Cyhoeddiad Newydd: Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Crynodeb o'r Fil

Cyhoeddwyd 05/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

05 Mai 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Cyflwynwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) (“y Bil”) ar 16 Ionawr 2017 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AC. Cyflwynwyd y Bil gan Lywodraeth Cymru er mwyn datgymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf yr Undebau Llafur 2016 y DU fydd, ym marn Llywodraeth Cymru, yn cael “effaith andwyol ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu ar sail partneriaethau cymdeithasol yng Nghymru”. Y bartneriaeth gymdeithasol yw’r dull y defnyddir gan Lywodraeth Cymru wrth reoli staff y sector cyhoeddus ac ymdrin â chysylltiadau diwydiannol yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y darpariaethau yn Neddf yr Undebau Llafur 2016 mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu datgymhwyso gyda’r Bill hwn yw:
  • y ddarpariaeth sy’n ymwneud ag ‘amser cyfleuster’;
  • y ddarpariaeth sy’n ymwneud â didynnu tanysgrifiadau undeb o gyflogau gweithwyr; ac
  • y ddarpariaeth sy’n ymwneud â’r trothwy o 40% o bleidleisiau o blaid gweithredu diwydiannol, sy’n effeithio ‘gwasanaethau cyhoeddus pwysig’ yng Nghymru.
Mae briff y Gwasanaeth Ymchwil yn crynhoi darpariaethau’r Bil, y cefndir i’w gyflwyno, ac ystyriaethau o unrhyw oblygiadau cyllidol wrth gyflwyno’r Bil. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ar welliant y gallai Llywodraeth Cymru ei gyflwyno yn ystod Cyfnod 2 ynglŷn â’r defnydd o weithwyr asiantaeth yn ystod cyfnodau o weithredu diwydiannol. Bydd dadl Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru) yn cael ei chynnal ar ddydd Mawrth, 9 Mai 2017. Bil yr Undebau Llafur (Cymru) – Crynodeb o'r Fil (PDF, 104MB)
Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.