Cyhoeddiad newydd: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyhoeddwyd 29/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/06/2026

Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 y Cydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2015, a daeth y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ei nod yw gosod datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac mae wedi’i chynllunio i sicrhau bod camau gweithredu yn diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Rydym wedi diweddaru ein briff sy'n crynhoi'r Ddeddf. Mae'n egluro sut mae'r Ddeddf yn rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau cyhoeddus drwy ddilyn nodau llesiant, dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus, a'r 'pum ffordd o weithio'.

Mae'n amlinellu mecanweithiau cyflawni allweddol, gan gynnwys Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, nodau llesiant, a dangosyddion cenedlaethol, ac yn tynnu sylw at rolau Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Archwilydd Cyffredinol.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru