Cyhoeddiad newydd: Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) – gwelliannau Cyfnod 2

Cyhoeddwyd 20/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 29 Medi 2016, cadarnhaodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi'u hailddosbarthu fel Corfforaethau Cyhoeddus Anariannol at ddibenion cyfrifon cenedlaethol y DU ac ystadegau economaidd eraill gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru wedi’u dosbarthu fel corfforaethau preifat anariannol cyn hynny. Diben y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yw lleihau rheolaethau'r llywodraeth ganolog a lleol dros landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, fel y gall y Swyddfa Ystadegau Gwladol adolygu'r modd y dosberthir landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'u rhoi'n ôl yn y sector preifat. Cynhelir trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Ebrill 2018.

Cyhoeddiad newydd: Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) – gwelliannau Cyfnod 2 (PDF, 1851KB)


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru