Yn dilyn cais ffurfiol gan y Prif Weinidog, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael ei alw yn ôl er mwyn trafod y datblygiadau diweddaraf ar Brexit ddydd Iau 5 Medi. Lluniwyd y briff hwn gan fod y Cynulliad yn cael ei alw'n ôl ac er mwyn helpu Aelodau yn y ddadl gysylltiedig. Mae’n darparu:
- crynodeb o'r prif ddatblygiadau diweddaraf yn ymwneud â'r DU yn ymadael â'r UE;
- rhestr o'r dyddiadau arwyddocaol cyn y disgwylir i'r DU ymadael â'r UE ar 31 Hydref.
Bydd Adroddiad Monitro Brexit llawn yn cael ei gyhoeddi ar 18 Medi.
Cyhoeddiad Newydd: Brexit ac Addoedi Senedd y DU (PDF, 6016KB)
Erthygl gan Sara Moran a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru