Cymru'n arwain y ffordd ar ailgylchu

Cyhoeddwyd 10/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

10 Mawrth 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Ar 28 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr ystadegau ailgylchu diweddaraf ar gyfer Cymru, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2016. Gan barhau â'r duedd ar i fyny, gwnaeth y gyfradd gyfunol o wastraff trefol awdurdodau lleol sy'n cael ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio gynyddu i 62 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2016, o’i gymharu â 58 y cant ar gyfer y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2015. Yn y 12 mis hyd at ddiwedd mis Medi 2016:
  • Yr awdurdod lleol â'r gyfradd ailgylchu uchaf oedd Ceredigion (70%). Blaenau Gwent oedd a'r gyfradd isaf (52%);
  • Cafwyd gwelliant sylweddol mewn nifer o awdurdodau, yn benodol Merthyr Tudful (cynnydd o 13%) a Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys (cynnydd o 10% ym mhob awdurdod);
  • Cafwyd dirywiad ym mherfformiad ailgylchu un awdurdod lleol, sef Caerdydd, lle gwelwyd gostyngiad o 2% yn y gyfradd ailgylchu i 57%; ac
  • Os yw'r awdurdodau gwledig yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, maent yn parhau i ddangos y gyfradd ailgylchu uchaf.
Mae'r ystadegau ar wastraff a reolir gan awdurdodau lleol yn Lloegr, sydd i'w gweld ar wefan Llywodraeth y DU, yn dangos mai 44% oedd cyfanswm y cyfraddau ailgylchu ar gyfer 2015/16, sy'n is na'r gyfradd o 45% a gafwyd yn 2014/15. Er bod y ffigurau ailgylchu yn dangos cynnydd boddhaol i Gymru, gwelwyd cynnydd yng nghyfanswm gwastraff trefol awdurdodau lleol a gynhyrchir yng Nghymru. Cynyddodd nifer y tunelli o 3 y cant o'i gymharu â'r chwarter cyfatebol yn 2015, o 411,000 i 425,000.

Tuag at Ddyfodol Diwastraff

Mae strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, yn pennu targed o ailgylchu/compostio 70% o'r gwastraff trefol a gynhyrchir erbyn 2024-25. Mae nifer o Dargedau Ailgylchu Statudol gofynnol ar gyfer y blynyddoedd interim (a bennwyd ym Mesur Gwastraff (Cymru) 2010): 58% erbyn 2015-16 a 64% erbyn 2020. Mewn perthynas â'r targed presennol o 58%, yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae Caerdydd a Blaenau Gwent wedi methu â bodloni'r safon ofynnol. Gallai methu â bodloni'r targedau hyn arwain at ddirwy o £200 y dunnell am bob tunnell o wastraff y mae'r awdurdod lleol yn methu ei hailgylchu. Fodd bynnag, hyd yn hyn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi codi dirwyon ar awdurdodau sy'n tanberfformio. Mewn ymateb i gwestiwn yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ei bod wrthi'n adolygu'r targedau ailgylchu er mwyn eu gwneud yn fwy uchelgeisiol. Dywedodd mai ei nod oedd i Gymru arwain y byd o ran ei pherfformiad ailgylchu.

Y 'Glasbrint Casglu'

Fel rhan o'i chynllun gwastraff trefol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei glasbrint casglu, a gafodd ei adolygu'n annibynnol gan gwmni Eunomia Research and Consulting yn 2016. Mae'r glasbrint yn disgrifio'r dull gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi, gyda'r nod o sicrhau cyfraddau ailgylchu uwch yn ogystal ag arbedion cost. Canfu'r adolygiad fod y glasbrint yn parhau i gynnig manteision clir o ran cost ac ansawdd deunydd, yn ogystal â'i effaith ar berfformiad ailgylchu.  Mae'r model a argymhellir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer casglu gwastraff o gartrefi yn cynnwys:
  • Casglu deunyddiau ailgylchu sych ar wahân bob wythnos drwy 'ddidoli ar garreg y drws', casglu deunyddiau ar wahân mewn blychau a/neu sachau eildro, gyda dau neu fwy o flychau'n cael eu rhoi i bob cartref, a staff casglu'n rhoi'r deunyddiau ailgylchu mewn rhannau gwahanol o'r cerbyd casglu;
  • Casglu gwastraff bwyd bob wythnos ar wahân;
  • Defnyddio cerbydau modern ysgafn â rhannau gwahanol i allu casglu deunyddiau ailgylchu sych a gwastraff bwyd ar yr un pryd; a
  • Chasglu gwastraff gweddilliol bob yn ail wythnos, o gasgliadau â biniau du llai o faint, a lle na chaniateir rhoi gwastraff y tu allan i’r bin.
Nid oes gofyn i awdurdodau lleol ddilyn y glasbrint, ond mae Llywodraeth Cymru yn argymell glynu wrtho er mwyn cyflawni'r cyfraddau ailgylchu gorau posibl. Mae amrywiaeth mawr ledled Cymru o ran arferion ailgylchu ac o ran pa mor aml y caiff gwastraff gweddilliol ei gasglu, er bod y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yn casglu gwastraff i'w ailgylchu yn wythnosol. Mae rhai awdurdodau lleol wedi symud i drefniant lle maent yn casglu sbwriel bob tair wythnos, a hynny er mwyn annog aelwydydd i ailgylchu mwy. Mae llawer o awdurdodau wedi gosod cyfyngiadau ar faint o wastraff gweddilliol y gellir ei roi allan i'w gasglu. Mae'r camau hyn wedi ennyn gwrthwynebiad mewn nifer o ardaloedd, gydag aelwydydd yn gwrthwynebu'r drefn o gasglu sbwriel yn llai aml.
Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Cymru'n arwain y ffordd ar ailgylchu (PDF, 181KB)