Mae cynnal yr iaith Gymraeg a hyrwyddo’r defnydd ohoni yn gofyn am gyfres gymhleth o bolisïau ac ymyriadau. Mae rhai ymyriadau'n gweithio'n gyffredinol ledled Cymru, ond mewn rhai ardaloedd mae angen ymyriadau dwys a pharhaus sy'n cefnogi nodweddion ieithyddol a diwylliannol y gymuned neu'r ardal.
Clywodd Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd, drwy ei ymchwiliad Cymraeg i bawb? pa mor bwysig yw creu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer ymgysylltu, fel y gall y rhai sy'n dysgu'r iaith ei defnyddio. Mae hyn yn arbennig o wir am ardaloedd a chymunedau â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg. Clywodd hefyd, er mwyn newid ymddygiadau a hyder o ran y Gymraeg fod gofyn am “gynllunio bwriadol” ac “am fuddsoddiad yn y mannau ffisegol, cymdeithasol, diwylliannol a digidol lle gall y Gymraeg ddod yn rhan naturiol o fywyd bob dydd”.
Roedd Adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor yn nodi rhai camau ymarferol y dylai Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y Gymraeg “yn iaith sy’n cael ei byw yn ogystal â’i dysgu”.
Datblygu ethos dwyieithog
Dywedir yn aml fod y 'Gymraeg yn perthyn i bawb', waeth beth fo'r gallu i'w defnyddio. Mae’r Cyfrifiad 2021 yn dangos bod ychydig o dan un rhan o bump o boblogaeth Cymru yn gallu siarad Cymraeg, ond mae arolwg barn diweddar gan YouGov yn dangos bod dwy ran o dair (67%) o'r boblogaeth o blaid ymdrechion i gynyddu’r defnydd ohoni, ac mae 63% o'r rhai na allant siarad Cymraeg yn cefnogi'r cyfeiriad presennol.
Ond er mwyn i iaith ffynnu, mae angen mwy na chefnogaeth yn unig - mae angen i bobl ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn rheolaidd. Mae'r rhwystrau i ragor o ddefnydd o’r iaith yn amrywiol. Mae'n ffaith gyffredin, er enghraifft, bod llawer o bobl yn brin o hyder, a bod cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gyfyngedig mewn rhai ardaloedd – mae hyn yn safbwynt a glywodd y Pwyllgor drwy waith ymgysylltu â dinasyddion. Dyma pam y daeth y Pwyllgor i'r casgliad isod am ddefnyddio’r Gymraeg mai:
nid mater o bolisi neu ddarpariaeth yn unig yw’r broses o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Yn hytrach, mae'n broses gymdeithasol a diwylliannol sy'n dibynnu ar greu cyfleoedd ystyrlon i ymgysylltu â’r iaith.
Mae modd ymgysylltu â'r Gymraeg mewn sawl ffurf, ac nid yw o reidrwydd yn gofyn am brofiad trochi’n llwyr o ran y Gymraeg. Gellid cyflwyno’r iaith fel rhan o ethos gweithgaredd neu ddigwyddiad. Mae datblygu mannau dwyieithog yr un mor bwysig â'r profiad trochi, ac roedd y Pwyllgor yn awyddus bod trefnwyr digwyddiadau a gwyliau ynghyd â chlybiau llawr gwlad yn defnyddio mwy o’r Gymraeg.
Diffyg cynllunio gwaddol yn peri risg o golli momentwm
Ni ellir tanamcangyfrif grym gŵyl neu ddigwyddiad Cymraeg mewn cymuned neu ardal leol fodd bynnag, yn enwedig mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg. Mae'r Pwyllgor yn eu gweld fel "ffyrdd hollbwysig o hyrwyddo a normaleiddio’r iaith". Am gyfnod byr, gall gŵyl Gymraeg gynyddu “dwysedd iaith” yr ardal honno dros dro, a chynnig profiadau pwerus a all newid canfyddiadau pobl, meithrin eu hyder, a rhoi’r ‘hwb’ i unigolyn ddechrau ei daith ei hun o ran yr iaith. Fel y nododd y Pwyllgor, mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg, gall y digwyddiadau a'r gwyliau hyn fod yn "bwynt cyswllt cyntaf" i lawer o bobl â’r Cymraeg y tu hwnt i addysg ffurfiol.
Er gwaethaf tystiolaeth am gynllunio pwrpasol yn y cyfnod cyn gwyliau Cymraeg mawr, yn ôl pob golwg ychydig o ystyriaeth a roddir i gynllunio gwaddol ar ôl y gwyliau. Roedd y Pwyllgor yn pryderu bod:
prinder cynllunio pwrpasol i sicrhau gwaddol a phrinder adnoddau ychwanegol yn esgor ar risg y bydd cyfleoedd yn cael eu colli, ac yn rhoi straen anghynaliadwy ar y mentrau iaith a phartneriaid cymunedol.
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dangos sut y gall ychydig iawn o gynllunio a buddsoddi gynnal momentwm mewn ardal ar ôl gŵyl genedlaethol. Mae Cynllun yr Eisteddod y Ganolfan, a ysgogwyd yn sgil ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Phontypridd, yn croesawu ac yn cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd yn yr ardaloedd ble y cynhaliwyd digwyddiad, ac yn sicrhau bod adnoddau ar gael i hybu gweithgareddau cyn ac ar ôl ymweliad yr ŵyl. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol, “ddatblygu fframwaith clir i roi arweiniad o ran cynllunio gwaddol ar ôl gwyliau” yn y dyfodol. Byddai cronfa arian bwrpasol yn ofynnol ar gyfer hyn i gefnogi’r gwaith o gydlynu cynlluniau gwaddol.
Cymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth
Roedd creu pwyntiau mynediad i ymgysylltu â'r iaith yn thema graidd yn adroddiad y Pwyllgor. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc y mae eu hunig ryngweithio â'r iaith o bosibl yn dechrau ac yn gorffen wrth giatiau'r ysgol. Dau faes allweddol a nodwyd fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor yw'r 'gweithle' a 'chwaraeon ar lawr gwlad'. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn dyrannu dros £2.5 miliwn yn flynyddol i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gyflawni'r rhaglen 'Cymraeg Gwaith'. Mae’r rhaglen hon yn cefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg ar draws sectorau. Mae oddeutu 2,000 a rhagor o gyflogwyr (cyhoeddus a phreifat) “wedi manteisio ar gynllun y Ganolfan". Roedd y Pwyllgor yn awyddus, yn y cyd-destun hwn, bod rhagor o bwyslais ar roi cymhellion i fusnesau preifat fabwysiadu polisïau Cymraeg a allai ymestyn cyrhaeddiad y Gymraeg o fewn gweithleoedd Cymru.
Mae clybiau chwaraeon a hamdden ar lawr gwlad yn rhoi cyfle i ddatblygu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg ymhellach, yn enwedig ymhlith pobl ifanc. Canfu gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg ar ddefnydd o’r iaith gan blant a phobl ifanc bod dros hanner y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn rheolaidd— sef swm sy’n sylweddol uwch nag unrhyw weithgaredd arall. Galwodd y Pwyllgor am gyllid wedi'i dargedu i “alluogi sefydliadau cymunedol a chlybiau llawr gwlad i ddatblygu ffyrdd arloesol o gyflwyno cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg”.
Deallusrwydd Artiffisial – ai cyfle neu fygythiad i’r Gymraeg?
Mae posibiliadau enfawr i Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) newid y ffordd y caiff y Gymraeg ei defnyddio, ei gweld a hyd yn oed ei chlywed, gan gadw'r iaith yn berthnasol mewn tirwedd ddigidol sy'n symud yn gyflym. Gwyddom fod y gallu gan AI i brosesu a deall Cymraeg, i ddarparu ymatebion ac i greu cynnwys yn y Gymraeg. Ond clywodd y Pwyllgor fod deallusrwydd artiffisial hefyd yn creu risgiau o ran y Gymraeg. Fel y nododd Cadeirydd y Pwyllgor yn ei Rhagair:
Ni allwn gymryd yn ganiataol bod deallusrwydd artiffisial yn ddatrysiad syml i bob problem ar gyfer yr heriau sy'n wynebu'r iaith. Er y gallai manteision clir ddeillio o ddefnyddio technoleg yn briodol, rhaid inni gydnabod y gallai'r defnydd eang o Saesneg, sy'n rhan gynhenid o ddeallusrwydd artiffisial, fod yn fygythiad i'r Gymraeg os nad eir i’r afael â hyn.
Mae gwaith Canolfan Bedwyr a phartneriaid eraill yn y maes hwn wedi bod yn hanfodol, gyda’r Ganolfan yn allweddol wrth osod y seilwaith digidol sylfaenol, ac yn datblygu modelau iaith mawr a all gystadlu â modelau yn Saesneg. Mae'r ffaith bod y data ar gael ar drwydded agored yn caniatáu i gwmnïau ledled y byd ddefnyddio ac addasu meddalwedd sydd â’r Gymraeg wedi'i hymgorffori ynddi. Yr her fawr yw argyhoeddi cwmnïau technoleg mawr, fel Apple ac Amazon, i ddefnyddio'r data yn eu systemau. Mae Llywodraeth Cymru wedi dangos ei bod hi’n bosibl dylanwadu ar gwmnïau fel Microsoft a meithrin perthnasoedd â hwy, ond mae rhai cwmnïau technoleg byd-eang eraill wedi bod yn anoddach i’w darbwyllo.
Y Gymraeg yn 2026 a thu hwnt
Yn ddiweddar cyhoeddodd Comisiynydd y Gymraeg ei Hadroddiad 5-mlynedd statudol ar Sefyllfa’r Gymraeg. Mae'r Comisiynydd yn nodi bod y Gymraeg fel “iaith naturiol yn ein cymunedau yn gwanhau”, a bod ein pobl ifanc yn byw eu bywydau fwyfwy “mewn cyd-destun lle mai’r Saesneg yw iaith chwarae ac adloniant”.
Ceisiodd ymchwiliad y Pwyllgor dynnu sylw at gamau ymarferol sy'n adeiladu ar strwythurau presennol, ac yn canolbwyntio ar ymyriadau a allai gael effaith fawr gyda dim ond lefelau bach o fuddsoddiad ychwanegol. Er mai Llywodraeth bresennol Cymru fydd yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor, o ystyried ein bod yn prysuro tuag at ddiwedd cyfnod y Senedd hon, mae'n debyg mai'r weinyddiaeth nesaf fydd yn penderfynu a ddylid eu gweithredu ai peidio.
Gallwch wylio'r ddadl ar yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol Ddydd Mercher, 25 Mawrth ar Senedd TV.
Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru