Cyhoeddiad newydd: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol draft

Cyhoeddwyd 11/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer sut a ble y mae am i Gymru dyfu dros yr ugain mlynedd nesaf.

Cyhoeddiad newydd: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol draft (PDF, 3,005KB)

Cafodd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ar 7 Awst gan nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'i blaenoriaethau cenedlaethol drwy'r system gynllunio. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 15 Tachwedd.

Mae’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol:

  • yn nodi lle y mae angen twf a seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol, a sut y gall y system gynllunio gyflawni hyn;
  • yn rhoi cyfeiriad ar gyfer cynlluniau datblygu rhanbarthol a lleol;
  • yn rhoi cyd-destun polisi ar gyfer penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith mawr;
  • yn cyd-fynd â strategaethau economaidd, trafnidiaeth, amgylcheddol, tai, ynni a diwylliannol cenedlaethol; ac
  • yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n disgrifio polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Yr hydref hwn, bydd dau Bwyllgor Cynulliad, sef y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (NHAMG) a’r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau (ESS) yn craffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft. Byddant yn ceisio dylanwadu ar gynnwys y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn ystod y cyfnod hanfodol hwn.

Disgwylir i ddrafft terfynol y Fframwaith gael ei osod gerbron y Cynulliad ym mis Ebrill 2020 am gyfnod statudol o 60 diwrnod.

Nid yw'r Cynulliad yn gallu pasio, diwygio na phleidleisio yn erbyn y Fframwaith gan y byddai’n ddarn o ddeddfwriaeth, ond gall y Cynulliad, neu un neu fwy o'i Bwyllgorau, wneud argymhellion i’r Fframwaith. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried yr argymhellion hyn cyn cyhoeddi'r fersiwn derfynol, a ddisgwylir ym mis Medi 2020.

Dechreuodd y gwaith ar y Fframwaith yn 2016, ac mae nifer o gamau pwysig wedi bod hyd yma. Mae'r briff ymchwil hwn yn crynhoi’r digwyddiadau hyd yma ac yn rhoi trosolwg o:

Strategaeth Ofodol Ddrafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

I grynhoi, mae prif nodweddion y Fframwaith drafft yn cynnwys:

  • bydd twf cyflogaeth a thai sylweddol yn digwydd yn bennaf mewn tair ‘Ardal Twf Cenedlaethol':
    • Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd;
    • Bae Abertawe a Llanelli; a
    • Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
  • rôl eilaidd ar gyfer 'Ardaloedd Twf Rhanbarthol' sydd wedi'u lleoli ledled Cymru;
  • twf trefol wedi’i ategu gan drafnidiaeth gyhoeddus a rhwydweithiau teithio llesol (cerdded a beicio);
  • angen 114,000 o gartrefi newydd erbyn 2038, â 47% o'r rhain i fod yn gartrefi fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd gyntaf;
  • tri rhanbarth, pob un â'i Gynllun Datblygu Strategol ei hun, i alluogi dulliau pwrpasol mewn gwahanol rannau o Gymru;
  • mae gan bob rhanbarth ei ddyraniad ei hun ar gyfer cartrefi newydd erbyn 2038:
    • Gogledd Cymru, 19,400;
    • Canolbarth a Gorllewin Cymru, 23,400; a
    • De-ddwyrain Cymru, 71,200.
  • cysylltiadau trafnidiaeth gwell yng Nghymru ac ar draws y ffin â Lloegr, gyda chefnogaeth ar gyfer gogledd Cymru, Bae Abertawe a Metro de Cymru;
  • 'Ardaloedd Blaenoriaeth ar gyfer Ynni Gwynt ac Ynni Solar' lle mae rhagdybiaeth o blaid datblygu a derbyn newid tirwedd;
  • Parthau Gweithredu Ffonau Symudol i wella darpariaeth ffonau symudol;
  • mwy o seilwaith gwefru cerbydau trydan;
  • cefnogaeth i Rwydweithiau Gwres Ardal;
  • coedwig genedlaethol a fframweithiau ar gyfer gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau;
  • lleiniau glas yng ngogledd ddwyrain a de-ddwyrain Cymru;
  • Parc Rhanbarthol y Cymoedd;
  • polisïau ar gyfer ardaloedd penodol - Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a Blaenau’r Cymoedd; a
  • polisïau ar gyfer seilwaith strategol - Porthladd Caergybi, Maes Awyr Caerdydd, Ynni Gogledd-orllewin Cymru a Dyfrffordd yr Hafan yn ne Sir Benfro.

Cyhoeddiad newydd: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol draft (PDF, 3,005KB)


Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru