Mae gwaith Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi bod yn mynd rhagddo ers cryn amser erbyn hyn, gyda phedwar adroddiad eisoes wedi'u cyhoeddi a chwech arall yn yr arfaeth. Sefydlwyd yr ymchwiliad yn ffurfiol ar 28 Mehefin 2022 ac mae wedi costio mwy na £200 miliwn.
Yng Nghymru, mae cwestiynau'n parhau ynghylch sut y dylid craffu ar ganfyddiadau'r ymchwiliad ac a oes angen proses ychwanegol arnom sy'n benodol i Gymru. Tra bod Plaid Cymru yn y gorffennol wedi galw am ymchwiliad Covid penodol i Gymru, safbwynt presennol y blaid yw y dylid cefnogi adolygiad wedi’i dargedu’n well o’r ymateb i Covid yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf ac yn amlinellu sut y gallai'r Senedd graffu ar y canfyddiadau cyfredol a chanfyddiadau’r dyfodol.
Ble mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyrraedd?
Hyd yn hyn, mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi cyhoeddi adroddiadau ar bedwar modiwl:

Ffynhonnell: Strwythur yr ymchwiliad - ymchwiliad Covid-19 y DU
Yn ôl yr Ymchwiliad, disgwylir i chwe adroddiad ychwanegol gael eu cyhoeddi yn eu tro. Disgwylir Modiwl 5, ar gaffael, yn yr haf 2026. Y modiwlau gweithredol sy'n weddill yw:
- Caffael: Mae Modiwl 5 yn archwilio caffael a dosbarthu offer a chyflenwadau gofal iechyd allweddol ledled y DU, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol, awyryddion ac ocsigen, yn ogystal â’r broses o gaffael profion llif ochrol a phrofion PCR ledled y DU.
- Y sector gofal: Mae Modiwl 6 yn archwilio effaith y pandemig ar y sector gofal cymdeithasol i oedolion ledled y DU, gan gynnwys canlyniadau penderfyniadau'r Llywodraeth i'r unigolion sy'n byw ac yn gweithio mewn lleoliadau gofal a gallu'r sector i ymateb.
- Profi, olrhain ac ynysu: Mae Modiwl 7 yn archwilio'r systemau profi, olrhain ac ynysu a gyflwynwyd ledled y DU, gan gynnwys y polisïau a'r technolegau a ddefnyddiwyd, y penderfyniadau allweddol a gymerwyd, cydymffurfiaeth y cyhoedd ac i ba raddau y mae’r gallu i ymateb wedi’i gadw at y dyfodol.
- Plant a phobl ifanc: Mae Modiwl 8 yn archwilio effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc ledled y DU, gan gynnwys i ba raddau y cafodd eu hanghenion eu hystyried wrth wneud penderfyniadau a'r canlyniadau tymor hwy ar gyfer addysg, iechyd a llesiant.
- Ymateb economaidd: Mae Modiwl 9 yn archwilio'r ymyriadau economaidd a wnaed gan Lywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ymateb i'r pandemig, gan gynnwys cefnogaeth i fusnesau, swyddi, yr hunangyflogedig, pobl agored i niwed a gwasanaethau cyhoeddus.
- Effaith ar gymdeithas: Mae Modiwl 10 yn archwilio effaith ehangach Covid-19 a chyfyngiadau’r pandemig ar boblogaeth y DU, gyda ffocws penodol ar weithwyr allweddol, grwpiau agored i niwed, profedigaeth, ac iechyd meddwl a llesiant.
Ymatebodd Llywodraeth flaenorol Cymru i'r ddau adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd. Cyhoeddodd ei hymateb i Fodiwl 1 ym mis Ionawr 2025, gan gyhoeddi diweddariadau chwe misol ychwanegol ym mis Gorffennaf 2025 ac ym mis Ionawr 2026. Ym mis Ebrill 2026, cyhoeddodd dudalen we bwrpasol a dangosfwrdd gweithredu i ddwyn ynghyd ymatebion a diweddariadau ar gynnydd. Hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru ei hymateb i'r adroddiad ar y cyd ar Fodiwlau 2, 2A, 2B a 2C.
Mae hyn yn golygu nad cyfranogiad yn Ymchwiliad y DU yw’r unig bwnc trafod yng Nghymru erbyn hyn; yn hytrach, mae olrhain sut mae argymhellion yn cael eu dehongli, eu gweithredu a'u monitro yng Nghymru yn bwnc trafod hefyd.
Beth sy'n digwydd yng Nghymru?
Am sawl blwyddyn, bu galwadau i gynnal ymchwiliad penodol i Gymru i'r ymateb i’r pandemig. Roedd Plaid Cymru ymhlith yr eiriolwyr cryfaf o blaid y safbwynt hwnnw, gan ddadlau na ellid archwilio profiad Cymru yn ddigon manwl fel rhan o broses a oedd yn cwmpasu’r ymateb ledled y DU.
Yn 2023, dywedodd arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Adam Price AS, fod angen i Gymru gynnal ei hymchwiliad Covid ei hun “heb os”. Fodd bynnag, newidiodd y safbwynt hwnnw cyn etholiad y Senedd yn 2026. Nododd cynrychiolwyr Plaid Cymru nad oedd y blaid yn cynnig cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn mwyach, ond yn hytrach proses gyda'r bwriad o nodi gwersi i’w dysgu’n gyflymach.
Ym mis Tachwedd 2025, dywedodd Heledd Fychan AS y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn 2026 yn cynnal 'ymchwiliad pwrpasol i adnabod y bylchau’. Yn ei maniffesto ar gyfer yr etholiad yn 2026, addawodd Plaid Cymru y canlynol:
“ yn ystod blwyddyn gyntaf tymor nesaf y Senedd, byddwn yn sefydlu adolygiad o ymateb Cymru i Covid, ei sgil effeithiau, a’r gwersi ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio ar faterion a chwestiynau sy’n benodol i Gymru nad ydynt yn cael sylw yn ymchwiliad y DU gyfan”.
Mae’r maniffesto yn awgrymu bod y blaid yn parhau o’r farn bod angen mynd ati i archwilio materion sy'n benodol i Gymru mewn rhagor o fanylder, ond yn fframio'r ymateb hwnnw fel adolygiad wedi'i dargedu yn hytrach nag ymchwiliad cyhoeddus newydd ac eang ei gwmpas. Mewn cyfweliad gyda Newyddion y BBC ym mis Mawrth 2026, gwnaeth Gweinidog Cabinet newydd Llywodraeth Cymru dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor AS, egluro y byddai Llywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru yn bwrw golwg byr a manwl ar ymateb Cymru i’r pandemig, a hynny gyda chylch gwaith ac amserlen glir.
Mae Covid Bereaved Families for Justice Cymru wedi parhau i alw am ymchwiliad cyhoeddus statudol penodol i Gymru i drafod yr ymateb i’r pandemig. Mae’r deunydd a gyhoeddwyd gan y grŵp hwn yn nodi bod ymchwiliad o’r fath yn hanfodol i adfer ymddiriedaeth, cryfhau gwasanaethau cyhoeddus a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu yng Nghymru.
Ar yr un pryd, mae gwefan y grŵp hefyd yn nodi na ddylai’r broses yng Nghymru ond fynd ati i efelychu’r broses ledled y DU. Yn hytrach, mae'n cyfeirio at ymchwiliad byr sydd â ffocws penodol, sy’n fwy darbodus o ran cost ac sy'n benodol i Gymru, gan alw hefyd am broses sy'n blaenoriaethu dioddefwyr ac yn ceisio argymhellion y gellir eu cyflawni.
Sut gall y Senedd graffu ar fodiwlau presennol a modiwlau'r dyfodol?
Sefydlodd y Senedd flaenorol y Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru ym mis Mai 2023 i drafod adroddiadau ar bob cam o Ymchwiliad y DU, nodi unrhyw fylchau yng ngwaith craffu Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus Cymru, ac argymell meysydd i'w harchwilio mewn rhagor o fanylder.
Comisiynodd y Pwyllgor ddadansoddiad o’r bylchau gan Brifysgol Nottingham Trent, yn ogystal ag ymgynghori â rhanddeiliaid a chyhoeddi adroddiad ym mis Mawrth 2025, gan nodi naw maes lle roedd angen gwneud rhagor o waith craffu o safbwynt Cymru. Cafodd y Pwyllgor hwn ei ddirwyn i ben ym mis Hydref 2025 ar ôl anghytundeb gwleidyddol ynghylch ei rôl yn y dyfodol.
O ganlyniad i hynny, cafodd y gwaith dilynol ar Fodiwl 1 ei wneud gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Chweched Senedd. Aeth y Pwyllgor hwnnw ati i archwilio ymateb Llywodraeth Cymru i Fodiwl 1, newidiadau i drefniadau yn achos argyfyngau sifil, a'r bylchau a nodwyd gan y Pwyllgor Dibenion Arbennig. Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth ddiwedd 2025 a dechrau 2026 cyn cyhoeddi adroddiad ym mis Mawrth 2026, a oedd wedyn yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn.
Mae'n parhau’n aneglur beth fydd y trefniadau ar gyfer craffu ar fodiwlau yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae'r Senedd eisoes wedi dangos y gellir archwilio canfyddiadau'r Ymchwiliad drwy waith craffu gan bwyllgorau a dadleuon yn y Cyfarfod Llawn.
O ystyried yr adnoddau cyhoeddus a neilltuwyd i gefnogi cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn Ymchwiliad Covid-19 y DU, efallai y bydd y Senedd eisiau ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cael ei archwilio wrth i ganfyddiadau pellach ddod i’r amlwg. O safbwynt teuluoedd mewn profedigaeth, y cwestiwn allweddol yw a fydd y prosesau sydd ar waith yn awr yn darparu atebion clir ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd yng Nghymru, a digon o sicrwydd bod gwersi'n cael eu dysgu i wella parodrwydd ar gyfer y dyfodol.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru