Cyllideb Derfynol 2014-15

Cyhoeddwyd 09/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Rhagfyr 2013 Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gosododd Llywodraeth Cymru Gyllideb Derfynol 2014-15 ar 3 Rhagfyr 2013. Prin iawn yw’r newidiadau a wnaed rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol, ac fe’u rhestrir isod:
  • Yn 2014-15, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5 miliwn yn ychwanegol mewn arian cyfalaf ar ffurf cyllid trafodion ariannol i Faes Awyr Caerdydd.  Trosglwyddwyd y dyraniad hwn o’r cronfeydd wrth gefn.
  • Dyrannwyd cyllid refeniw ychwanegol i Fenter Benthyca Llywodraeth Leol i gyflymu’r gwaith o gyflwyno Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Dyrennir swm o £3.5 miliwn yn 2014-15 ac £8 miliwn yn 2015-16.
  • Er mwyn cefnogi’r dyraniadau hyn i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sicrhawyd arbedion refeniw o fewn y prif grŵp gwariant Addysg a Sgiliau o £1.75 miliwn yn 2014-15 a £4 miliwn yn 2015-16. At hynny, bydd arbedion refeniw o £1.75 miliwn yn 2014-15 a £2.1 miliwn yn 2015-16 o’r prif grŵp gwariant Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu.  Ariennir y cyllid refeniw o £1.9 miliwn sy’n weddill ar gyfer Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2015-16 o’r cronfeydd wrth gefn.
  • Dyrannwyd £30 miliwn yn ychwanegol yn 2015-16 i roi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar waith. Trosglwyddir y dyraniadau hyn o’r cronfeydd wrth gefn.
Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o’r newidiadau i ddyraniadau terfyn gwariant adrannol Llywodraeth Cymru ar gyfer pob prif grŵp gwariant rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol ar gyfer 2014-15. Rhwng y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol, mae cyfanswm dyraniadau terfyn gwariant adrannol Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £5 miliwn yn 2014-15 a £31.9 miliwn yn 2015-16. Tabl 1: Newidiadau i gyfanswm dyraniadau terfyn gwariant adrannol Llywodraeth Cymru fesul prif grŵp gwariant rhwng y Gyllideb Ddrafft a Chyllideb Derfynol 2014-15 (mewn £ miloedd) Final Budget table Cymraeg Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r Gwasanaeth Ymchwil o gyllidebau Llywodraeth Cymru O ran y newidiadau cyffredinol i’r terfyn gwariant adrannol rhwng Cyllideb Derfynol 2013-14 a Chyllideb Derfynol 2014-15, mae ffigur 1 yn dangos y newid canrannol, mewn termau arian parod, i’r terfyn gwariant adrannol ar gyfer pob prif grŵp gwariant.  Gellir gweld y canlynol:
  • Cafwyd y cynnydd mwyaf mewn arian parod ym meysydd yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a Thai ac Adfywio.
  • Cafwyd gostyngiad o ran arian parod ym meysydd Llywodraeth Leol, Addysg a Sgiliau a Diwylliant a Chwaraeon.
Ffigur 1: Newid, mewn termau arian parod, i ddyraniadau terfyn gwariant adrannol fesul prif grŵp gwariant rhwng y Gyllideb Atodol a Chyllideb Derfynol 2014-15 Final budget graph Cymraeg Ffynhonnell: Cyfrifiadau’r Gwasanaeth Ymchwil o gyllidebau Llywodraeth Cymru