Mae’r canllawiau hyn ar gyfer 2020/21 yn fersiynau wedi’u diweddaru o’r canllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Ymchwil y Senedd. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai sy’n astudio cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach.
Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach 2020/21
Nod y canllaw hwn yw rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am y gwahanol fathau o gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi o fis Medi 2020 ymlaen os ydych eisoes yn astudio cwrs addysg bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru, neu’n bwriadu gwneud hynny.
Cyhoeddiad Newydd: Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach 2020/21 (PDF, 835 KB)
Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn Addysg Uwch 2020/21
Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n bwriadu astudio cwrs addysg uwch amser llawn neu ran-amser yn ystod Blwyddyn Academaidd 2020/21 ac sy’n byw yng Nghymru fel arfer.
Cyhoeddiad Newydd: Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn Addysg Uwch 2020/21 (PDF, 854 KB)
Cyllid ar gyfer addysg i oedolion ac ôl-raddedigion 2020/21
Bwriad y canllaw hwn yw helpu myfyrwyr sy’n oedolion ac ôl-raddedigion i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i’w helpu i astudio naill ai cwrs addysg uwch, neu fath arall o gwrs nad yw’n gwrs prifysgol.
Cyhoeddiad Newydd: Cyllid ar gyfer addysg i oedolion ac ôl-raddedigion 2020/21 (PDF, 376 KB)
Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru