plentyn yn chwifio baner Wcráin

plentyn yn chwifio baner Wcráin

Cymru a'r rhyfel yn Wcráin: ddwy flynedd yn ddiweddarach

Cyhoeddwyd 19/02/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/02/2024   |   Amser darllen munud

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022 wedi newid y byd.

Mae'r ymosod wedi achosi anafiadau sifil enfawr ac wedi dinistrio seilwaith, gan orfodi bron chwe miliwn o Wcraniaid i geisio diogelwch a chefnogaeth ar draws Ewrop.

Erbyn 13 Chwefror, roedd bron 7,500 o Wcraniaid wedi dod i Gymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae masnach Cymru gydag Wcráin yn parhau ar raddfa lai ar ôl disgyn ers ddechrau’r ymosodiadau 725 diwrnod yn ôl.

Nodir y dyddiad yn y Senedd gyda datganiad gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip ar 20 Chwefror a digwyddiad yn y Senedd i nodi dwy flynedd.

Mae ein herthygl yn edrych yn fanwl ar yr hyn y mae’r ystadegau diweddaraf yn ei ddweud wrthym am ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru, ac effaith y rhyfel ar fasnach. Mae'r erthygl hon yn dilyn ein herthyglau blaenorol ar yr ymateb cychwynnol, ar Bobl sy’n cyrraedd o Wcráin ac ar effeithiau cynnar y rhyfel.

Ffoaduriaid

The fighting has escalated and the humanitarian situation in the country is dramatic and urgent. Millions have been forced to flee the war and Russian attacks, and they are in desperate need of humanitarian assistance

(Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Ffoaduriaid, Filippo Grandi, 29 Ionawr 2024).

Mewn ymateb i ymosodiad Rwsia, agorodd Llywodraeth y DU dri llwybr fisa ar gyfer y rhai sy'n ceisio noddfa:

  1. Mae Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin yn caniatáu i wladolion Wcráin ac aelodau agos eu teulu wneud cais i aros yn y DU, os oes ganddynt ganiatâd, neu os ydynt wedi cael caniatâd yn flaenorol i fod yn y DU.
  2. Roedd y Cynllun 'Cartrefi i Wcráin' yn dibynnu ar unigolion i noddi ffoaduriaid a darparu llety am o leiaf chwe mis.
  3. Roedd Cynllun Teuluoedd Wcráin yn caniatáu i rai a oedd yn gwneud cais ymuno ag aelodau o'r teulu a oedd wedi ymgartrefu yn y DU neu i ymestyn eu harhosiad. Mae’r Cynllun hwn bellach wedi cau i ymgeiswyr newydd.

Hyd at 12 Chwefror 2024, roedd ychydig mwy na 200,000 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd y DU drwy'r cynlluniau Cartrefi i bobl Wcráin a’r Cynllun Teuluoedd Wcráin.

Ymestyn y cynlluniau fisa

O dan y cynlluniau fisa caniatawyd i ffoaduriaid o Wcrain gael aros am dair blynedd, felly byddai disgwyl i’r fisas cyntaf ddod i ben ym mis Mawrth 2025. Yn dilyn pryderon am yr “ansicrwydd” yr oedd ffoaduriaid o Wcráin yn ei wynebu, ar 19 Chwefror cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn creu Cynllun Estyn Caniatâd Cyfnod Gwladolion o Wcráin newydd (UPE) a fydd yn darparu llwybr newydd i bobl o Wcráin wneud cais am 18 mis pellach o ganiatâd i aros yn y DU pan ddaw eu fisa presennol i ben. Ystyr hyn yw y gall y rhai sydd ar y fisas cynharaf aros tan o leiaf fis Medi 2026.

Er ei bod yn estyn y cynllun fisa, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau hyd cyfnod y fisas newydd a roddir o dan y cynllun nawdd Cartrefi i Wcráin o 36 mis i 18 mis i fod yn gydnaws â’r cyfnod a fydd yn cael ei gynnig i’r rhai sy’n dewis estyn eu caniatâd o dan y cynllun Estyn Caniatâd Cyfnod Gwladolion o Wcráin.

Cenedl Noddfa

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n dod yn 'uwch noddwr' Cartrefi i Bobl Wcráin ym mis Mawrth 2022. Er gwaethaf saib ar geisiadau newydd ym mis Mehefin 2022, roedd 3,289 o ffoaduriaid o Wcráin wedi cyrraedd Cymru drwy’r cynllun hwn erbyn 13 Chwefror 2024 gyda 4,162 yn rhagor o Ffoaduriaid o Wcrain yn cael eu noddi gan unigolion. Mae 2,123 o Wcraniaid ychwanegol wedi cael fisas sy'n caniatáu iddynt deithio i Gymru ond nid ydynt wedi cyrraedd eto.

Er y gwyddom faint o bobl o Wcráin sydd wedi dod i Gymru drwy'r cynlluniau, nid ydym yn gwybod faint sydd wedi gadael ers hynny, naill ai i fynd yn ôl i Wcráin neu i adleoli o fewn y DU.

Nifer y ceisiadau am fisa a fisas a roddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar 13 Chwefror 2024

Mae’r ddelwedd yn dangos nifer y ceisiadau am fisa a fisas a roddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar 13 Chwefror 2024.

Nifer y fisas a roddwyd a nifer y bobl a gyrhaeddodd Gymru rhwng 6 Ebrill 2022 a 13 Chwefror 2024

Mae’r ddelwedd yn dangos nifer y ceisiadau am fisa a fisas a roddwyd drwy'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar 13 Chwefror 2024.

Pwyllgor yn tynnu sylw at y pwysau o ran tai

Yn ei adroddiad ar 16 Mawrth 2023, canfu’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bod awdurdodau lleol o dan bwysau i ddod o hyd i dai ar gyfer pobl mewn llety dros dro. Mynegodd y Pwyllgor bryder, o fewn y cyd-destun ehangach hwn nad oes digon o lety ar gael i bobl o Wcráin symud iddo.

Ym mis Tachwedd 2023, roedd 11,317 o unigolion mewn llety dros dro yng Nghymru ond ni wyddom faint o'r rhain sy'n ffoaduriaid o Wcráin. Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data ar ffoaduriaid o Wcráin sy’n profi digartrefedd.

Ar hyn o bryd caiff ffoaduriaid eu noddi gan unigolion ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, fel y dangosir ar y map isod.

Mae’r ddelwedd yn dangos map o Gymru a nifer y fisas a roddwyd a nifer y rhai a noddwyd gan unigolion ym mhob awdurdod lleol. Caerdydd a gafodd y nifer mwyaf (419), tra mai Blaenau Gwent oedd â'r nifer lleiaf (35).

Mae’r Pwyllgor wedi gwneud chwech argymhelliad ar feysydd allweddol sy’n peri pryder o ran y ddarpariaeth ddigonol o lety symud ymlaen, a chyllid i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin. Derbyniwyd pob argymhelliad gan Lywodraeth Cymru.

Cyllido a chyllidebau

Mae Llywodraeth y DU yn darparu Taliad 'diolch' o £350 bob mis i'r cartrefi sy’n noddi o ran Cartrefi ar gyfer Wcráin. Mae hyn yn cynyddu i £500 ar ôl y 12 mis cyntaf o nawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb o rhwng £350 a £500 y mis yn ystod eu blwyddyn gyntaf i'r holl bobl sy’n croesawu gwesteion.

Ym mis Rhagfyr 2023, cynyddodd Llywodraeth y DU y cyfnod y gall gwesteiwyr dderbyn y taliad, a hynny o 24 mis i 36 mis. I rywun a ddechreuodd noddi person ym mis Mawrth 2022, bydd y taliad hwn bellach yn dod i ben tua mis Ebrill 2025 yn lle mis Ebrill 2024.

Ar gyfer Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25, dywedodd y Prif Weinidog fod ymateb i wrthdaro byd-eang “yn parhau i fod yn rhan bwysig o waith Llywodraeth Cymru”. Mae’r Gyllideb Ddrafft yn nodi y bydd £15.5 miliwn yn cael ei ail-flaenoriaethu o raglen Wcráin oherwydd lleihad yn nifer y bobl sy'n cyrraedd.

Nid yw’r gyllideb hon yn cynnwys darparu unrhyw gyllid grant i awdurdodau lleol ymgymryd â gweithgareddau symud ymlaen ac integreiddio. Ond mae'r Gweinidog Cyllid wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfran gymesur o Gronfa Atal Digartrefedd gwerth £120 miliwn Llywodraeth y DU.

Masnach gydag Wcráin

Ers 2020, mae Cymru yn allforio rhagor i Wcráin nag y mae'n ei fewnforio, ond mae’r rhyfel wedi effeithio ar fewnforion i raddau helaethach.

Gostyngodd gwerth y nwyddau a fasnachwyd rhwng Cymru ac Wcráin 53.2% yn 2022, pan dechreuodd y rhyfel, o’i gymharu â 2021. Roedd hyn yn cynnwys gostyngiad o 71.5% mewn gwerthoedd mewnforio a gostyngiad o 45.3% mewn gwerthoedd allforio.

Mae’r ystadegau diweddaraf, hyd at y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2023, yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm gwerth y nwyddau a fasnachwyd o 16.6% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i £14.1 miliwn. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 46.1% mewn gwerthoedd mewnforio i £2.5 miliwn a gostyngiad o 5.7% mewn gwerthoedd allforio, i £11.7 miliwn.

Fel rhan o'i waith craffu ar gytundebau rhyngwladol, ysgrifennodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig at Lywodraeth Cymru i ofyn ei barn ar newidiadau i'r Fargen fasnach rhwng y DU ac Wcráin i gefnogi Wcráin. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Rydym yn cefnogi'n llawn unrhyw fesurau i gefnogi Wcráin yn y rhyfel parhaus, ac rydym yn croesawu'r camau cadarnhaol mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd.

Casgliad

Yn y Senedd, nid yw Wcráin byth yn bell o’n meddyliau. Mae’r Aelodau yn tynnu sylw at ei effeithiau eang yn aml - o honiadau o droseddau rhyfel a phryderon am ddiogelwch bwyd at yr angen i wella rheoleiddio digidol i fynd i’r afael â chamwybodaeth .

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yn yr erthygl hon hefyd yn dangos sut mae'r gwrthdaro yn parhau i fod yn uniongyrchol berthnasol i Gymru.

Bydd datganiad y Gweinidog yfory yn nodi 726 diwrnod o ryfel yn Ewrop, wrth i realiti’r gwrthdaro hirdymor ar gyfer pobl Wcráin a'r byd gydio.


Erthygl gan Sara Moran a Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru