Cyhoeddiad newydd: Y Gyfres Gynllunio - 17 – Cydsynio seilwaith cynhyrchu ynni

Cyhoeddwyd 29/03/2018   |   Amser darllen munud

Mae’r briff hwn yn rhoi canllaw i gydsynio ym maes ynni yng Nghymru. Mae'n trafod y cyfundrefnau cydsynio presennol, a sut y bydd Deddf Cymru 2017 yn eu newid. Mae’n esbonio’r gwaith o wneud penderfyniadau yng Nghymru, yn amrywio o benderfyniadau awdurdodau lleol i Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn trafod prosesau ar lefel y DU mewn perthynas â phrosiectau yng Nghymru, gan gynnwys Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol Llywodraeth y DU a’r rheini sy’n cael eu hystyried gan y Sefydliad Rheoli Morol.

Cyhoeddiad newydd: Y Gyfres Gynllunio - 17 – Cydsynio seilwaith cynhyrchu ynni (PDF, 1687KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru