Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18

Cyhoeddwyd 14/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Bydd y Cynulliad yn trafod Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Gorffennaf. Mae'r erthygl hon yn rhoi gwybodaeth gefndirol am y gyllideb atodol a gwaith Pwyllgor Cyllid y Cynulliad i graffu ar y dyraniadau a geir ynddi.

Clywodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth lafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol am y newidiadau yn y gyllideb atodol, ac mae wedi cyhoeddi adroddiad a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 14 Gorffennaf.

Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

Gosodwyd y gyllideb atodol gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 27 Mehefin 2017. Yn ogystal, cyflwynwyd nodyn esboniadol a thablau yn dangos y dyraniadau i'r adrannau.

Cyllideb weinyddol yw'r gyllideb atodol yn bennaf, sy'n cynnwys nifer fach o ddyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn, newidiadau rhwng refeniw a chyfalaf, a throsglwyddiadau rhwng portffolios. Mae'n cynnwys addasiadau i floc Cymru i adlewyrchu trosglwyddiadau a symiau canlyniadol a dderbyniwyd yng Nghyllideb Llywodraeth y DU 2017, ac mae hefyd yn cynnwys newidiadau yn rhagolygon y Gwariant a Reolir yn Flynyddol yn unol â'r diweddariadau a ddarparwyd i Drysorlys Ei Mawrhydi. Y prif ddyraniadau refeniw yn y gyllideb hon yw:

  • £20 miliwn ar gyfer cyllido gofal cymdeithasol i dalu am gostau'r gweithlu; cefnogi gwaith i atal plant rhag cael eu derbyn i ofal ac i wella’r canlyniadau i'r rhai sydd mewn gofal; a rhoi seibiant i ofalwyr;
  • £20 miliwn ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd wedi i'r trefniadau llywodraethu gael eu cytuno ar gyfer y fargen ddinesig ynghyd â'r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer cyllido prosiectau; a
  • £750,000 i ddarparu cysylltiad gwe di-wifr ar drenau ac mewn gorsafoedd.

Mae un dyraniad cyfalaf yn y gyllideb hon, sef £1.6 miliwn ar gyfer darparu gwasanaeth diwifr ar drenau ac mewn gorsafoedd.

Hefyd bu dau newid o fewn Prif Grŵp Gwariant yr Economi a'r Seilwaith sydd wedi effeithio ar y cronfeydd wrth gefn. Newidiwyd £12.4 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol i gyfalaf cyffredinol, a newidiwyd £0.6 miliwn o refeniw cyllidol i gyfalaf.

Mae'r ffeithlun a'r siart cylch isod yn nodi prif ffigurau'r gyllideb atodol.

Ffeithlun yn dangos prif ffigurau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Atodol Gyntaf 2016-17 .Diagram yn dangos y ganran o'r DEL a ddyrannwyd i bob Prif Grŵp Gwariant (MEG)


Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru 2017-18 (PDF, 202KB)