Ddydd Mawrth 8 Tachwedd, bydd y Senedd yn cynnal ei dadl flynyddol ar gymorth i gymuned y lluoedd arfog. Yn yr erthygl hon ceir trosolwg o strwythurau cymorth ar gyfer cyn-filwyr a’u teuluoedd yng Nghymru a thrafodir datblygiadau yn y sector hwn ers i Senedd y DU basio Deddf y Lluoedd Arfog 2021 fis Rhagfyr diwethaf.
Cyfamod y Lluoedd Arfog
Mae cymorth i gymuned y lluoedd arfog yn y DU yn seiliedig ar Gyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’r ddogfen hon yn nodi ‘rhwymedigaeth foesol’ y wlad tuag at aelodau’r tri llu arfog a’u teuluoedd. Y Cyfamod Milwrol ydoedd pan gafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol yn 2000, ond cafodd y Cyfamod presennol ei wneud yn gyfraith o dan Ddeddf y Lluoedd Arfog 2011. Sefydlodd y Ddeddf hon ddyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi adroddiad Blynyddol ar weithrediad y Cyfamod.
Mae’r Cyfamod yn nodi na ddylai rhywun sy’n gyn-filwyr, na’i deulu,
wynebu unrhyw anfantais o’i gymharu â dinasyddion eraill wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus a masnachol. Mae ystyriaeth arbennig yn briodol mewn rhai achosion, yn enwedig yng nghyswllt rhai a ddioddefodd anafiadau a phrofedigaeth.
Mae'r amodau hyn yn berthnasol mewn sawl agwedd ar fywyd, gan gynnwys addysg, cyflogaeth a gofal iechyd.
Yn ymarferol, y brif ffordd o gyflawni nodau’r Cyfamod yw i sefydliadau unigol wneud addewidion pwrpasol i’r perwyl hwnnw. Er enghraifft, gallai busnes roi sicrwydd y bydd ymgeiswyr sy’n cyn-aelodau o’r lluoedd arfog yn cael cyfweliad, neu gallant gynnig cymorth ariannol wedi'i deilwra, megis darparwr gwasanaeth ffôn symudol yn caniatáu i deuluoedd milwrol atal contract os cânt eu hanfon dramor. Ym mis Hydref 2022, roedd 9,162 o sefydliadau wedi arwyddo’r Cyfamod.
Yn ychwanegol at y system addewid, mae'r Cyfamod yn cael ei gyflawni trwy Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n dyfarnu grantiau i brosiectau cymunedol sy'n cefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.
Darparu cymorth i’r lluoedd arfog yng Nghymru
Mae llywodraethau lleol a chenedlaethol yn chwarae rhan wrth drefnu cymorth i gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru.
Mae pob un o'r 22 awdurdod lleol wedi llofnodi'r Cyfamod ac mae pob un wedi penodi hyrwyddwr y lluoedd arfog i sicrhau bod anghenion cyn-filwyr yn cael eu cynrychioli ym musnes y cyngor. Yna bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn goruchwylio sut mae’r Cyfamod yn cael ei gyflawni ledled ardaloedd awdurdodau lleol. Er enghraifft, mae'n rheoli rhaglen Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru (SSCE Cymru), sy’n cefnogi plant personél milwrol mewn addysg; yn 2017, cafodd arian o Gronfa’r Cyfamod i redeg Prosiect Cenedlaethol Cymru. Nod y prosiect hwn oedd rhoi cyhoeddusrwydd i’r Cyfamod a rhannu ffyrdd effeithiol o roi ei egwyddorion ar waith gyda chynghorau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyfrannu i’r gorchwyl o gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Mae'n ariannu GIG Cymru i Gyn-filwyr a’r Rhwydwaith Trawma i Gyn-filwyr yng Nghymru, ac, ers mis Tachwedd 2020, mae wedi bod yn rhedeg cynllun Gweithle Gwych i Gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog i helpu cyn-filwyr i ddod o hyd i swyddi yn y gwasanaeth sifil. Mae hefyd yn cefnogi saith Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog (AFLO) rhanbarthol, sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n effeithio ar gyn-filwyr gyda rhanddeiliaid ac yn rhoi cyngor i unigolion. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ei gwasanaethau cynghori ei hun hefyd, megis y Canllaw Adsefydlu Cymru, ac yn cynnig grantiau bach i grwpiau cymorth cyn-filwyr, megis Woody's Lodge.
Cynghorir Llywodraeth Cymru gan y Grŵp Arbenigol ar Anghenion Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac mae’n cyhoeddi adroddiad blynyddol ar weithredu’r Cyfamod yng Nghymru.
Mae cyflwyno’r Cyfamod yng Nghymru wedi ennyn rhywfaint o feirniadaeth. Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar Ymarfer Cwmpasu Cyn-filwyr, a gomisiynwyd fel rhan o Strategaeth y DU ar gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, gyda’r bwriad o asesu cymorth i’r Lluoedd Arfog ledled y DU. Nododd yr adroddiad ddiffyg ymwybyddiaeth gyffredinol o’r Cyfamod yng Nghymru, gyda chyn-filwyr yn cwyno nad oedd llawer o sefydliadau’n cadw at eu hymrwymiadau Cyfamod yn llawn.
Atgyfnerthu cymorth: Deddf y Lluoedd Arfog 2021
Ar 15 Rhagfyr 2021, pasiodd Senedd y DU Ddeddf y Lluoedd Arfog 2021. Mae’r Ddeddf hon yn dwysáu’r ymrwymiad cyhoeddus i’r Lluoedd Arfog ledled y DU, gydag Adran 8 yn ei gwneud yn ddyletswydd statudol ar rai cyrff cyhoeddus (yng Nghymru, mae hyn yn golygu awdurdodau lleol, byrddau iechyd a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir) i roi ‘sylw dyledus’ i’r Cyfamod ym materion tai, gofal iechyd ac addysg.
Nid yw'r 'ddyletswydd hon o dan y Cyfamod' yn nodi gwasanaethau penodol y mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus eu cynnig. Yn hytrach, mae’n gosod cyfrifoldeb ar benderfynwyr lleol i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu’r Cyfamod yn y tri sector perthnasol. Mae’r ddyletswydd o dan Cyfamod i ddod i rym unwaith y caiff y Canllawiau Statudol sy’n cefnogi’r ddyletswydd eu cymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd yn dilyn dadleuon yr hydref hwn.
Gan fod Deddf 2021 yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau datganoledig, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol tra oedd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn Fil. Pasiwyd y cynnig hwn gan y Senedd ar 23 Tachwedd 2021.
Comisiynydd Cyn-filwyr
Yn dilyn Deddf 2021, lansiodd Swyddfa Materion Cyn-filwyr y DU y Cynllun Gweithredu Strategaeth Cyn-filwyr ym mis Ionawr 2022, gyda’r nod o roi hwb sylweddol i’r cymorth a roddir i gymuned y Lluoedd Arfog ledled y DU erbyn 2028. Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i sawl targed fel rhan o’r cynllun gweithredu, megis gwella data ar wasanaethau i gyn-filwyr yng Nghymru a chyhoeddi fersiwn newydd o Gyfamod y lluoedd arfog: blaenoriaeth i gyn-filwyr mewn gofal iechyd.
Agwedd allweddol arall ar y cynllun gweithredu yw penodi Comisiynydd Cyn-filwyr i Gymru. Yn atebol i Lywodraeth y DU, rôl y Comisiynydd yw cynrychioli barn cyn-filwyr a sicrhau’r gwasanaethau gorau posibl yn eu gwlad. I bob pwrpas, bydd y Comisiynydd yn gallu monitro sut mae rhanddeiliaid yng Nghymru yn ymateb i anghenion cyn-filwyr a sicrhau bod y cymorth a ddarperir ar gyfer cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru yn cyfateb i’r hyn a geir yng ngwledydd eraill y DU.
Fe wnaeth y penderfyniad i benodi Comisiynydd ysgogi cryn ddadlau yn y Senedd. Ychydig cyn i Ddeddf 2021 gael Cydsyniad Brenhinol, dywedodd y Prif Weinidog i’r penderfyniad i benodi Comisiynydd gael ei gyhoeddi ‘heb unrhyw drafodaeth na hysbysiad ymlaen llaw gyda Llywodraeth Cymru'.
Ar 1 Mawrth 2022, cyhoeddodd cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart AS fod Cyrnol James Phillips wedi cael ei benodi‘n Gomisiynydd Cyn-filwyr i Gymru.
Yn dilyn ei benodiad, gwnaeth Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, groesawu’r Cyrnol Phillips ac ymrwymodd i gydweithio ag ef ar faterion cyn-filwyr yng Nghymru.
Camau diweddar
Ers i’r Comisiynydd ddechrau ar ei waith ym mis Mehefin, gwelwyd rhai datblygiadau o ran cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys lansio system ddyfarnu newydd CLlLC, Ysgolion sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog Cymru a pharhad y rhaglen nofio am ddim i aelodau’r Lluoedd Arfog tan o leiaf 2025.
Ar 5 Hydref, nododd y Dirprwy Weinidog iddi gyfarfod â'r Comisiynydd sawl gwaith a’i bod wedi dechrau gweithio gydag ef fel rhan o'r Grŵp Arbenigol. Nododd hefyd fod trefniadau ar waith i’r Comisiynydd gwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod sut y mae cymorth i gyn-filwyr mewn materion datganoledig yn cael ei ddarparu. Fodd bynnag, dywedodd y Dirprwy Weinidog ei bod yn dal yn rhy gynnar i lunio adroddiad sylweddol ar ei chydweithrediad â’r Comisiynydd.
Ar 28 Hydref, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hadroddiad ar Gyfamod y Lluoedd Arfog ar gyfer 2021. Yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gweithredu’r Cyfamod, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddatblygiadau posibl a allai effeithio ar y ffordd y caiff cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog ei ddarparu yn y dyfodol, gan gynnwys rhan lluoedd arfog y DU yn Wcráin a phwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd yn y lluoedd arfog.
Erthygl gan Samuel Young, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Samuel Young gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau De-orllewin Lloegr a Chymru a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.