Ar 10 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Phapur Gwyrdd, Brexit a'n tir. Mae'r cynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir newydd i Gymru, gan gynnwys ffermio a choedwigaeth, y disgwylir iddi ddisodli'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae hyn yn cynnwys cynllun Nwyddau Cyhoeddus newydd a fyddai'n darparu cymorth uniongyrchol ar gyfer darparu nwyddau cyhoeddus, yn arbennig ar gyfer yr amgylchedd. Mae dull yn 'seiliedig ar ganlyniadau' wedi'i gynnig.
Mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi sefydlu cytundeb Fframwaith Academaidd Brexit. Yn y Fframwaith, mae arbenigwyr yn darparu gwasanaethau ymchwil a chyngor i Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Brexit i ategu gwaith y Gwasanaeth Ymchwil.
Mae'r Athro Mike Christie o Brifysgol Aberystwyth wedi darparu'r dadansoddiad a ganlyn o astudiaeth achos. Mae'n ystyried enghreifftiau presennol o ddulliau sy'n seiliedig ar ganlyniadau i reoli tir a thaliadau a'r risgiau a'r cyfleoedd cysylltiedig.
Cyhoeddiad Newydd: Cynlluniau rheoli tir yn seiliedig ar ganlyniadau: dadansoddiad o astudiaeth achos (PDF, 866KB)
Erthygl gan yr Athro Mike Christie, Prifysgol Aberystwyth a Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru