
Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Cynllunio: 8 - Offer telathrebu - Hysbysiad Hwylus
Cyhoeddwyd 05/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
05 Ionawr 2017
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r hysbysiad hwylus (PDF, 349KB) hwn yn cynnig trosolwg o'r broses gynllunio ar gyfer offer telathrebu. Mae'n nodi pa fath o ddatblygiadau sy'n cael eu rhoi yn y categorïau canlynol: datblygiadau a ganiateir; datblygiadau a ganiateir gyda chymeradwyaeth o flaen llaw; a datblygiadau y mae angen caniatâd cynllunio arnynt. Mae hefyd yn ymdrin â'r modd yr eir i'r afael â risgiau iechyd posibl a ddaw yn sgil y datblygiadau hyn, Cod Arfer Gorau i weithredwyr ffonau symudol ynghyd â newidiadau diweddar i'r broses gynllunio.
