View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA
Cyhoeddiad Newydd: Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) - Hysbysiad Hwylus
Cyhoeddwyd 24/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
24 Mai 2016
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae'r rheoliad Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) yn gosod dyletswydd ar Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd i wella eu seilwaith trafnidiaeth er mwyn, yn y pen draw, i'r holl wladwriaethau rannu'r un safon o fewn yr UE. Mae'r canllaw hwn yn rhoi trosolwg o'r rheoliad a'i sail resymegol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y seilwaith yng Nghymru a fydd angen ei uwchraddio erbyn 2030, er mwyn iddo ddod yn unol รข'r rheoliad newydd. Mae'n egluro pa rannau o rwydwaith y seilwaith fydd yn cael eu heffeithio, a sut y gellir cyflwyno'r gwelliannau angenrheidiol.
Er mai cyfrifoldeb i'r Aelod-wladwriaethau yw cyflwyno gwelliannau TEN-T, mae'r UE wedi pasio rheoliad Cyfleuster Cysylltu Ewrop (CEF). Ffrwd ariannu CEF sy'n darparu'r prif gyfraniad ariannol gan yr UE ar gyfer rhoi rhwydwaith craidd TEN-T ar waith, sy'n cael ei egluro yn yr hysbysiad hwn. Mae ffynonellau ariannol posibl eraill ar gyfer prosiectau TEN-T hefyd yn cael sylw yma.
Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) - Hysbysiad Hwylus (PDF, 624KB)
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA