Cyhoeddiad newydd: Y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru

Cyhoeddwyd 14/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r papur briffio hwn yn rhoi trosolwg o'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gan gynnwys ffeithiau allweddol am bwysigrwydd economaidd y sector, a thargedau ar gyfer ei dwf. Mae'n nodi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant, yn amlinellu'r cynnydd diweddar ar gyflwyno'r strategaeth, ac yn tynnu sylw at feysydd y mae'n debygol y bydd ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn effeithio arnynt. Mae hefyd yn amlinellu'r cymorth sydd ar gael i fusnesau yn y diwydiant bwyd a diod.

Cyhoeddiad newydd: Y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru (PDF, 1,738KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru