Cymru ar y BBC

Cyhoeddwyd 12/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

12 Mai 2016 Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Daw'r erthygl hon o ‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.

Er gwaethaf llawer o lwyddiannau diweddar yn y diwydiant teledu a ffilm, mae Cymru yn parhau i gael ei thangynrychioli yng nghynyrchiadau'r BBC. Pam mae hyn yn bwysig a beth allwn ni ei wneud am y peth?

Graff yn dangos bod gwariant BBC Cymru Wales ar deledu cyfrwng Saesneg wedi gostwng o £24.6 miliwn yn 2006-7 i £20.8 miliwn yn 2014-15. Mewn sawl ystyr, mae'r diwydiant teledu yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth. Rhwng 2005 a 2014, cynyddodd trosiant y diwydiannau creadigol 17.5%, a chynyddodd nifer y bobl a gyflogir ynddynt 52.5% i 47,000 dros yr un cyfnod. Mae bwrlwm y gweithgaredd diweddar yn y diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru wedi sbarduno datblygu stiwdios newydd, fel Pinewood yng Ngwynllwg a chyfleuster Porth y Rhath y BBC ym Mae Caerdydd. Twf yng ngwariant rhwydwaith y BBC yng Nghymru Mae'r BBC wedi bod yn rhan bwysig o'r twf hwn. Yn 2006 gosododd y BBC darged iddi hi ei hun o fuddsoddi 17% o'i gwariant rhwydwaith cyffredinol yn y gwledydd datganoledig, yn fras yn unol â maint eu poblogaeth gyfunol. Yn 2014-15, sicrhaodd Cymru 7.8% – neu £59.1 miliwn – o wariant teledu rhwydwaith y BBC yn y DU, sy'n uwch na chyfran ei phoblogaeth o 4.9%. Yn 2014 dathlodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales, y ffaith bod dau o allforion mwyaf y BBC – sef Doctor Who a Sherlock – bellach yn cael eu gwneud yng Nghymru. Nid oes amheuaeth bod hyn yn newyddion gwych i lawer o bobl a gaiff eu cyflogi ar y cynyrchiadau hyn, heb sôn am yr effaith ehangach ar economi Cymru, ond beth maent yn ei ddweud wrthym am Gymru? Portread o Gymru ar y BBC: maint y broblem Rhwng 2006-7 a 2014-15, mae gwariant BBC Cymru Wales ar gynhyrchu teledu Saesneg ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru wedi gostwng o £24.6 miliwn i £20.8 miliwn: gostyngiad o tua 30% mewn termau real. Mae'r gostyngiad hwn mewn cyllid wedi arwain at sefyllfa lle mae llawer o randdeiliaid yng Nghymru yn pryderu am y diffyg portread o Gymru ar raglenni'r BBC. Er bod y cynnydd yn y gwariant ar rwydwaith y BBC yng Nghymru wedi cael ei groesawu, nid oes unrhyw ogwydd Gymreig ar y rhaglenni hyn. Mae Sherlock, er enghraifft, wedi ei gosod yn Llundain, er mai yng Nghaerdydd y caiff ei ffilmio. A yw hyn yn bwysig? Roedd tystion Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Pedwerydd Cynulliad i ymchwiliad i'r Adolygiad o Siarter y BBC (2015-16), yn sicr yn credu hynny. Dywedodd Dr John Geraint o Green Bay Media fod teledu Saesneg yng Nghymru wedi'i erydu i'r fath raddau nad yw bellach yn cynrychioli bywyd cyflawn y genedl. Mae rôl y BBC yn y cyfryngau yng Nghymru yn fwy dylanwadol fyth oherwydd y ddiffyg sector masnachol cryf a all wneud iawn am unrhyw brinder yng ngweithgarwch y BBC. Er enghraifft, mae Ofcom wedi nodi fod diffyg cyfryngau print cynhenid cryf yng Nghymru yn wrthgyferbyniad llwyr i'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r diffyg cyfryngau Cymreig hwn wedi creu sefyllfa lle nad oes gan bobl Cymru, fel y dangosodd gwaith ymchwil diweddar, yn aml ddigon o wybodaeth am sut mae gwleidyddiaeth ddatganoledig yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Bu i’r Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, gydnabod y broblem mewn derbyniad yn y Cynulliad yn 2014. Cyfaddefodd fod nifer y rhaglenni Saesneg gan Gymru ac ar gyfer Cymru wedi bod yn dirywio ers bron i ddegawd. Tra'n cydnabod rôl ITV Cymru yn hyn, cydnabu fod cynnyrch y BBC yng Nghymru wedi ‘cael ei erydu’. Mae consensws eang am natur y broblem – gan Lywodraeth flaenorol Cymru, gan randdeiliaid fel y Sefydliad Materion Cymreig, a chan Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ei hun. Ond beth all unrhyw un ei wneud am y peth? Datrys y broblem Mae'r Prif Weinidog wedi galw am £30 miliwn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer y BBC yng Nghymru, gan hawlio bod perygl y bydd cynulleidfaoedd Cymru, heb y cyllid hwn, yn cael y fargen waethaf o unrhyw wlad yn y DU. Cymeradwyodd y Sefydliad Materion Cymreig yr alwad hon yn ei Archwiliad i'r Cyfryngau yn 2015. Mae Rhodri Talfan Davies wedi dweud bod rheolwyr y BBC yn barod i ystyried y ceisiadau hyn am arian ychwanegol, ond ni wyddom eto sut mae'r parodrwydd hwn yn trosi'n arian ychwanegol. Cyllido BBC Cymru Wales yw un ochr y geiniog: beth am y £59.1 miliwn o wariant rhwydwaith y mae'r BBC yn ei fuddsoddi yng Nghymru bob blwyddyn? Nododd tystion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fod y penderfyniadau comisiynu mawr yn dal i gael eu gwneud yn Llundain, er gwaethaf y nifer cynyddol o gynyrchiadau rhwydwaith a gaiff eu gwneud yng Nghymru. Clywodd y Pwyllgor mai canlyniad hyn yw bod rhagfarn Lundeinig lwyr yn atal uwch-swyddogion y BBC rhag comisiynu rhaglenni rhwydwaith sy'n ymdrin â materion Cymru ac yn adlewyrchu materion penodol Gymreig. Awgrymodd y Pwyllgor welliannau mewn dau faes allweddol i fynd i'r afael â'r broblem hon. Yn gyntaf oll, teimlai y dylai'r BBC ddatganoli ei threfniadau comisiynu er mwyn gwneud mwy o benderfyniadau mawr yng Nghymru. Yn ail, teimlai y dylai'r BBC osod targedau iddi hi ei hun ar gyfer portreadu Cymru yn ei chynyrchiadau rhwydwaith, a chyflwyno adroddiad ar y rhain yn flynyddol. Yr her yng Nghymru Y cam nesaf yn y broses o adnewyddu Siarter y BBC yw i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei Phapur Gwyn (a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016). Bydd y papur yn amlinellu sut y mae'r BBC yn bwriadu rhoi sylw i Gymru yng nghyfnod y Siarter nesaf. Mae'r BBC yn rhagweld toriad o 10% mewn termau real yn ei chyllideb, rhwng 2017-18 a 2021-22, ac mae gwledydd a rhanbarthau eraill y DU yn galw am arian ychwanegol hefyd. Yr her i wleidyddion yma fydd llunio dadl unigryw yn dangos pam mai ar Gymru y mae’r angen mwyaf am ragor o arian. Ffynonellau allweddol View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg