Cyhoeddwyd 28/07/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
28 Gorffennaf 2016
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Mae'r papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil yn egluro'r broses o ddyrannu cyllid i ysgolion. Mae'n cynnwys ystadegau ar lefelau cyllid cyfredol ysgolion a lefelau cyllid diweddar, yn ogystal â sylwadau ar y cyd-destun o ran polisi.
Yng Nghymru, awdurdodau lleol sy'n ariannu ysgolion a gynhelir yn hytrach na'r Llywodraeth yn uniongyrchol. Mae
tri phrif gam i'r broses o bennu cyllidebau ysgolion.
- Yn gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r swm priodol o Grant Cynnal Refeniw i bob awdurdod lleol. Mae pob awdurdod lleol yn defnyddio hyn i ariannu amrywiaeth o wasanaethau a ddarperir ganddo, gan gynnwys addysg.
- Yn ail, mae awdurdodau lleol yn pennu cyllideb addysg ar dair haen, ac un ohonynt yw'r cyllid a roddir yn uniongyrchol (a ddirprwyir) i ysgolion.
- Yn drydydd, mae'r awdurdod lleol yn pennu'r gyllideb unigol ar gyfer pob ysgol a gynhelir ganddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhai cyllidebau addysg i gefnogi rhai polisïau a blaenoriaethau penodol hefyd, er enghraifft y Grant Amddifadedd Disgyblion.
Arian nad yw wedi'i neilltuo yw'r arian a roddir i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cynnal Refeniw. Felly, caiff awdurdodau lleol benderfynu drostynt eu hunain faint i'w wario ar addysg a chyllidebau ysgolion yn benodol, ynghyd â'r holl wasanaethau eraill a ddarperir ganddynt.
Yn 2016-17, mae awdurdodau lleol wedi neilltuo
£2.519 biliwn i'w wario ar ysgolion. Ar gyfartaledd yng Nghymru, caiff
84 y cant o'r cyllid hwn ei
'ddirprwyo' i ysgolion eu hunain drwy eu cyllidebau unigol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod cyllidebau ysgolion yn flaenoriaeth ers i Carwyn Jones ddod yn Brif Weinidog ddiwedd 2009. Roedd gwariant ar ysgolion
wedi'i ddiogelu yn ystod y Pedwerydd Cynulliad (2011-2016), gan olygu iddo gynyddu o leiaf un pwynt canran yn uwch na'r newid yn y 'grant bloc' gan San Steffan.
Yn dilyn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi addo buddsoddi i wella ysgolion unwaith eto (£100 miliwn ychwanegol yn ystod y Pumed Cynulliad) ac mae'r Ysgrifennydd Cabinet newydd dros Addysg, Kirsty Williams, am gyflymu'r broses o wella a newid.
Hysbysiad hwylus ar gyllid ysgolion (PDF, 953KB)