Yn ddiweddar, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei strategaeth ddrafft ar reoli tybaco a'i chynllun cyflawni. Yr uchelgais yw cael Cymru ddi-fwg erbyn 2030.
Mae'r erthygl hon yn edrych ar ystyr hyn yng nghyd-destun y tueddiadau presennol o ran ysmygu. Mae’n rhoi diweddariad ar ddeddfwriaeth ysmygu yng Nghymru, ac yn ailedrych ar y dystiolaeth am rôl e-sigaréts wrth leihau’r niwed yn sgil ysmygu.
Beth mae 'Cymru ddi-fwg' yn ei olygu?
Mae strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru yn disgrifio 'Cymru ddi-fwg' fel un â chyfradd cyffredinrwydd smygu o 5% neu lai dros yr wyth mlynedd nesaf. Deallir mai cyffredinrwydd o 5% yw’r trothwy lle byddai'r epidemig ysmygu tybaco yn dod yn anghynaladwy.
Er mwyn cyflawni hyn, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar dair thema allweddol:
- lleihau anghydraddoldebau;
- cenedlaethau'r dyfodol, h.y. creu amgylchedd lle mai bod yn ddi-fwg yw’r norm i blant a phobl ifanc, ac iddyn nhw barhau i fod yn ddi-fwg wrth dyfu’n oedolion; a
- dull system gyfan, gan ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i greu Cymru ddi-fwg.
Mae ymrwymiadau tebyg i ddyfodol di-fwg wedi'u gwneud mewn rhannau eraill o'r DU. At hynny, mae Lloegr wedi dweud mai 2030 fydd ei tharged ar gyfer lleihau nifer yr achosion o ysmygu i 5%. Mae'r Alban yn anelu at gyflawni'r lefel hon erbyn 2034.
Ym mis Chwefror 2020, adroddwyd gan Cancer Research UK na fyddai Cymru na gwledydd eraill y DU – ar sail y tueddiadau presennol – yn cyflawni cyfradd cyffredinrwydd ysmygu o 5% erbyn y dyddiadau targed. Ar gyfer Cymru, dyma’r amcangyfrif:
If current smoking prevalence trends observed in Annual Population Survey continue, average adult smoking prevalence in Wales will reach 5% in 2037. […] the pace of change needs to be around 40% faster than projected.
Tueddiadau ysmygu presennol
Yn ôl ffigurau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer mis Ionawr i fis Mawrth 2021, mae 14% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu. Mae newidiadau i'r Arolwg Cenedlaethol yn ystod y pandemig yn golygu nad oes modd cymharu'r ffigurau hyn yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol, ond yn gyffredinol, mae yna duedd am i lawr.
Mae bwlch anghydraddoldeb yn parhau i fodoli. Mae 21% o oedolion yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn ysmygu, o'i gymharu ag 8% yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Gellir gweld y cyferbyniad hwn hefyd mewn canlyniadau iechyd – adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod marwolaethau sy'n gysylltiedig ag ysmygu oddeutu tair gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn y rhai lleiaf difreintiedig.
Ymhlith plant a phobl ifanc, yn ôl Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2019/20:
- dywedodd 4% o bobl ifanc eu bod yn ysmygu tybaco o leiaf bob wythnos;
- roedd effaith amlwg o ran oedran, gydag 1% o fyfyrwyr ym mlwyddyn 7 yn nodi eu bod yn ysmygu ar hyn o bryd, gan godi i 9% erbyn blwyddyn 11; ac
- roedd pobl ifanc o deuluoedd llai cyfoethog ddwywaith yn fwy tebygol na'r rheini o deuluoedd mwy cefnog i ddweud eu bod nhw’n ysmygu ar hyn o bryd.
Adroddwyd am bryderon am y effaith pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud ar ysmygu. Er enghraifft, canfu astudiaeth yn Lloegr fod nifer yr oedolion ifanc (18 i 34 oed) sy'n ysmygu wedi cynyddu gan 25% yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Fodd bynnag, mae angen cynnal ymchwil pellach i asesu effaith lawn y pandemig ar ymddygiad o ran ysmygu (a mewnanadlu, neu vaping).
Deddfwriaeth ddi-fwg yng Nghymru
Cafodd Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 eu cyflwyno i amddiffyn pobl rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law trwy wahardd ysmygu mewn lleoedd cyhoeddus 'caeedig' neu 'sylweddol gaeedig', gan gynnwys gweithleoedd a cherbydau. Diwygiwyd y Rheoliadau yn 2015 i'w gwneud yn ofynnol i geir sy'n cludo plant fod yn ddi-fwg.
Disodlwyd Rheoliadau 2007 gan Reoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020, a wnaed o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Ail bwysleisiodd y Ddeddf y cyfyngiadau presennol ar ysmygu. At hynny, fe wnaeth ymestyn y gwaharddiad ar ysmygu i leoliadau gofal plant yn yr awyr agored, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a thir ysbyty. Daeth i rym ym mis Mai 2018.
At hynny, mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru estyn cyfyngiadau ar ysmygu i fangreoedd pellach, lle ystyrir bod hyn yn “debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru”. Mae ASH Cymru yn galw am ymestyn y ddeddfwriaeth i ardaloedd eistedd yn yr awyr agored mewn tafarndai, caffis a bwytai. Ar hyn o bryd, mae hyn yn ôl disgresiwn awdurdodau lleol a pherchnogion busnes unigol.
Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer 2022-2024 sy'n cyd-fynd â strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu lleoedd di-fwg ychwanegol yng Nghymru.
Pa rôl sydd i e-sigaréts?
Mae tystiolaeth gynyddol bod e-sigaréts yn offeryn effeithiol yn yr ymgais i roi diwedd ar ysmygu a lleihau ysmygu. Argymhellodd yr adolygiad blynyddol o dystiolaeth mwyaf diweddar Iechyd Cyhoeddus Lloegr(Chwefror 2021) y dylai pob gwasanaeth ar gyfer rhoi'r gorau i ysmygu feddu ar agwedd gyson tuag at gynnyrch mewnanadlu fel e-sigaréts:
[…] combining vaping products (the most popular source of support used by people making a quit attempt in the general population), with stop smoking service support (the most effective type of support), should be an option available to all people who want to quit smoking.
At hynny, dywedodd y dylai diffyg cynnyrch mewnanadlu sy’n drwyddedig yn feddyginiaethol fod yn rhywbeth i’w adolygu ar frys.
Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd ganllawiau er mwyn annog trwyddedu e-sigaréts, a chynhyrchion eraill sy'n cynnwys nicotin sy'n cael eu hanadlu fel meddyginiaethau. Dywedodd Dr June Raine, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd:
The evidence is clear that e-cigarettes are less harmful to health than smoking tobacco and that nicotine-containing e-cigarettes can help people quit smoking for good. The updated guidance on licensing requirements we have published today is a strong first step towards availability of safe and effective licensed e-cigarette products.
Er bod consensws bod mewnanadlu yn weithgaredd llawer llai niweidiol nag ysmygu, bu'r risg bosibl o e-sigaréts yn normaleiddio ysmygu a gweithredu fel porth i ddefnyddio tybaco yn destun dadl. Mae cynllun cyflawni drafft Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y diffyg tystiolaeth hirdymor ar ddefnyddio e-sigaréts. Mae'n ymrwymo i archwilio rôl e-sigaréts (a chynhyrchion nicotin eraill) wrth anelu at roi diwedd ar ysmygu yn ystod 2022-24.
Tuag at 2030
Mae’r Smokefree Action Coalition (SFAC) yn grŵp o dros 300 o sefydliadau ledled y DU sydd wedi ymrwymo i roi diwedd ar ysmygu. Yn ôl Roadmap to a Smokefree 2030 SGAC, dim ond os yw’r camau a gymerir gan llywodraeth yn systematig, yn gydlynol ac â digon o adnoddau y gellir sicrhau gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o ysmygu.
Mae'r SFAC yn galw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu i fynnu bod gweithgynhyrchwyr tybaco yn ariannu 'Smokefree 2030 Fund' (yr egwyddor mai’r ‘llygrwr sy'n talu'), i ddarparu cyllid cynaliadwy er mwyn cymryd camau i reoli tybaco yn y DU. Mae'n awgrymu y gallai'r cenhedloedd datganoledig, o bosibl, ddewis ymuno â’r gronfa honno.
Mae cynllun cyflenwi drafft Llywodraeth Cymru yn cydnabod y bydd gweithio ar y cyd â chenhedloedd eraill y DU yn “hanfodol” i sicrhau Cymru heb fwg.
Nid yw wyth mlynedd yn amser hir, ac fel yr amlygwyd gan yr SFAC a Cancer Research UK, nid her fechan yw cyflawni statws di-fwg erbyn 2030. Serch hynny, gwnaed cynnydd da tuag at gymdeithas ddi-fwg. Yn ôlASH (Action on Smoking and Health), mae'r nod yn gyraeddadwy ac yn boblogaidd. At hynny, dywed y bydd yn rhoi pum mlynedd iach ychwanegol o fywyd i bobl, gan gulhau'r bwlch anghydraddoldeb iechyd rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf.
Erthygl gan Philippa Watkins, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru