Ers iddi gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr, mae Pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn craffu ar Gyllideb Ddrafft 2020-21 Llywodraeth Cymru. Derbyniodd Llywodraeth Cymru gynnydd mewn termau real i’r cyllid sydd ar gael o gymharu â’r llynedd, y mae wedi’i ddefnyddio i sicrhau cynnydd mewn termau real ar draws pob portffolio o’r gyllideb.
Mae’r erthygl hon yn crynhoi’r gyllideb mewn tri ffeithlun sy’n dangos i chi sut y disgwylir i’r cyllid newid.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn y gyllideb ddrafft?
Mae cyfanswm y cyllid dewisol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi cynyddu 5.7% o gymharu â’r llynedd. Amlinellir y prif ffigurau yn y ffeithluniau isod:
Prif ffigurau’r Gyllideb Ddrafft (DB) 2020-21 o gymharu â’r Gyllideb Atodol Gyntaf (FSB) 2019-20
Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): Y cyfanswm sydd gan y Llywodraeth i’w wario.
Terfyn Gwariant Adrannol (DEL) Dyma elfen ddewisol y gyllideb, y mae’r Llywodraeth yn ei dyrannu i wahanol adrannau o’r Llywodraeth a chaiff ei gwario gan yr adrannau hynny.
Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): Ddim yn ddewisol. Wedi'i wario ar raglenni sy’n seiliedig ar alw fel benthyciadau myfyrwyr.
* Ac eithrio incwm ardrethi annomestig o £1.1bn.
Pa bortffolio sy’n derbyn y dyraniad cyllideb mwyaf?
Y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n parhau i gael y dyraniad cyllideb mwyaf. Mae’r ffeithlun isod yn dangos graddfa dyraniadau pob portffolio.
Sut mae’r dyraniadau refeniw cyllideb wedi newid?
Mae dyraniadau refeniw yn cynnwys costau rhedeg o ddydd i ddydd fel cyflog staff a phrynu nwyddau a gwasanaethau traul, a bydd yr holl bortffolios yn cael cynnydd mewn termau real y flwyddyn nesaf. Mae’r ffeithlun isod yn dangos newidiadau blynyddol mewn refeniw yng nghyllideb ddrafft 2020-21:
Newidiadau yn refeniw’r Terfynau Gwariant Adrannol yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2020-21, o gymharu â’r Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2019-20.
* Mae refeniw yn cynnwys costau rhedeg o ddydd i ddydd fel cyflogau.
** Ac eithrio incwm ardrethi annomestig o £1.1bn.
Mae’r ffigurau wedi’u talgrynnu. Dylech gyfeirio at Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21 i gael yr union ffigurau.
Beth yw’r prif bethau o’r gyllideb?
Dyma’r gyllideb gyntaf ers i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019. Prif bryder y Pwyllgor Cyllid oedd sut roedd y gyllideb am fynd i’r afael â’r mater hwn. Roedd y gyllideb yn dyrannu tua £140m o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r agenda datgarboneiddio. Yn y pen draw, roedd y Pwyllgor yn siomedig nad oedd y gyllideb yn dangos dull mwy radical yn hyn o beth. Gwnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid gydnabod hynny:
In declaring a climate emergency the Welsh Government is taking steps towards addressing the issue of climate change and its impact on the world.
Fodd bynnag, aeth yn ei flaen i awgrymu y gellid bod wedi gwneud mwy ar y mater:
…this committee feels the Welsh Government could and should have gone further to recognise the effects its own decisions and priorities are having on our climate.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft yn adeiladu ar hyn, gan nodi nad yw ‘yn argyhoeddedig bod gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth glir o effaith ei phenderfyniadau gwariant ar garbon’.
O fewn y gyllideb, mae awdurdodau lleol yn disgwyl ar hyn o bryd cael cynnydd o rhwng 3.0% a 5.4%. Fodd bynnag, awgrymodd tystion na fydd hi’n bosibl buddsoddi mewn gwasanaethau blaenoriaeth fel iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol heb fenthyca uwch neu gynnydd mewn trethiant.
Beth nesaf?
Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad, Gwaith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-2021 yr wythnos diwethaf ac mae’n gwneud 27 o argymhellion.
Cynhelir dadl ar y gyllideb yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Chwefror 2020, a gallwch ei gwylio’n fyw ar SeneddTV.
I ganfod mwy am y dyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft, gweler ein hofferyn delweddu rhyngweithiol.
Yna bydd y Gyllideb Derfynol yn cael ei chyhoeddi ar 25 Chwefror 2020.
Erthygl gan Christian Tipples a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru