Cyhoeddiad Newydd: Materion Ewrop, Rhifyn 31

Cyhoeddwyd 19/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Caiff y rhifyn diweddaraf o Materion Ewrop, y ddogfen reolaidd sy’n cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar faterion yr UE a’i weithgareddau rhyngwladol, ei gyhoeddi heddiw. Mae Materion Ewrop yn rhoi manylion ynghylch gwaith diweddar a pharhaus pwyllgorau’r Cynulliad ar faterion yr UE a hefyd yn rhoi manylion am weithgareddau Ewropeaidd a rhyngwladol Aelodau’r Cynulliad, gan gynnwys y ddau gynrychiolydd ar Bwyllgor y Rhanbarthau - Mick Antoniw AC a Rhodri Glyn Thomas AC - yn ogystal â manylion ynghylch ymwelwyr pwysig rhyngwladol â’r Senedd. Gallwch hefyd ddilyn ein ffrwd Twitter a gaiff ei ddiweddaru bob dydd gyda newyddion o’r Cynulliad yn ogystal ag aildrydar ystod eang o negeseuon Twitter o’r UE:  @EwropSenedd Materion Ewrop, Rhifyn 31 Blog-cover-cy
Erthygl gan Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.