Llun o gartrefi a thoeau tai mewn tref neu bentref Cymreig. Mae blaenau y tai amlycaf yn y llun yn lliwgar a thrawiadol ynghyd a thafarn leol ar y gornel.

Llun o gartrefi a thoeau tai mewn tref neu bentref Cymreig. Mae blaenau y tai amlycaf yn y llun yn lliwgar a thrawiadol ynghyd a thafarn leol ar y gornel.

Cyllideb 2026-27: Cynnydd o 4.5% yn y cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol

Cyhoeddwyd 26/01/2026

Ar 20 Ionawr, gosododd Llywodraeth Cymru ei Chyllideb Derfynol ar gyfer 2026-27. Ochr yn ochr â hyn, mae'r Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2026-27 yn nodi cynnydd o 4.5% yn y cyllid craidd cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol o'i gymharu â 2025-26, i fyny o'r 2.7% gwreiddiol a gynigiwyd ym mis Tachwedd.

Yn yr erthygl hon, rydym yn ystyried y cyllid ar draws awdurdodau lleol, a fydd yn cael ei drafod ochr yn ochr â'r Gyllideb Derfynol ddydd Mawrth 27 Ionawr.

Cytundeb y Gyllideb yn arwain at £112.8m ychwanegol i awdurdodau lleol

Cafodd Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 ei chyflwyno fel un sy’n mabwysiadu dull 'busnes fel arfer' o ran dyraniadau, gan gynnig cynnydd yn unol â chwyddiant. Mae'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2026-27, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, yn cynnwys cynnydd o 2.7% (neu £169.5 miliwn) yn y cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol.

Yn dilyn y cytundeb ar y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cyhoeddwyd £112.8m ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol. Roedd hyn ochr yn ochr â chyllid ychwanegol ar gyfer iechyd.

Cynnydd o 4.5% yn y cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol

Mae cyllid refeniw craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (RSG) a Threthi Annomestig (NDR) wedi’u Hailddosbarthu, a chyfeirir ato hefyd fel Cyllid Allanol Cyfun (AEF). AEF yw’r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a bydd yn £6.6 biliwn y flwyddyn nesaf. Ar ôl addasu'r ffigurau i'w gwneud yn gymaradwy, mae hynny'n gynnydd o £282.3 miliwn neu 4.5%, o gymharu â 2025-26. Yn 2025-26, roedd cynnydd mewn cyllid o 4.5%.

Casnewydd sydd â’r cynnydd canrannol mwyaf mewn cyllid ar gyfer awdurdod lleol unigol (6.1%). Casnewydd hefyd oedd â'r cynnydd canrannol uchaf y llynedd.

Ffigur 1: Newid yn yr AEF (wedi'i addasu) fesul awdurdod lleol (2025-26 i 2026-27)

Ffynhonnell: Ymchwil y Senedd a Llywodraeth Cymru – Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2026-27 (tablau)

Yn ogystal â'r cynnydd i gyllid refeniw craidd, mae'r Setliad yn amlinellu grantiau refeniw o £1.3bn ar gyfer 2026-27 a grantiau cyfalaf o £1.1bn, sy'n cynnwys cyllid cyfalaf cyffredinol o £204m.

Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 4 y cant

Unwaith eto, roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu gweithredu cyllid gwaelodol ar gyfer 2026-27. Roedd hyn yn golygu yn wreiddiol na fyddai unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 2.3%, gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i 10 awdurdod lleol i sicrhau nad oeddent yn disgyn o dan y lefel hon. Fodd bynnag, mae'r cynnydd mewn cyllid yn y Setliad Terfynol bellach yn golygu na fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 4%. Mae'n ymddangos bod y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd yn y Setliad Dros Dro hefyd yn dal i gael ei ddyrannu i'r 10 awdurdod ar yr un lefel yn y Setliad Terfynol. Ar gyfer 2025-26, gweithredodd Llywodraeth Cymru gyllid gwaelodol a oedd yn golygu na chafodd unrhyw awdurdod lleol gynnydd o lai na 3.8%.

Yn dilyn gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft a'r Setliad Dros Dro, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fynegi pryderon bod y defnydd dro ar ôl tro o gyllid gwaelododl yn dangos bod problemau strwythurol gyda'r fformiwla ariannu. Roedd hefyd yn tynnu sylw at oedran peth o'r data a ddefnyddir i ddyrannu cyllid, gan nodi bod rhai dangosyddion yn defnyddio data o gyfrifiad 1991. Argymhellodd y Pwyllgor fod Lywodraeth Cymru yn blaenoriaethu adolygiad o'r data a'r dangosyddion sy'n sail i'r fformiwla cyllido.

Amcangyfrif o bwysau o £1.6bn dros y tair blynedd nesaf

Er bod  Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi croesawu y cyllid ychwanegol, roedd hefyd yn amcangyfrif ym mis Medi bod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol o £1.6bn dros y tair blynedd nesaf. Ar gyfer 2026-27, roedd CLlLC yn amcangyfrif bod awdurdodau lleol yn wynebu pwysau cyllidebol o £560m.

Y galw am wasanaethau yw un o'r meysydd y mae CLlLC yn ei nodi fel elfen o bwysau sylweddol, gan dynnu sylw yn arbennig at ofal cymdeithasol plant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol mewn addysg. Gan gydnabod y pwysau ar awdurdodau lleol, dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol na ddylid diystyru y “cynnydd sylweddol yn niffygion yr ysgolion", gan fynd ymlaen i ddweud bod y Setliad "yn cynnig cyfle gwerthfawr i awdurdodau lleol ddyrannu adnoddau sylweddol i’w hysgolion".

Hefyd, amcangyfrifir bod y pwysau yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn "fawr yn ôl safonau hanesyddol". Ym mis Medi, dywedodd CLlLC ar draws awdurdodau lleol y rhagwelir pwysau o £184.3m yn ystod y flwyddyn. Mae tua £70.8m o hynny yn ymwneud ag ysgolion, ac yna pwysau o £69.3m ar ofal cymdeithasol. Cyn cyhoeddi cyllid ychwanegol ym mis Rhagfyr, fe wnaeth yr Archwilydd Cyffredinol awgrymu i'r BBC fod un neu ddau awdurdod lleol yn agos iawn, iawn at y dibyn o ran eu cynaliadwyedd ariannol, gan fynd ymlaen i ddweud na fyddai'n cymryd llawer i'w gwthio dros y dibyn hwnnw.

Lefelau'r dreth gyngor ar gyfer 2026-27 i'w pennu

Nid Llywodraeth Cymru yw'r unig ffynhonnell o gyllid i awdurdodau lleol. Bydd trafodaethau ynghylch y dreth gyngor yn parhau wrth i gyllidebau awdurdodau lleol gael eu cynnig a'u derbyn yn y misoedd nesaf. Mae dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd yn dangos bod biliau'r dreth gyngor wedi treblu i bob pwrpas ers 1999, gan gynyddu dipyn yn gynt yng Nghymru nag yn Lloegr a'r Alban ers 2010. Mae CLlLC yn nodi tuedd debyg, gan ddweud bod cynnydd yn y dreth gyngor dros y tair blynedd diwethaf yn "annymunol ac yn anghynaladwy i deuluoedd sy’n gweithio’n galed".

Dywedodd Arweinydd CLlLC wrth y BBC ym mis Rhagfyr fod y cynnydd yn debygol o fod yn llai nag y gallai fod cyn cytundeb y gyllideb. Fodd bynnag, ni aeth mor bell ag ymrwymo na fyddai biliau'r dreth gyngor yn codi, a nododd fod y galw am wasanaethau yn dal i fod yn uwch na’r cyllid sydd ar gael.

Beth nesaf i lywodraeth leol?

Er bod Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, yn dweud bod y Gyllideb Derfynol yn rhoi sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus, mae'n nodi ei bod hefyd yn “rhoi'r llwyfan i'r llywodraeth nesaf osod ei blaenoriaethau ei hun ar gyfer y dyfodol”. Mae cyllideb 2026-27, gan gynnwys y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol, yn dyrannu cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol sy'n disgyn yn bennaf ar ôl yr etholiad ar 7 Mai.

Er bod y Setliad Terfynol yn rhoi eglurder o ran cyllid yn y tymor byr, bydd yn rhaid aros tan ar ôl yr etholiad i lywodraeth leol gael syniad o sut olwg fydd ar bethau yn ystod tymor y Senedd nesaf. Yn y cyfamser, gallwch wylio'r ddadl ar y Gyllideb Derfynol a'r Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar SeneddTV ar 27 Ionawr 2026. Bydd trawsgrifiad ar gael yn fuan wedyn.

Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru