Cyhoeddwyd 16/05/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
16 Mai 2016
Erthygl gan Gregg Jones a Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Daw’r erthygl hon o
‘Materion o Bwys i’r Pumed Cynulliad’, a gyhoeddwyd ar 12 Mai 2016.
Beth fydd goblygiadau canlyniad refferendwm yr UE i Gymru a'r Cynulliad?
Ar 23 Mehefin 2016 bydd pobl y DU yn pleidleisio mewn refferendwm i benderfynu a ydynt am adael yr Undeb Ewropeaidd neu aros yn rhan ohono. Beth yw arwyddocâd y refferendwm hwn i Gymru a'r modd y mae'r Pumed Cynulliad yn ymwneud â materion yr UE?
Goblygiadau aros
Byddai pleidlais i aros yn golygu y byddai
setliad newydd i’r DU yn yr UE – setliad y llwyddodd Prif Weinidog y DU i'w sicrhau ym mis Chwefror 2016 – yn dod i rym.
Un elfen o’r setliad yw’r hyn sy’n cael ei alw’n 'gerdyn coch', a hwnnw’n galluogi seneddau cenedlaethol i roi feto ar ddeddfwriaeth arfaethedig yr UE. Dyma ran o’r setliad newydd sy'n arbennig o berthnasol i'r Cynulliad. Ym mis Mawrth 2016, ysgrifennodd Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad at
David Lidington, y Gweinidog dros Ewrop, yn galw iddo roi sylw i sut y byddai'r system hon yn ystyried buddiannau deddfwrfeydd datganoledig y DU. Efallai y bydd y Pumed Cynulliad yn dymuno edrych yn fanylach ar y mater hwn mewn trafodaethau cynnar â Senedd y DU, y deddfwrfeydd datganoledig eraill a Llywodraeth y DU.
Byddai aros yn golygu parhau â'r berthynas rhwng Cymru a'r UE ar bynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru, a materion cysylltiedig eraill. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i amaethyddiaeth a materion gwledig, gan gynnwys lles anifeiliaid a diogelwch bwyd, yn ogystal ag i bolisïau amgylcheddol, pysgodfeydd, ynni, addysg ac iechyd.
Yn yr un modd, ni fyddai unrhyw effaith ar
raglenni Cronfeydd Strwythurol Cymru, cyllid trwy'r
Polisi Amaethyddol Cyffredin, na'r cyfle i Gymru gymryd rhan yn rhaglenni amrywiol yr UE fel
Horizon 2020,
Cydweithredu Tiriogaethol ac
Erasmus+. Ni fyddai’n effeithio chwaith ar y cysylltiad rhwng Cymru a
Banc Buddsoddi Ewrop.
Byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am roi deddfwriaeth yr UE ar waith o fewn y meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, a byddai’n dal i fod yn atebol am unrhyw achosion o fynd yn groes i’r ddeddfwriaeth honno.
Yn y Cynulliad ei hun, mae'n debygol y byddai trafodaethau yn yr wythnosau'n dilyn y refferendwm a'r rheini'n canolbwyntio ar sut i roi sylw i faterion yr UE – boed fel pwnc prif ffrwd fel yn y Pedwerydd Cynulliad, neu drwy sefydlu pwyllgor arbenigol ar gyfer yr UE i graffu ar y materion hyn.
Goblygiadau gadael
Y cam cyntaf, er mwyn i'r bleidlais gael effaith, fyddai i Lywodraeth y DU roi gwybod i'r Cyngor Ewropeaidd am ei bwriad i adael er mwyn i'r broses a nodir yn Erthygl 50 o'r
Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd ddod i rym. Mae'r Erthygl hon yn rhoi amserlen o ddwy flynedd i'r DU a'r Cyngor Ewropeaidd (a fydd yn cynrychioli'r 27 aelod-wladwriaeth arall) drafod cytundeb ar gyfer gadael. Gellir ymestyn y cyfnod hwn o ddwy flynedd os bydd y ddwy ochr yn cytuno'n unfrydol.
Y manylion fydd yn bwysig, ac mae'n anodd dweud ymlaen llaw sut yn union y byddai hyn yn digwydd, gan mai dyma fyddai'r tro cyntaf i aelod-wladwriaeth adael yr UE.
Byddai'r broses hon yn cynnwys cynnal trafodaethau am y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a'r UE ar ôl gadael. Gallai'r penderfyniad ar y trefniant hwn gael effaith sylweddol ar ffurf a natur y setliad terfynol, ac ar sut y byddai hwnnw’n effeithio ar Gymru.
Dyma rai materion y byddai angen mynd i'r afael â hwy yn y trafodaethau, ac a fyddai'n arbennig o berthnasol i Gymru:
- cyfraniad y DU at gyllideb yr UE ac at raglenni cyllido'r UE, gan gynnwys yr hyn sy'n digwydd yn ystod cyfnod y rhaglenni presennol (sy'n para hyd at 2020), ac unrhyw ymrwymiadau parhaus a allai ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad y byddai'r DU yn gadael;
- sut y bydd y DU yn y dyfodol yn ymwneud â’r Farchnad Sengl a thrafodaethau masnach yr UE, gan gynnwys dilyn rheolau cystadleuaeth, cymorth gwladwriaethol, prosesau caffael cyhoeddus, safonau, a diogelu defnyddwyr;
- yr effaith ar allu gweithwyr a myfyrwyr i symud o un wlad i'r llall, gan gynnwys eu gallu i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ac addysg;
- statws cyfraith bresennol yr UE yn y DU;
- tynnu allan o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin a'r effaith ar ddynodiadau daearyddol (fel cig oen Cymru a chig eidion Cymru); a
- dyfodol cynrychiolwyr y DU a Chymru yn sefydliadau'r UE.
Mae'n amlwg y byddai pob un o'r materion hyn o ddiddordeb i randdeiliaid yng Nghymru. Maent yn codi nifer o gwestiynau pwysig y byddai angen mynd i'r afael â hwy, er enghraifft:
- pa ran fydd gan Lywodraeth Cymru (a gweinyddiaethau datganoledig eraill y DU) yn y trafodaethau ffurfiol;
- sut roddir sylw i fuddiannau Cymru a sut fyddant yn cael eu hadlewyrchu yn sefyllfa negodi Llywodraeth y DU;
- pa ran fydd gan y Cynulliad (a'r deddfwrfeydd datganoledig eraill) wrth fonitro a chraffu ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn y broses hon a'r modd y mae Llywodraeth y DU yn cynrychioli buddiannau a phryderon Cymru; a
- sut fydd y Cynulliad yn trefnu gwaith ei bwyllgorau a busnes y Cyfarfod Llawn er mwyn sicrhau bod yr Aelodau'n rhan o’r broses hon.
Mynegodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei bryderon nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymwneud digon â'r Cynulliad yn ystod y trafodaethau ynglŷn â diwygio'r UE. Cododd
Senedd yr Alban bryderon tebyg, sy'n awgrymu y bydd hwn yn faes pwysig i'w drafod ymhellach pe byddai pobl y DU yn pleidleisio o blaid gadael yn y refferendwm.
Argymhellodd y Pwyllgor hefyd yn ei
adroddiad etifeddiaeth y dylid sefydlu pwyllgor penodol yn y Cynulliad i gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau am y broses o adael yr UE. Mae'n sicr y bydd y mater hwn yn codi yn y trafodaethau ynghylch strwythurau'r pwyllgorau newydd ar ddechrau'r Pumed Cynulliad.
Ffynonellau allweddol
Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg