Mae'r papur ymchwil hwn yn edrych ar gyflwyno Bil Pysgodfeydd y DU a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cysylltiedig a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'n trafod prif elfennau'r Bil, ac ymatebion i'r Bil sy'n tynnu sylw at feysydd pryder rhanddeiliaid.
Mae crynodeb o'r Ail Ddarlleniad wedi'i gynnwys, ynghyd â chrynodeb o'r gwelliannau a gymeradwywyd o fewn y Bil fel y'i diwygiwyd. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i'r gwelliannau, ac fe'i trafodir yn y papur hefyd.
Bydd y papur hwn yn cael ei ddiweddaru gydag unrhyw ddatblygiadau yn y Bil.
Cyhoeddiad newydd: Cyhoeddiad Newydd: Bil Pysgodfeydd y DU 2017-19: Crynodeb o'r Bil (PDF, 3288KB)
Erthygl gan Lorna Scurlock, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru