![Blog-cy](/researchblogfilescy/2015/07/blog-cy4.png?w=211)
![](/media/4gkjozfb/blog-eng3.png?anchor=center&mode=crop&width=585&height=300&rnd=132458794731030000&quality=75)
![](/media/4gkjozfb/blog-eng3.png?anchor=center&mode=crop&width=1600&height=623&rnd=132458794731030000&quality=75)
![](/media/4gkjozfb/blog-eng3.png?anchor=center&mode=crop&width=1600&height=623&rnd=132458794731030000&quality=75)
Cyhoeddiad Newydd: Materion Ewrop, Rhifyn 32 - Haf 2015
Cyhoeddwyd 17/07/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2020   |   Amser darllen munudau
17 Gorffennaf 2015
Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caiff y rhifyn diweddaraf o Materion Ewrop, y ddogfen reolaidd sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion yr UE a’i weithgareddau rhyngwladol, ei gyhoeddi heddiw. Mae Materion Ewrop yn rhoi manylion ynghylch gwaith diweddar a pharhaus pwyllgorau’r Cynulliad ar faterion yr UE a hefyd yn rhoi manylion am weithgareddau Ewropeaidd a rhyngwladol Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y ddau gynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau - Mick Antoniw AC a Rhodri Glyn Thomas AC - yn ogystal â manylion ynghylch ymwelwyr pwysig rhyngwladol â’r Senedd.
Gallwch hefyd ddilyn ein ffrwd Twitter a gaiff ei ddiweddaru bob dydd gyda newyddion o’r Cynulliad yn ogystal ag aildrydar ystod eang o negeseuon Twitter o’r UE: @EwropSenedd
Materion Ewrop - Rhifyn 32 - Haf 2015
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
![Blog-cy](/researchblogfilescy/2015/07/blog-cy4.png?w=211)