Cyhoeddiadau newydd: Gofal iechyd trawsffiniol

Cyhoeddwyd 03/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

03 Mehefin 2016 Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Mae llawer o bobl yn teithio rhwng Cymru a Lloegr, gan gynnwys ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd, am fod y ffin rhwng y ddwy wlad yn hir ac yn hawdd ei chroesi. Oherwydd y gwahaniaeth cynyddol rhwng polisïau a systemau iechyd Cymru a Lloegr, gall cleifion sy’n byw ar un ochr o’r ffin ond sy’n defnyddio cyfleusterau gofal iechyd ar yr ochr arall fod yn ansicr ynglŷn â’r hyn y dylent ei ddisgwyl. Nod y papur hwn yw egluro’r trefniadau ar gyfer gofal iechyd trawsffiniol yng Nghymru a Lloegr, o ran y gwasanaethau sydd ar gael i gleifion a’r trefniadau comisiynu rhwng y GIG yng Nghymru a’r GIG yn Lloegr. Gofal iechyd trawsffiniol (PDF, 783KB) Clawr ar gyfer y papur briffio ar Gofal iechyd trawsffiniol