon Thomas AC yn gyn-ymchwilydd a llyfrgellydd ei hun, a dywedodd wrthym ei bod yn hanfodol gallu cael gafael yn rhwydd ar wybodaeth annibynnol a diduedd er mwyn helpu i graffu ar lywodraethau. Siaradodd hefyd am ba mor bwysig yw hi i lyfrgellwyr ac ymchwilwyr seneddol gadw anghenion eu Haelodau mewn cof bob amser. https://twitter.com/SeneddYmchwil/status/641919921287495680 Siaradodd yr Athro Laura McAllister, arbenigwraig ar ddatganoli, Cadeirydd Chwaraeon Cymru a chyn aelod o Fwrdd Taliadau'r Cynulliad, am wella ymgysylltiad digidol a'r ffaith y bydd ymgysylltiad personol â chwsmeriaid yn fuan yn dod yn beth arferol. Llun o'r Athro Laura McAllister yn traddodi ei haraith Yn sicr, rhoddodd y gynhadledd ddigon inni gnoi cil arno. Mae'n gyfnod cyffrous i ymchwilwyr a llyfrgellwyr yn y Cynulliad, ac yn Senedd yr Alban, oherwydd bod ein hetholiadau ar y gorwel, ym mis Mai'r flwyddyn nesaf. Rydym eisoes yn cynllunio a pharatoi ar gyfer pontio i'r Cynulliad nesaf, a'r her inni fydd sicrhau ein bod yn cadw'r hyn a ddysgwyd yn y gynhadledd mewn cof, er mwyn inni barhau i wella'r gwasanaeth a ddarparwn i'n Haelodau. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae pethau wedi symud ymlaen pan fyddwn i gyd yn cyfarfod unwaith eto yng Nghaeredin y flwyddyn nesaf! View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg