Cyllideb 2025-26: Cynnydd o 4.5% yng nghyllid craidd awdurdodau lleol ond mae pwysau o hyd

Cyhoeddwyd 28/02/2025   |   Amser darllen munudau

Ar 20 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad terfynol i lywodraeth leol ar gyfer 2025-26. Mae’n nodi cyfanswm y cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol, a fydd yn cynyddu 4.5%. Mae hynny ychydig yn fwy o gyllid nag a gynigiwyd yn wreiddiol pan gyhoeddwyd y Gyllideb Ddrafft ym mis Rhagfyr. Fodd bynnag, mae galw a phwysau chwyddiant yn golygu bod awdurdodau lleol yn dal yn debygol o wynebu penderfyniadau anodd yn 2025-26.

Yn yr erthygl hon, rydym hefyd yn edrych ar y cynnydd o 3.7% i gyllid craidd ar gyfer gwasanaeth lleol allweddol arall, yr heddlu. Bydd cyllid y ddau yn cael ei drafod ochr yn ochr â'r Gyllideb Derfynol ddydd Mawrth 4 Mawrth.

Cynnydd o 4.5% yn y cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn gyffredinol

Mae cyllid refeniw craidd yn cynnwys y Grant Cynnal Refeniw (RSG) a Threthi Annomestig (NDR) wedi’u Hailddosbarthu, a chyfeirir ato hefyd fel Cyllid Allanol Cyfun (AEF). AEF yw’r rhan fwyaf o gyllid Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol a bydd yn £6.1 biliwn y flwyddyn nesaf. Ar ôl addasu'r ffigurau i'w gwneud yn gymaradwy, mae hynny'n gynnydd o £261.7 miliwn neu 4.5%, o gymharu â 2024-25. Er cyd-destun, 3.3% oedd y cynnydd blynyddol mewn cyllid ar gyfer 2024-25 a 7.9% ydoedd ar gyfer 2023-24.

Fel rhan o'i chytundeb cyllideb â Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi diogelu cyllid gwaelodol yn y Setliad Terfynol. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw awdurdod yn cael llai na chynnydd o 3.8% yn 2025-26. Mae 9 awdurdod lleol ar eu hennill o’r dull hwn. Mewn termau canrannol, Casnewydd sy’n gweld y cynnydd mwyaf (5.6%).

Ffigur 1: Newid yn yr AEF (wedi'i addasu) fesul awdurdod lleol (2024-25 i 2025-26)

Ffynhonnell:  Llywodraeth Cymru – Setliad refeniw a chyfalaf llywodraeth leol: terfynol 2025 i 2026 mewn tablau

Mae'r Setliad Terfynol hefyd yn nodi rhai o'r ffynonellau cyllid eraill ar gyfer awdurdodau lleol. Mae £1.1 biliwn o grantiau cyfalaf, gan gynnwys £200 miliwn o gyllid cyfalaf, sef £20 miliwn yn fwy na 2024-25, yn ogystal ag £1.4 biliwn o grantiau refeniw.

Mae pob awdurdod lleol wedi gweld o leiaf newid bach yn yr hyn y bydd yn ei gael y flwyddyn nesaf o gymharu â'r Setliad Dros Dro a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Mae hyn oherwydd cynnydd yn ardollau parciau cenedlaethol, sy’n newid bach iawn yn y sylfaen gosod trethi ac yn diweddariad i ddata model y gronfa cyfalaf cyffredinol hyd at 2025-26, sy’n bwydo i mewn i fformiwla’r prif setliad.

Y dreth gyngor ar gyfer 2025-26 yn y broses o gael ei phennu

Un o’r meysydd mawr eraill o incwm i awdurdodau lleol yw’r dreth gyngor. Ar hyn o bryd, mae awdurdodau lleol yn pennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod, sy’n cynnwys pennu lefel y dreth gyngor.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wrth y Pwyllgor Cyllid ym mis Ionawr fod codiadau yn y dreth gyngor fwy na thebyg oddeutu 5% neu’n fwy ar gyfer cynllunio cyllideb. Wedi dweud hynny, mae’n debygol y gwelir rhywfaint o amrywio rhwng yr awdurdodau lleol. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru, sy’n gorff ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, yn awgrymu y byddai cynnyddu’r dreth gyngor 5% yn rhoi tua £110 miliwn o incwm ar draws awdurdodau lleol.

Pwysau ar awdurdodau lleol yn debygol o barhau

Mae Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, yn cydnabod y “pwysau ariannol sylweddol a wynebir gan yr awdurdodau lleol”. Cyn i’r Gyllideb Ddrafft gael ei chyhoeddi, amcangyfrif CLlLC o’r pwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol oedd £559 miliwn yn 2025-26.

Mae CLlLC yn sôn am ddau gategori cyffredinol sydd yn bennaf gyfrifol am y pwysau a wynebir gan awdurdodau lleol: chwyddiant (gan gynnwys pethau fel codiadau cyflog) a galw. Mae'n dweud bod y pwysau “yn ddidostur” ac yn amcangyfrif pwysau pellach o £454 miliwn yn 2026-27 a £464 miliwn yn 2027-28.

Y ddau faes unigol mawr o ran pwysau yw Gofal Cymdeithasol ac Ysgolion. Yn 2025-26, mae’r rhain yn cyfrif am tua 40% a 22% o'r pwysau, yn y drefn honno.

Ar ôl i’r Setliad Dros Dro gael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, rhybuddiodd aelod o CLlLC, heb y cyllid angenrheidio, “bydd gallu ein gwasanaethau lleol hanfodol i gyflawni dyletswyddau statudol, a chefnogi anghenion trigolion, yn cael ei rwystro'n ddifrifol”. Yn ystod gwaith craffu ar y Gyllideb Ddrafft, cafodd y risg i gyngor o fynd yn ‘fethdalwr’ (a fyddai’n golygu cyhoeddi Adroddiad Adran 114) ei thrafod â phwyllgorau. Dywedodd arweinydd CLlLC nad oedd yn credu bod hynny yn degybol o ddigwydd am y 12 mis nesaf.

Cyllid craidd yr heddlu i gynyddu 3.7%

Er nad yw plismona’n fater datganoledig, caiff cyllid ar gyfer plismona ei ddarparu drwy drefniant sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Ar gyfer 2025-26, cyfanswm y cymorth craidd i heddluoedd yng Nghymru fydd £476.8 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 3.7% o'i gymharu â 2024-25.

Fel y mae wedi’i wneud yn flaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi troshaenu’r fformiwla ar gyfer gweithio allan y newid gyda mecanwaith gwaelodol. Mae hynny’n golygu bod holl heddluoedd Cymru a Lloegr yn cael yr un newid mewn cyllid craidd. Elfen Llywodraeth Cymru o’r cyllid hwn fydd £113.5 miliwn, dim newid o'r Setliad Dros Dro’r Heddlu a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.

Daw cyfran o gyllid yr heddlu o'r dreth gyngor hefyd. Mae'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gosod praesept y dreth gyngor bob blwyddyn, sy'n rhan o filiau'r dreth gyngor. Mae'n debyg y bydd cynnydd yn amrywio o 6.44% ar gyfer Gogledd Cymru i 8.6% ar gyfer Dyfed-Powys.

Beth nesaf i wasanaethau lleol?

Mae awdurdodau lleol yn gorfod pennu eu cyllidebau erbyn 11 Mawrth bob blwyddyn. Fel rhan o hynny, byddant yn ystyried sut olwg fydd ar wasanaethau yn 2025-26 ac ar ba lefel y dylid pennu’r dreth gyngor. Gydag adolygiadau gwariant Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn mynd rhagddynt, bydd cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yn y dyfodol yn cael ei ystyried. Gallai’r adolygiadau hynny arwain at syniad mwy hirdymor o gyllid awdurdodau lleol, sef rhywbeth y mae awdurdodau lleol wedi galw amdano.

Fodd bynnag, yn ei Chyllideb Derfynol mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio o oblygiadau twf economaidd is a chostau benthyca uwch i gyllid cyhoeddus. Mae hefyd yn nodi’r effaith y gallai hyn ei chael ar yr amlen wario gyffredinol y tu hwnt i 2025-26 ar gyfer adrannau’r DU a’r gwledydd datganoledig. Roedd y Prif Economegydd eisoes yn rhagweld sefyllfa fwy heriol i gyllid cyhoeddus ar ôl y flwyddyn nesaf. Petai hynny’n digwydd, gallai olygu penderfyniadau anoddach i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Ddydd Mawrth 4 Mawrth, bydd y Senedd yn trafod nifer o eitemau yn ymwneud â’r gyllideb, gan gynnwys:

  • Cyllideb Derfynol 2025-26
  • Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2025-26
  • Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2025-26
  • Setliad Terfynol yr Heddlu 2025-26

Gallwch wylio'n fyw, neu wedyn, ar Senedd.tv.


Erthygl gan Owen Holzinger, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru