27 Mawrth 2017
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Gosodwyd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (‘y Bil’) gerbron y Cynulliad ar 12 Medi 2016. Cyflwynwyd y Bil yn y Cyfarfod Llawn gan Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 13 Medi 2016.
Y Bil hwn yw’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â threthi penodol i gael ei gyflwyno yn y Cynulliad. Mae’n cyflwyno darpariaethau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yng Nghymru, a fydd yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp ym mis Ebrill 2018.
Mae'r ddogfen hon yn nodi rhai o'r prif newidiadau a wnaed i'r Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) (“y Bil”) yn ystod trafodion Cyfnod 2.
Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2017 i ystyried gwelliannau i’r Bil (fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2).
Y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2 (PDF, 1117KB)
Erthygl gan Christian Tipples, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddiad newydd: y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) - Crynodeb o’r newidiadau a wnaed yng Nghyfnod 2
Cyhoeddwyd 27/03/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau