Cyhoeddiad newydd: Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Cyhoeddwyd 13/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2020   |   Amser darllen munudau

13 Medi 2013 Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi Papur Ymchwil ar y lefelau o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru. Young People cover CymMae'r papur ymchwil hwn yn rhoi trosolwg o'r ystadegau mwyaf diweddar ar nifer y bobl ifanc (rhwng 16 a 24 oed) nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant a gyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2013. Mae hefyd yn gosod cyd-destunau polisi diweddar a chyfredol y strategaethau a'r rhaglenni sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r hyn sy'n broblem hirdymor ac ystyfnig yng Nghymru a thu hwnt.  Ymchwilir hefyd i rai o'r heriau a'r materion ehangach sy'n ymwneud â'r pwnc hwn. Bydd fframwaith newydd ar gyfer ymgysylltu ag ieuenctid yn olynu ac yn disodli Cynllun Gweithredu Ymgysylltu a Chyflogaeth Ieuenctid 2011-2015 (disgwylir i'r fframwaith gael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2013). Erthygl  gan Michael Dauncey.