Cyllideb Ddrafft 2025-26: Pum peth a ddysgwyd gennym yn sgil gwaith craffu

Cyhoeddwyd 03/02/2025   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2025-26 ar 10 Rhagfyr 2024, gan nodi y byddai’n “rhoi gobaith inni ar gyfer dyfodol mwy disglair”. Yn gynharach y mis hwn, gwnaethom gyhoeddi crynodeb o'r dyraniadau allweddol a wneir i adrannau’r Llywodraeth, a'r newidiadau sydd wedi dod i’r amlwg ers y llynedd. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu swm o £25.8 biliwn yn y DEL refeniw a chyfalaf, sy’n gynnydd o £1.7 biliwn, neu 7 y cant, o gymharu â 2024-25.

Cyn i Bwyllgorau’r Senedd gyhoeddi eu hadroddiadau, a chyn cynnal y ddadl ar y Gyllideb Ddrafft ar 4 Chwefror, mae'r erthygl hon yn nodi pum peth rydym wedi'u dysgu yn sgil y gwaith craffu a wnaed.

1. Mwy o gyllid ar gyfer llywodraeth leol na’r disgwyl, ond mae’r pwysau ar feysydd gofal cymdeithasol ac addysg yn parhau

Fel rhan o’r Gyllideb Ddrafft, mae’r cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu £253 miliwn, neu 4.3 y cant, ar sail tebyg am debyg o gymharu â 2024-25. Mae'r cynnydd hwn yn fwy na'r hyn a ragwelwyd ar ddechrau'r flwyddyn, ond mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ei bod yn parhau i wynebu penderfyniadau anodd.

Croesawodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y cynnydd, ond nododd y pwyntiau a ganlyn:

…bydd y setliad hwn yn bilsen anodd i lawer o awdurdodau ei lyncu. Mae'r galw ar wasanaethau fel gofal cymdeithasol, addysg a thai yn cynyddu'n gyson.

Dywedodd y gymdeithas fod y twf parhaus mewn gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, a chymhlethdod y gofal hwnnw, yn arwain at bwysau cyllidebol difrifol.

Yn y cyfamser, mae ysgolion yn wynebu pwysau ariannol sy’n gysylltiedig â chyflogau a’r galw cynyddol am wasanaethau anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’n bosibl y bydd mwy o gyllid ar gael erbyn 2026-27 na’r hyn a ragwelwyd, ond mae sefydliad Dadansoddi Cyllid Cymru yn disgwyl y bydd cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU yn fwy tynn o lawer yn y blynyddoedd i ddod. Mae Prif Economegydd Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd gwariant dewisol ar adnoddau yn cynyddu “ar gyfradd o ychydig o dan 1% y flwyddyn mewn termau real.”

2. Cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn destun pryder

Yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, mae Trysorlys EF wedi cadarnhau y bydd yn darparu cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru yn hanner cyntaf 2025-26 er mwyn adlewyrchu effaith y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr mewn perthynas â staff y sector cyhoeddus. Daw hynny yn sgil y newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i’r gyfundrefn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer cyflogwyr. Amcangyfrifir y bydd effaith flynyddol y newidiadau hyn werth £253 miliwn.

Dywedodd Conffederasiwn y GIG wrth y Pwyllgor Cyllid y byddai’r newid i’r gyfundrefn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn arwain at sgil-effeithiau sylweddol i wasanaethau rheng flaen. Tynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sylw at faich ychwanegol posibl y newidiadau yng nghyd-destun y gwasanaethau lleol a ddarperir gan y sector preifat.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet mai’r cynnig ar hyn o bryd yw y bydd Cymru’n cael cyfran Barnett o gostau’r cynnydd yn Lloegr (a fyddai’n seiliedig ar y gost wirioneddol i’r sector cyhoeddus yno). Cafodd y cynnig hwn ei ddisgrifio ganddo fel trefniant na fyddai’n addas ar gyfer talu costau cyflogwyr y sector cyhoeddus, ac felly’n drefniant a fyddai’n annheg, yn ei hanfod.

Mae sefydliadau yn y sector gwirfoddol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i liniaru effaith y costau ychwanegol y byddant yn eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn y gyfundrefn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, gan na fydd Llywodraeth y DU yn ad-dalu eu costau yn yr un modd ag y bydd yn ei wneud ar gyfer y sector cyhoeddus. Soniodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am yr effaith ar y trydydd sector, gan ddatgan y canlynol:

… 65% of organisations we surveyed very or moderately concerned about their ability to afford the rise. 21% told us they are considering reducing service delivery and 14% said they are considering service closure as a result of the increase of NICs…

3. Ni ddilynwyd protocol y gyllideb am y chweched flwyddyn yn olynol, gan olygu bod llai o amser ar gael i graffu arni

Am y chwe blynedd diwethaf (gan gynnwys eleni), mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb Ddrafft yn rhy hwyr i lynu wrth y weithdrefn graffu arferol, fel y nodir ym Mhrotocol Proses y Gyllideb.

Eleni, nododd Llywodraeth Cymru fod diffyg eglurder “ynghylch dyddiad y digwyddiad cyllidol pan fyddwn yn cael gwybod union fanylion setliad y gyllideb ar gyfer blwyddyn gyllideb 2025-26”, gan nodi mai dyma’r rheswm dros gwtogi’r amserlen. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gyllideb yr Hydref ar gyfer 2024 ar 30 Hydref.

Ym mis Mehefin 2024, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ar y pryd, er mwyn tynnu sylw at alwadau pwyllgorau’r Senedd am fwy o amser i graffu ar y Gyllideb Ddrafft, gan nodi bod yr amserlenni byrrach yn golygu y byddai’n hynod heriol ceisio asesu ei heffaith mewn modd ystyrlon.

Ni chafodd yr amserlen ar gyfer cyhoeddi'r Gyllideb Ddrafft ei newid, a chyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft ar 10 Rhagfyr.

Yn ystod y cyfnod craffu, nododd Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, y byddai cynlluniau Llywodraeth newydd y DU yn ymwreiddio’r anawsterau sydd wedi dod i’r amlwg mewn perthynas â’r amserlen a’r protocol, sy’n golygu y gallai’r ffaith bod cyfnod byrrach o amser ar gael ar gyfer gwaith craffu fod yn fater parhaus. Mae newidiadau i'r protocol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan y Pwyllgor Cyllid o ganlyniad i’r profiadau a gafwyd yn y Chweched Senedd.

4. Llinellau sylfaen diwygiedig yn gwneud gwaith craffu yn fwy anodd

Mae Cyllideb Ddrafft 2025-26 yn cymharu dyraniadau ariannol yn erbyn llinell sylfaen ddiwygiedig ar gyfer 2024-25.

Mae hwn yn ddull gweithredu gwahanol i’r hyn a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Mae’r llinell sylfaen at ddibenion cymharu wedi'i haddasu i gyfrif am gytundebau cyflog sy’n uwch na'r cytundebau y cyllidebwyd ar eu cyfer yn 2024-25, a chynnydd mewn costau pensiwn i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y derbyniwyd cyllid canlyniadol ar ei gyfer bellach gan Lywodraeth y DU. Mae nifer o newidiadau eraill hefyd wedi'u gwneud i’r gymhariaeth llinell sylfaen hon. Heb wneud addasiadau o'r fath, byddai’r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn wedi ymddangos yn sylweddol uwch.

Dywedodd Dadansoddi Cyllid Cymru fod materion sylfaenol yn golygu bod craffu ar y cynlluniau gwariant hyn yn fwy anodd nag arfer a’i bod yn anodd cael syniad iawn eleni o sut mae’r cyfanswm gwariant yn newid. Gwnaeth y Sefydliad Astudiaethau Cyllid hefyd ddweud fod dull Llywodraeth Cymru o gyflwyno’r gyllideb ymhell o fod yn ddelfrydol. Nododd nad oedd y gyllideb mor dryloyw ag y gallai fod, gan nad oedd yr holl newidiadau yn cael eu cyflwyno yn yr un lle.

5. Rhai’n pryderu nad yw gwariant ataliol wedi cael ei flaenoriaethu’n ddigonol

Nododd yr Ysgrifennydd Cabinet bwysigrwydd gwariant ataliol fel egwyddor ar gyfer blaenoriaethu dyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft, ac mae hwn yn fater y mae pwyllgorau’r Senedd wedi’i ystyried dros nifer o flynyddoedd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y Pwyllgor Cyllid y byddai modd disgrifio bron popeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud fel mesur ataliol mewn rhyw ffordd. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i symud arian tuag at fesurau ataliol, ond bod hyn weithiau yn gysyniad mwy anodd ei roi ar waith yn ymarferol nag yw'r syniad yn ei hanfod.

Fodd bynnag, nododd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru nad yw atal yn cael ei grybwyll cymaint o weithiau yng Nghyllideb Ddrafft eleni â’r hyn a welwyd eisoes. Dywedodd fod hyn yn awgrymu bod y Gyllideb Ddrafft yn canolbwyntio mwy ar fynd i’r afael â’r heriau sy’n bodoli ar hyn o bryd. Yn yr un modd, roedd Conffederasiwn GIG Cymru o’r farn bod y Gyllideb Ddrafft yn canolbwyntio ar ymdrin â phroblemau wrth iddynt godi, a bod angen newid y pwyslais, gan ganolbwyntio mwy ar atal.

Beth nesaf?

Heddiw (3 Chwefror 2025) yw’r dyddiad cau i’r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau polisi’r Senedd gyhoeddi eu hadroddiadau ar y Gyllideb Ddrafft.

Cynhelir dadl ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Chwefror 2025, a fydd ar gael i’w gwylio’n fyw ar Senedd TV.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 ar 25 Chwefror 2025. Mae ein herthygl ddiweddar yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn sy'n digwydd os nad oes pleidlais o blaid y gyllideb. Mae rhagor o wybodaeth am ddyraniadau penodol yng Nghyllideb Ddrafft 2025-26 ar gael yn ein hadnodd rhyngweithiol.


Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru