Derbyniodd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 07 Medi 2017. Mae’r Ddeddf yn diwygio darpariaethau penodol o fewn y UK Trade Union Act 2016 sy’n berthnasol i “awdurdodau datganoledig Cymru”.
Y darpariaethau sy’n cael eu datgymhwyso yw:
- Gofynion cyhoeddi o ran amser cyfleuster;
- Cyfyngiadau ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau llafur o gyflogau gweithwyr yn y sector gyhoeddus; a
- Gofyniad ynghylch trothwyon pleidlais gan undeb llafur cyn gweithredu diwydiannol.
Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017 – Crynodeb o’r Ddeddf (PDF, 590KB)
Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru