Cyhoeddiad newydd: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 13/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Diweddarwyd y papur i grynhoi canlyniad y gwaith craffu yn ystod Cyfnod 1, y newidiadau a wnaed i’r Bil yng Nghyfnod 2 a’r ymrwymiadau gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd cyn trafodion Cyfnod 3.

Nod y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yw cyflwyno system newydd, sy'n seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn lle'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol.

Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) statudol a chyffredinol i blant a phobl ifanc ag ADY. Byddai hyn yn rhoi terfyn ar y gwahaniaeth presennol rhwng ymyriadau a arweinir gan ysgol a datganiadau a gyhoeddir gan awdurdodau lleol ac yn integreiddio'r trefniadau deddfwriaethol presennol ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr ôl-16 mewn colegau. Mae'r Bil hefyd yn ceisio gwella'r cydweithio rhwng awdurdodau lleol a byrddau iechyd, yn ogystal â sefydlu system decach a mwy tryloyw gyda mwy o bwyslais ar osgoi anghytundeb a datrys anghydfodau.

Bu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn trafod a phleidleisio ar welliannau (sef ‘gwaredu’ gwelliannau) yng Nghyfnod 2 ar 4 Hydref (PDF 185KB) a 12 Hydref 2017 (PDF 225KB).

Derbyniwyd 116 o welliannau, a wnaeth newidiadau i'r Bil. Cyhoeddwyd fersiwn wedi'i diweddaru o'r Bil, fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF 381KB).

Nododd Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar y pryd, ddeg o ymrwymiadau a oedd i gael sylw yng Nghyfnod 3. Nodir manylion y rhain yn ogystal â newidiadau a wnaed i'r Bil yng Nghyfnod 2 ym Mhennod 11 o'r papur hwn.

Mae manylion am y gwelliannau a gyflwynwyd eisoes yng Nghyfnod 3 ar gael ar wefan y Bil. Mae gan Aelodau'r Cynulliad tan 6.00pm ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017 i gyflwyno gwelliannau.

Trefnwyd i ddadl a phleidlais ar y gwelliannau yng Nghyfnod 3 gael eu cynnal yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 21 Tachwedd 2017.

Cyhoeddiad newydd: Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) – Crynodeb o’r newidiadau yng Nghyfnod 2 (PDF 3446KB)


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru