Cyhoeddiad Newydd: Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (20/03/2014)
Cyhoeddwyd 20/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
20 Mawrth 2014
Gwasanaeth Ymchwil Cynullaid Cenedlaethol Cymru
Mae’r papur briffio hwn yn darparu gwybodaeth am berfformiad Byrddau Iechyd Lleol yn ôl targedau amser Llywodraeth Cymru ynghylch aros am driniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Caiff y rhan fwyaf o amseroedd aros y GIG yng Nghymru eu mesur yn ôl yr amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth (RTT), ond mae nifer o eithriadau. Y cyfnod rhwng atgyfeirio a thriniaeth yw’r amser rhwng yr atgyfeiriad gan Feddyg Teulu neu ymarferydd meddygol arall a phan fydd y claf yn cyrraedd yr ysbyty i gael triniaeth.
Amseroedd Aros rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol