Cyhoeddiad Newydd: Cynllunio gofodol morol - nodyn ymchwil

Cyhoeddwyd 23/05/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

23 Mai 2016 Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Yn sgil Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, sefydlwyd system newydd ar gyfer cynllunio ym moroedd y DU.1 Mae cynllunio gofodol morol yn creu fframwaith ar gyfer gweithgareddau yn nyfroedd y glannau a’r môr mawr. Nod y broses gynllunio yw sicrhau bod rhanddeiliaid yn deall pa weithgareddau sy’n debygol o gael eu caniatáu a datrys, cyhyd ag y bo modd, unrhyw wrthdaro’n ymwneud â defnyddio’r môr a hynny ar sail ofodol. Mae’r papur briffio hwn yn rhoi cyflwyniad i gynllunio gofodol morol ac yn amlinellu hynt y gwaith hyd yma yng ngwledydd y DU. Cynllunio gofodol morol - nodyn ymchwil (PDF, 2.27MB) MSP cover welsh View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Hyrwyddwyd gan Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA