Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2015, ac roedd y rhan fwyaf o ddarpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf hon yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ei nod yw rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ac mae wedi ei chynllunio i sicrhau bod camau gweithredu yn diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Cyhoeddiad Newydd: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (PDF, 1MB)
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru