Yr unig newid rhwng cyllidebau drafft a therfynol Llywodraeth Cymru oedd y £10 miliwn o wariant cyfalaf ar brosiect trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru a gyhoeddwyd.
Yn ogystal â dyraniadau cyllid yn y Gyllideb Derfynol, mae Datganiad yr Hydref 2014 mewn perthynas â’r DU a gyhoeddwyd ar 3 Rhagfyr yn golygu bod cyfanswm y refeniw sydd ar gael i Gymru ar gyfer 2015-16 yn cynyddu £113.2 miliwn, a chyfanswm y cyfalaf yn cynyddu £8.8 miliwn, y mae £2.3 miliwn ohono ar gyfer Trafodiadau Ariannol. Disgwylir i’r Cynulliad graffu ar fwriad Llywodraeth Cymru o ran y symiau hyn wrth ystyried cyllideb atodol yn y dyfodol.
Mae’r Pwyllgor Cyllid hefyd wedi craffu ar yr amcangyfrifon ar gyfer Comisiwn y Cynulliad, Swyddfa Archwilio Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y cyfeirir atynt yn y cynnig cyllidebol.