Cyhoeddiad Newydd: Materion Ewrop, Rhifyn 34 - Gwanwyn 2016
Cyhoeddwyd 24/03/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
24 Mawrth 2016
Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caiff y rhifyn diweddaraf o Materion Ewrop, y ddogfen reolaidd sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion yr UE a’i weithgareddau rhyngwladol, ei gyhoeddi heddiw. Mae Materion Ewrop yn rhoi manylion ynghylch gwaith diweddar a pharhaus pwyllgorau’r Cynulliad ar faterion yr UE a hefyd yn rhoi manylion am weithgareddau Ewropeaidd a rhyngwladol Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y ddau gynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau - Mick Antoniw AC a Rhodri Glyn Thomas AC - yn ogystal â manylion ynghylch ymwelwyr pwysig rhyngwladol â’r Senedd.
Gallwch hefyd ddilyn ein ffrwd Twitter a gaiff ei ddiweddaru bob dydd gyda newyddion o’r Cynulliad yn ogystal ag aildrydar ystod eang o negeseuon Twitter o’r UE: @EwropSenedd
Materion Ewrop - Rhifyn 34 - Gwanwyn 2016 (PDF, 1.496KB)
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg