Cyhoeddiad newydd: Canlyniadau TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru ar gyfer 2013

Cyhoeddwyd 13/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/10/2020   |   Amser darllen munudau

13 Medi 2013 Results cover CymMae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cyhoeddi Nodyn Ymchwil ar ganlyniadau'r arholiadau a gafwyd yn 2013, sef y canlyniadau a gyhoeddwyd ym mis Awst. Mae'r nodyn hwn yn rhoi trosolwg o ganlyniadau dros dro Cymru ar gyfer yr arholiadau Safon Uwch a TGAU a gafwyd yn 2013, a chrynodeb o ganlyniadau Bagloriaeth Cymru ar gyfer haf 2013. Darperir cymariaethau gyda'r canlyniadau a welwyd yn 2012, a chyda'r canlyniadau a gafwyd yn Lloegr lle bo hynny'n briodol. Mae rhai o'r prif bwyntiau wedi'u rhestru isod. Safon Uwch
  • Arhosodd y ganran gyffredinol a basiodd eu harholiadau yng Nghymru (A*-E) yr un peth, sef 97.6 y cant. Yn Lloegr, gwelwyd cynnydd bach o 0.1 pwynt canran.
  • Cynyddodd y ganran a gafodd radd A*-C o 0.2 pwynt canran i 75.2 y cant. Yn Lloegr, gwelwyd cynnydd o 0.6 pwynt canran, i 77.0 y cant;
  • Caeodd y bwlch rhwng y rhywiau yng Nghymru ychydig o ran y rhai a gafodd radd A* ac A*-C. O ran y rhai a gafodd radd A*-E, arhosodd y bwlch yr un peth, sef 1.1 pwynt canran;
  • Fodd bynnag, tyfodd y bwlch rhwng y rhywiau ymhlith y rhai a gafodd radd A*-A yng Nghymru, o 1.2 pwynt canran yn 2012 i 2.3 pwynt canran yn 2013. Cafodd 23.9 y cant o ferched radd A*-A, o gymharu â 21.6 o fechgyn;
  • Mae Lloegr yn parhau i sicrhau canlyniadau gwell na Chymru.
TGAU
  • Yng Nghymru, gostyngodd y ganran a gafodd radd A* o 0.4 pwynt canran a'r ganran a gafodd radd A*-C o 0.1 pwynt canran;
  • Mae'r bwlch rhwng merched a bechgyn wedi cynyddu ar bob lefel yng Nghymru (gradd C neu uwch), ac eithrio'r ganran gyffredinol a basiodd (A*-G), lle caeodd y bwlch o 0.1 pwynt canran i 0.4 y cant yn 2013;
  • Mae Lloegr yn parhau i sicrhau canlyniadau gwell na Chymru.  Fodd bynnag, mae'r bwlch mewn cyrrhaeddiad wedi cau.
Bagloriaeth Cymru
  • Mae nifer yr ymgeiswyr sy'n cwblhau'r rhaglen ar y lefelau uwch a chanolraddol yn parhau i gynyddu.
  • Gwelwyd gostyngiad bach yng nghanran yr ymgeiswyr a gafodd y diploma uwch, o 82.8 y cant yn 2012 i 82.7 y cant yn 2013;
  • Cafodd 73.9 y cant y diploma canolraddol, sy'n golygu cynnydd o 6.8 pwynt canran o 2012.
  • Gwelwyd gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr a gwblhaodd y rhaglen ar y lefel sylfaen, er i gyfran y rhai a gafodd y diploma gynyddu o 63.5 y cant yn 2012 i 77 y cant yn 2013.
Erthygl gan Michael Dauncey.