Bydd Brexit yn dod â newidiadau sylweddol ym maes polisi amgylcheddol. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi paratoi’r adroddiad monitro hwn ar gyfer Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad. Mae’n cynnig diweddariad ar ddatblygiadau Brexit diweddar sy’n bwysig o ran polisi amgylcheddol yng Nghymru.
Ar 14 Tachwedd 2018, wrth i’r adroddiad hwn gael ei anfon i’w argraffu, daeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Comisiwn Ewropeaidd i gytundeb ar Gytundeb Ymadael drafft er mwyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Bydd manylion yr hyn sydd wedi'i gynnwys yn y Cytundeb Ymadael drafft ynglŷn â pholisi’r amgylchedd yn cael eu cynnwys yn rhifyn nesaf yr adroddiad hwn.
Cyhoeddiad Newydd: Adroddiad Monitro Brexit – Yr Amgylchedd (PDF, 2704KB)
I weld y diweddaraf am beth mae’r Cynulliad yn ei wneud o ran Brexit, gallwch ddilyn ein tudalen newydd, Y Cynulliad a Brexit.
Erthygl gan Francesca Howorth, Katy Orford, Elfyn Henderson, Chloe Corbyn, Lorna Scurlock, Chris Wiseall and Siân Davies, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru