Cyllidebau a’r pandemig - penderfyniadau digynsail mewn blwyddyn ddigynsail

Cyhoeddwyd 22/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/06/2021   |   Amser darllen munud

Mae’r pandemig COVID-19 yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol i Gymru wrth inni ddechrau’r Chweched Senedd. Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ddyraniadau ariannol sylweddol i helpu Cymru i ymdopi ag effaith y pandemig, a gwnaeth gyhoeddiadau ynghylch gwariant drwy gydol y flwyddyn. Beth, tybed, a newidiodd yn ystod y flwyddyn?

Cynyddwyd dyraniadau adnoddau a chyfalaf dewisol ar gyfer adrannau Llywodraeth Cymru o dan y tair Cyllideb Atodol yn 2020-21, sef o £17.7 biliwn yn y Gyllideb Derfynol 2020-21 i £24.6 biliwn, sef cynnydd o £6.9 biliwn (39.0 y cant).

Mewn cymhariaeth, cynyddodd y gyllideb ar gyfer 2019-20 o £16.4 biliwn yng Nghyllideb Derfynol 2019-20 i £17.5 biliwn yn dilyn Ail Gyllideb Atodol 2019-20, sef cynnydd o ddim ond £1.1 biliwn (6.7 y cant).

Dyrannodd Cyllideb Atodol Gyntaf 2020-21 £2.5 biliwn ychwanegol i adrannau o’i gymharu â’r Gyllideb Derfynol 2020-21, yr Ail Gyllideb Atodol 2020-21 £1.5 biliwn a’r Drydedd Gyllideb Atodol 2020-21 £2.9 biliwn. Cynyddodd y Cyllidebau Atodol ddyraniadau dewisol i adrannau 14.1 y cant, 8.5 y cant a 16.4 y cant yn y drefn honno, o gymharu â Chyllideb Derfynol 2020-21.

Yn ôl y disgwyl, dyrannwyd adnoddau ychwanegol sylweddol i’r maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yng Nghyllideb Derfynol 2020-21 dyrannwyd £8.7 biliwn o gyllid adnoddau i’r maes hwn, gan gynyddu i £10.2 biliwn erbyn amser y Drydedd Gyllideb Atodol. Roedd y dyraniadau hyn, ynghyd â’r rhai ar gyfer rhai adrannau eraill, yn cyfleu adnoddau ychwanegol, ond hefyd yn cyfleu addasiadau a oedd yn deillio yn sgîl ail-lunio portffolios Gweinidogion, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2020. Roedd y rhain yn cynnwys creu rôl newydd, sef y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg.

Roedd y dyraniadau net ychwanegol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig yn 2020-21 (sef £1.5 biliwn), yn fwy na chyfanswm y dyraniadau yn ystod y flwyddyn ar gyfer pob adran yn 2019-20.

Roedd y Cyllidebau Atodol yn cynnwys cyllid ar gyfer: pecyn sefydlogi ar gyfer y GIG (sef £800 miliwn), ac ysbytai maes (sef £166 miliwn). Roedd hyn hefyd yn cynnwys £57 miliwn ar gyfer y ‘Strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu yn y Gyllideb Atodol Gyntaf a dyraniadau ar gyfer olrhain cysylltiadau COVID-19, fel £45 miliwn yn yr Ail Gyllideb Atodol a £15.7 miliwn yn y Drydedd Gyllideb Atodol, ymhlith cyhoeddiadau mawr eraill.

Bu cynnydd net sylweddol ar gyfer nifer o adrannau eraill o gymharu â Chyllideb Derfynol 2020-21, gyda chynnydd o £4.7 biliwn i £6.0 biliwn ar gyfer y maes Tai a Llywodraeth Leol (sef cynnydd o 27.7 y cant), cynnydd o £1.8 biliwn i £2.7 biliwn ar gyfer Addysg (cynnydd o 50.0 y cant) ac, yn fwyaf arwyddocaol, cynnydd o £1.5 biliwn i £4.2 biliwn ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth (sef cynnydd o 180.0 y cant).

Roedd y cynnydd mawr mewn cyllid ar gyfer yr Economi a Thrafnidiaeth yn deillio o ganlyniad i’r dyraniadau sylweddol ar gyfer cymorth busnes yn ystod y pandemig. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys £500 miliwn a ddyrannwyd i’r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF) ac £1.2 biliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes a grantiau eraill yn y Gyllideb Atodol Gyntaf, yn ogystal â £660 miliwn ychwanegol ar gyfer cymorth busnes yn y Drydedd Gyllideb Atodol.

Roedd cyhoeddiadau arwyddocaol eraill am gyllid yn ystod y flwyddyn yn cynnwys £600 miliwn ar gyfer Cronfa Caledi Awdurdodau Lleol a £320 miliwn o fuddsoddiad i weithredu Ail-greu ar ôl COVID-19 Llywodraeth Cymru.

Pam tair Cyllideb Atodol?

Mae Llywodraeth Cymru fel arfer yn cyhoeddi dwy gyllideb atodol y flwyddyn, y naill tua mis Mehefin a’r llall tua mis Chwefror. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyllideb Atodol ychwanegol ym mis Hydref 2021, fodd bynnag, a oedd yn nodi ei bod yn dymuno “adlewyrchu’r newidiadau pellach sydd wedi digwydd o ganlyniad i’r camau a gymerwyd i ymateb i effeithiau uniongyrchol pandemig y coronafeirws”.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid ar y pryd wrth y Senedd ym mis Hydref 2020 y byddai’r Gyllideb Atodol ddilynol, a gyhoeddwyd yn arferol ym mis Chwefror, yn “canolbwyntio rhagor ar yr ymdrech i ail-greu”. Mewn ymateb i adroddiad ar Gyllideb Ddrafft 2021-22 Pwyllgor Cyllid y Senedd, nododd Llywodraeth Cymru:

Ni yw’r unig lywodraeth yn y DU sydd wedi cyhoeddi tri diweddariad i’n cyllideb yn ystod y flwyddyn ac sydd wedi bod yn dryloyw o ran ein penderfyniadau cyllido yn y ffordd hon.

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban Adolygiad o Gyllideb yr Haf, yr Hydref a’r Gwanwyn yn 2020-21, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020, mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021, yn y drefn honno. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Amcangyfrifon Atodol ar gyfer 2020-21 ym mis Chwefror 2021, tra cyhoeddodd Cynulliad Gogledd Iwerddon Amcangyfrifon Atodol y Gwanwyn ar gyfer 2020-21 ym mis Mawrth 2021.

Benthyca

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau benthyca cyfyngedig, sy’n caniatáu iddi fenthyg hyd at £150 miliwn o gyfalaf bob blwyddyn, hyd at derfyn cyffredinol o £1 biliwn. Roedd y Gyllideb Ddrafft 2021-22 yn nodi cynlluniau i fenthyg y ffigur llawn o £150 miliwn, a ailadroddwyd yng Nghyllideb Derfynol 2021-22.

Ni nododd y Drydedd Gyllideb Atodol ddim benthyca cyfalaf ar gyfer 2020-21, ac ni fenthycwyd dim yn 2019-20 chwaith. Arweiniodd hyn at feirniadaeth gan y gwrthbleidiau a ddywedodd y gallai’r methiant i ddefnyddio cwmpas llawn eu pwerau benthyca “danseilio achos Llywodraeth Cymru dros gynyddu’r lefelau cyfredol”.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy nodi mai diffyg hyblygrwydd yn y trefniadau cyllido gyda Llywodraeth y DU a oedd wedi achosi hyn, wrth alw wedi hynny am lacio eu terfynau benthyca yn y dyfodol.

Mewn cyferbyniad, mae gan Lywodraeth yr Alban gryn dipyn yn rhagor o allu i fenthyca gydag uchafswm o £450 miliwn y flwyddyn ar gyfer cyfalaf, hyd at gyfanswm o £3 biliwn. Cadarnhaodd yr Adolygiad o Gyllideb y Gwanwyn 2020-21 Llywodraeth yr Alban ei bwriad i fenthyg y £450 miliwn yn llawn yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac roedd ei Hadroddiad ar Ganlyniad y Fframwaith Cyllidol ar gyfer 2019-20 yn nodi ei bod wedi benthyca £405 miliwn yn y flwyddyn honno i gefnogi gwariant cyfalaf.

Cronfeydd wrth gefn

Yn debyg iawn i’w phwerau benthyca, mae cyfyngiadau hefyd ar ddefnyddio adnoddau a gedwir yng Nghronfeydd wrth Gefn Cymru, sydd yn helpu Llywodraeth Cymru i “reoli amrywiadau mewn refeniw treth a hefyd yn darparu gallu cyfyngedig i gario tanwariant rhwng blynyddoedd”.

Mae’r Fframwaith Cyllidol yn caniatáu i Lywodraeth Cymru arbed refeniw dros ben a chyllid y grant bloc nas defnyddiwyd i Gronfeydd wrth Gefn Cymru, a hynny hyd at derfyn o £350 miliwn. Mae’n gallu tynnu uchafswm o £125 miliwn mewn cyllid adnoddau a £50 miliwn mewn cyfalaf mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Roedd y Drydedd Gyllideb Atodol ar gyfer 2020-21 yn cadarnhau bwriad Llywodraeth Cymru i dynnu £125 miliwn o gyllid adnoddau o Gronfa Wrth Gefn Cymru, sy’n gyson â’r wybodaeth a gynhwysir yn y Gyllideb Atodol Gyntaf a’r Ail Gyllideb Atodol. Roedd y Drydedd Gyllideb Atodol hefyd yn cynnwys tynnu £40.2 miliwn mewn cyllid cyfalaf a £9.8 miliwn ar gyfer cyfalaf trafodion ariannol.

Ers 2018-19, mae cyfanswm y cyllid a gedwir yng Nghronfa wrth Gefn Cymru wedi cynyddu’n raddol, er bod y cyllid adnoddau a gaiff ei gadw ynddo wedi lleihau rhwng 2019-20. Mae ffigurau dros dro yn dangos bod Cronfa Wrth Gefn Cymru yn dal £232 miliwn mewn cyllid adnoddau ar ddechrau 2020-21, ynghyd â £39 miliwn mewn cyllid cyfalaf a £66 miliwn mewn cyfalaf trafodion ariannol.

Ym mis Chwefror 2021, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y gallai unrhyw gyllid COVID-19 heb ei wario o gyllid canlyniadol a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gael ei gario y tu allan i Gronfa Wrth Gefn Cymru oherwydd yr “amgylchiadau eithriadol ac mewn ymateb i alwadau am hyblygrwydd”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cario amcangyfrif o £498 miliwn o gyllid adnoddau canlyniadol ar gyfer COVID-19 rhwng 2020-21 a 2021-22.

Beth yw’r rhagolygon ar gyfer 2021-22?

Mae Dadansoddiad Cyllidol Cymru yn amcangyfrif y bydd £2.5 biliwn o gyllid COVID-19 ar gael i Lywodraeth Cymru yn 2021-22. Mae hyn yn cymharu â ffigur o £5.7 biliwn (PDF 837kb) ar gyfer 2020-21.

Pwysleisiodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys bod angen gwneud gwaith i roi sylw i gyllid cyhoeddus yng Nghyllideb 2021, ond heb fawr o eglurder ynghylch a yw unrhyw gyllid ychwanegol COVID-19 yn debygol o ddod yn ystod 2021-22. Mae’r ansicrwydd cyllidol hwn hefyd wedi’i fframio gan yr heriau sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, sy’n cynnwys mynd i’r afael ag amseroedd aros y GIG, sydd ar ei lefel uchaf erioed sef 568,367, fel yr oedd ym mis Mawrth 2021.

I gael rhagor o wybodaeth am rai o’r Cyllidebau Atodol rhwng 2020-21, mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi erthyglau ar y Gyllideb Atodol Gyntaf, ar yr Ail Gyllideb Atodol ac ar y Drydedd Gyllideb Atodol, a fydd yn darparu manylion a chyd-destun ychwanegol.


Erthygl gan Owain Davies, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru