Llun o berson yn defnyddio cyfrifiannell a gliniadur

Llun o berson yn defnyddio cyfrifiannell a gliniadur

Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2022-23

Cyhoeddwyd 08/07/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2022-23 ar 21 Mehefin 2022. Mae hwn yn manylu ar benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ers y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2022-23 a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Mawrth 2022.

Mae'r erthygl hon yn rhoi crynodeb o’r dyraniadau allweddol, yn ogystal â chyllid Llywodraeth Cymru a faint sydd ganddi ar ôl i’w wario, fel y nodir yn y Gyllideb Atodol. Rydym wedi cynhyrchu dogfen Geirfa’r Gyllideb ar wahân i egluro'r termau a ddefnyddir.

Faint mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddyrannu yn y Gyllideb Atodol?

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddyraniadau ariannol sylweddol i helpu Cymru i ymdopi ag effaith y pandemig Covid-19. Gwnaed cyhoeddiadau gwariant drwy gydol 2020-21 a 2021-22, ac fe’u hadlewyrchwyd mewn cyllidebau atodol. Mae ein herthyglau blaenorol yn rhoi cefndir i hyn:

Mae’r Gyllideb Atodol hon yn dychwelyd at y norm cyn y pandemig. Mae mwyafrif y dyraniadau yn ymwneud â newidiadau technegol sy’n gweithredu safon gyfrifyddu newydd ar gyfer prydlesi (Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16, Prydlesi).

Mae’r newidiadau hyn yn arwain at gynnydd net o £286.3m (neu 1.3 y cant) yn y gyllideb ar gyfer meysydd gwariant dewisol, o gymharu â Chyllideb Derfynol 2022-23. Fodd bynnag, mae'r rhain yn ailddosbarthiadau cyllideb y mae Trysorlys EM wedi cwmpasu ar eu cyfer ar gyfer y cyfnod 2022-23 i 2024-25 i Lywodraeth Cymru. Nid ydynt yn effeithio ar bŵer Llywodraeth Cymru i wario.

Er bod y Gyllideb Atodol yn trosglwyddo rhywfaint o gyllid rhwng adrannau Llywodraeth Cymru, prin yw'r dyraniadau 'newydd'. Mae’n dyrannu cynnydd net o £106.0 miliwn (neu 0.5 y cant) i adrannau Llywodraeth Cymru ar gyfer meysydd gwariant cyfalaf ac adnoddau dewisol, o gymharu â’r Gyllideb Derfynol.

Mae'r newidiadau ar gyfer adrannau unigol hefyd yn fach mewn termau absoliwt a chanrannol. Bydd y mwyafrif yn gweld cynnydd o ran gwariant, gyda’r mwyaf yn nhermau gwerth yn cael ei ddyrannu i Gyllid a Llywodraeth Leol (cynnydd o £66.9 miliwn neu 1.4 y cant). Yr Economi sydd wedi gweld y gostyngiad mwyaf yn nhermau gwerth a thermau canrannol (sef gostyngiad o £7.5 miliwn a 1.5 y cant).

Terfyn Gwariant Adrannol Refeniw (DEL): £19,051 miliwn (cynnydd o £59 miliwn neu 0.3 y cant). DEL Cyfalaf: £2,986 miliwn (cynnydd o £47 miliwn neu 1.8 y cant). Cyfanswm DEL: £22,037 miliwn (cynnydd o £106 miliwn neu 0.5 y cant). Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME): £2,301 miliwn. Cyfanswm y Gwariant a Reolir (TME): £24,337 miliwn (cynnydd o £106 miliwn neu 0.4 y cant).

DEL yw’r rhan o’r gyllideb y gall Llywodraeth Cymru ddewis sut i’w gwario yn ôl ei disgresiwn ei hun.

AME yw'r rhan o'r gyllideb nad yw'n ddewisol.

Nid yw'r newidiadau o'u cymharu â'r Gyllideb Derfynol yn adlewyrchu ailddosbarthu'r gyllideb ar gyfer gweithredu'r Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16, Prydlesi, sydd wedi'u cynnwys yn y dyraniadau ar gyfer DEL Refeniw, DEL Cyfalaf, ac AME.

Tabl yn dangos cyfanswm y dyraniad refeniw a chyfalaf fesul adran. Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol £10,256 miliwn (cynnydd o £38.4 miliwn, neu 0.4 y cant). Cyllid a Llywodraeth Leol: £4719 miliwn (cynnydd o £66.9 miliwn neu 1.4 y cant). Addysg a’r Gymraeg: £2,580 miliwn (cynnydd o £8.5 miliwn neu 0.3 y cant). Newid Hinsawdd: £3,006 miliwn (gostyngiad o £4.1 miliwn neu 0.1 y cant). Economi: £479 miliwn (gostyngiad o £7.5 miliwn neu 1.5 y cant). Materion Gwledig: £393 miliwn, (gostyngiad o 0.07 miliwn). Cyfiawnder Cymdeithasol: £248 miliwn (cynnydd o £2.2 miliwn, neu 0.9 y cant). Gwasanaethau Canolog a Gweinyddiaeth: £355 miliwn (cynnydd o £1.5 miliwn, neu 0.4 y cant).

* Heb gynnwys tua £1 biliwn mewn incwm ardrethi annomestig.

** Yn cynnwys dyraniad o £460 miliwn mewn refeniw anghyllidol yn sgil benthyciadau i fyfyrwyr.

*** Nid yw'r newidiadau yn adlewyrchu ailddosbarthu'r gyllideb ar gyfer gweithredu'r Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16, Prydlesi, sydd wedi'u cynnwys yn y ffigyrau ar gyfer cyfanswm y dyraniadau refeniw a chyfalaf.

Ymateb i’r rhyfel yn Wcráin

Mae Llywodraeth Cymru “wedi gwneud ymrwymiad clir i groesawu'r rhai sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, gan ddod yn noddwr swyddogol neu “uwch-noddwr” ym mis Mawrth 2022. Mae’r Gyllideb Atodol yn nodi £20 miliwn ar gyfer ymateb Llywodraeth Cymru i’r rhyfel.

Gan weithio gydag awdurdodau lleol ac eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi seilwaith ar waith i gefnogi ffoaduriaid sy’n cyrraedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys sefydlu llinell gymorth, Canolfannau Cyrraedd a rhwydwaith o Ganolfannau Croeso ledled Cymru. Hefyd, mae wedi sefydlu Canolfan Gyswllt genedlaethol, y mae’n dweud ei fod yn chwarae rhan “gyfan gwbl hanfodol yn y gwaith o sefydlu cynlluniau teithio, hwyluso llif pobl i mewn i Gymru a sicrhau bod pawb yn cael eu paru â llety a chymorth priodol”.

Bydd Platfform Data Cartrefi i Wcráin, y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu, yn cefnogi’r “gofyniad sylweddol am rannu data” rhwng awdurdodau, o Swyddfa Gartref y DU i Lywodraeth Cymru ac ymlaen i bartneriaid eraill.

Erbyn 9 Mehefin, roedd “bron 600 o bobl” wedi cyrraedd y DU, o dan gynllun uwch-noddwr Llywodraeth Cymru.

Ar 30 Mehefin, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: “there is potential […] that further funding will be required later on and, if that is the case, you'll see it in the second supplementary budget”.

Sut mae'r sefyllfa ariannu wedi newid?

Mae’r Gyllideb Atodol yn cadarnhau nad oes unrhyw newidiadau i gyllid datganoledig Cymru (Cyfraddau Treth Incwm Cymru, Treth Trafodiadau Tir, Treth Tirlenwi ac ardrethi annomestig) gan fod y “rhagolygon yn parhau i adlewyrchu’r rhai a gyhoeddwyd adeg y Gyllideb Derfynol”. At hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cynnig unrhyw newidiadau i’w chynlluniau benthyg, a fydd yn golygu y bydd yn benthyca’r uchafswm a ganiateir (£150 miliwn) o dan y Fframwaith Cyllidol yn 2022-23.

Mae’r newidiadau gwariant a nodir yn y Gyllideb Atodol yn deillio o gyllid cynyddol gan Lywodraeth y DU ar gyfer Llywodraeth Cymru. Ers y Gyllideb Derfynol, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau gwariant drwy ei Datganiad Gwanwyn (Mawrth 2022) a’i Phrif Amcangyfrifon (Mai 2022). Gyda’i gilydd, darparodd y rhain gynnydd net mewn cyllid i Lywodraeth Cymru o £27.8 miliwn mewn adnoddau cyllidol a £262.8 miliwn mewn adnoddau anghyllidol.

Mae cyllid cyfalaf cyffredinol wedi cynyddu £339.3 miliwn hefyd. Roedd mwyafrif y cyllid ychwanegol hwn yn ymwneud â gweithredu’r safon gyfrifyddu newydd ar gyfer prydlesi (£284.3m). Hefyd, darparodd Llywodraeth y DU gyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Bargeinion Dinesig a Thwf Cymru (£47.5 miliwn), y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddyrannu yn y Gyllideb Atodol.

"Does dim llawer yn y gronfa wrth gefn"

Mae Cyllidebau Atodol yn rhoi syniad o’r lefelau cyllid heb ei ddyrannu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw mewn cronfeydd wrth gefn.

Ers y Gyllideb Derfynol, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu rhai o’r cronfeydd wrth gefn hyn: bu cynnydd o £52.2 miliwn i’w chronfa wrth gefn adnodd cyllidol heb ei ddyrannu (i £152.3 miliwn); a bu cynnydd o £1.0 miliwn i’w chronfa wrth gefn cyfalaf trafodiadau ariannol, i £214.1 miliwn.

Fodd bynnag, yn yr un modd â’r Gyllideb Derfynol, mae Llywodraeth Cymru wedi gor-ddyrannu ei chyllideb gyfalaf gyffredinol, ond nid cymaint yn y Gyllideb Atodol hon. Gostyngodd y gor-ddyraniad o £75.7 miliwn yn y Gyllideb Derfynol i £68.2 miliwn yn y Gyllideb Atodol hon, sef gostyngiad o £7.5 miliwn.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn dal cronfa wrth gefn adnoddau anghyllidol, sydd wedi cynyddu £178.8 miliwn (i £699.2 miliwn).

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r symiau sy’n weddill heb eu dyrannu, fe wnaeth y Gweinidog gydnabod nad oes swm mawr iawn yn y gronfa wrth gefn. Gyda chwyddiant yn cyrraedd y lefel uchaf ers 40 mlynedd a Banc Lloegr ar hyn o bryd yn disgwyl iddo gynyddu i tua 11 y cant tua diwedd 2022, bydd pwysau o'r fath yn effeithio ar gost darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Ar 30 Mehefin, dywedodd y Gweinidog wrth Bwyllgor Cyllid y Senedd y bydd y gyllideb werth £600 miliwn yn llai dros y cyfnod gwario tair blynedd hwn nag yr oeddent yn ei ddeall pan gafodd ei setlo. Dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud achos cryf i Drysorlys y DU y dylid gwneud cynnydd cyffredinol i gyllidebau i gyfrif am hynny i’n helpu i gyflawni ein cynlluniau. Nid ydym wedi gweld eto a fydd Llywodraeth y DU yn dyrannu cyllid ychwanegol ar gyfer hyn.

Beth sydd nesaf?

Bydd y Senedd yn trafod y Gyllideb Atodol ar 12 Gorffennaf 2022. Bydd y ddadl ar gael i’w gwylio ar Senedd TV.


Erthygl gan Louis Dawson, Joe Wilkes a Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru